Eitem ar yr agenda
TCC A GWASANAETH TU HWNT I ORIAU ARFEROL
Ystyried adroddiad cyfrinachol (copi ynghlwm) sy’n ceisio safbwynt yr
Aelodau ar gynigion ar gyfer darpariaeth TCC a Gwasanaeth Tu Hwnt i Oriau
Arferol ledled y Sir i'w cyflwyno i’r Cyngor Sir.
09:35 – 10:05
Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor
ystyriaeth i adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd
(PCDC) a'r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn
amlinellu’r cynigion, oherwydd cyfyngiadau cyllidebol, i dynnu gwasanaeth TCC y
Sir yn dilyn strategaeth ymadael a reolir. Atgoffodd
y PCDC yr aelodau bod adroddiad wedi dod i’r Pwyllgor Archwilio 12 mis yn ôl
ynghylch yr anghysondebau yn y ddarpariaeth teledu cylch cyfyng ar draws y sir
- gyda Sir Ddinbych yn darparu'r
gwasanaeth yng ngogledd y Sir, tra bod y Cynghorau Tref yn Ne'r sir gyda
darpariaeth eu hunain - gyda'r bwriad o weld a fyddai ehangu gwasanaeth Sir
Ddinbych ledled y sir yn opsiwn hyfyw. Mae'r amgylchedd ariannol wedi newid yn
sylweddol ers hynny. Yn y misoedd diwethaf mae'r Awdurdod wedi
mynd drwy'r broses Rhyddid a Hyblygrwydd ac wedi ystyried y ddarpariaeth teledu
cylch cyfyng fel rhan o weithdai’r gyllideb. Er y cytunwyd bod y gwasanaeth yn
werthfawr nid oedd yn ofyniad statudol ac felly nid yn un y dylai Sir Ddinbych
ei ariannu.
Dywedwyd wrth yr
Aelodau y byddai'r adroddiad a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ym mis
Rhagfyr yn rhoi cynigion i archwilio opsiynau ar gyfer trosglwyddo'r gwasanaeth
teledu cylch cyfyng drosodd i drydydd parti ac i gytuno i dynnu cyllid y Cyngor
yn ôl ar gyfer y gwasanaeth yn weithredol o Ebrill 2016.
Byddai hyn yn
galluogi archwilio a thrafod opsiynau eraill o gyflenwi'r gwasanaeth yn ystod
2015/16, gyda golwg ar ddod i gytundeb gyda thrydydd parti (neu grŵp o
randdeiliaid) i hwyluso trosglwyddiad di-dor o offer ac i sefydlu gwasanaeth
arall o safon erbyn mis Ebrill 2016.
Dywedwyd wrth yr
Aelodau, er bod Sir Ddinbych wedi cytuno mewn egwyddor i ymchwilio ymhellach i
hyfywedd uno gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, roedd y gwaith hynny’n dal i
fod mewn camau cynnar iawn. Felly, byddai'n gynamserol i ddal yn ôl ar
unrhyw benderfyniadau i dorri’r gyllideb yn amodol ar y gwaith uno sy’n mynd
rhagddo, gan fod yn rhaid gwireddu arbedion effeithlonrwydd y gyllideb yn y
dyfodol agos er mwyn i Sir Ddinbych allu
darparu cyllideb gytbwys ar gyfer y blynyddoedd ariannol sydd i ddod.
Ar ôl trafod y goblygiadau yn fanwl, dyma aelodau'r Pwyllgor yn:
·
pwysleisio
pwysigrwydd y broses rheoli trosglwyddiad y Gwasanaeth cyfredol i ddarparwr
arall;
·
cydnabod
nad oedd y gwasanaeth newydd yn debygol o fod yn wasanaeth tebyg i debyg, ond
cytunwyd y dylai fod yn wasanaeth o ansawdd da;
·
cefnogi'r
cynnig i sefydlu gweithgor aml-asiantaeth i lunio a gweithredu strategaeth
ymadael. Byddai’r Grŵp hwn yn ogystal ag edrych ar y
ddarpariaeth TCC mewn mannau cyhoeddus cyfredol sydd ar gael yn y tair tref a
enwir hefyd yn edrych ar y defnydd cymunedol ehangach o TCC drwy Bartneriaeth
Diogelwch Cymunedol (PDC), yn archwilio gallu'r partneriaid 'ar y cyd’ i
ddarparu gwasanaeth teledu cylch cyfyng a photensial ffrydiau ariannu ee Elw
arian Cronfa Troseddau Comisiynydd yr Heddlu ar gyfer ariannu unrhyw wasanaeth
amgen;
·
awgrymwyd
y dylai Archwilio (o bosib Pwyllgor Archwilio Partneriaethau yn Bwyllgor Archwilio
Trosedd ac Anhrefn dynodedig) fonitro datblygiad a gweithrediad y strategaeth
ymadael a throsglwyddiad y Gwasanaeth i drydydd parti; a
·
pwysleisio’r
angen i hysbysu'r wasg a'r cyfryngau yn rheolaidd, os yn bosibl mewn person,
ynglŷn â manylion cynigion y gyllideb er mwyn sicrhau bod y cynigion yn
cael eu hadrodd yn ffeithiol i drigolion
Penderfynwyd: bod
(i)y sylwadau uchod mewn perthynas â'r prosiect
Rhyddid a Hyblygrwydd a’r cynigion sy’n berthnasol i’r Gwasanaeth Teledu Cylch
Cyfyng yn cael ei adrodd i'r Cyngor Sir ar 9 Rhagfyr; a
(ii) y cynnydd a wnaed wrth ddyfeisio, sicrhau a
gweithredu strategaeth ymadael, ac atebion amgen ar gyfer cyflwyno gwasanaeth
teledu cylch cyfyng yn y dyfodol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio i
gael ei archwilio maes o law
Dogfennau ategol: