Eitem ar yr agenda
CYLCH GORCHWYL PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi ynghlwm) a cheisio barn
yr aelodau ar drosglwyddo meysydd o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor hwn i Bwyllgor
Safonau y Cyngor.
Cofnodion:
Cafodd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro, a
oedd yn ceisio barn y Pwyllgor ar drosglwyddo meysydd o Gylch Gorchwyl y
Pwyllgor i Bwyllgor Safonau'r Cyngor yn flaenorol.
Eglurodd yr HLHDS fod llwyth gwaith y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn cynyddu. Roedd yr adroddiad yn gofyn
am safbwyntiau ar drosglwyddo meysydd y gellid ymdrin â hwy o bosibl gan y
Pwyllgor Safonau.
Roedd ‘awdurdod’ presennol y Pwyllgor Safonau ond
yn ymdrin â chydymffurfio monitro â’r Cod Ymddygiad i Aelodau, codi safonau
moeseg a gonestrwydd, hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad a chwynion ynghylch
Aelodau a delio â chyfeiriadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
(OGCC); gan gynnwys chwarae rôl ym Mhrotocol Hunan Reoliadol y Cyngor. Roedd y
Pwyllgor Safonau yn cyfarfod bob dau fis ar gyfartaledd ac yn cynnwys 2
Gynghorydd Sir, 4 aelod annibynnol a gafodd eu recriwtio drwy hysbyseb
cyhoeddus ac 1 aelod o Gyngor Cymuned. Dim ond pan fyddai’r
mwyafrif sy’n bresennol yn Aelodau annibynnol y gallai’r Pwyllgor Safonau fod
yn gworwm.
Roedd rhai awdurdodau lleol wedi ymestyn cylch
gorchwyl eu Pwyllgor Safonau i ymdrin â materion fel rhannu pryderon a chwynion
i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan aelodau o'r cyhoedd ynghylch
camweinyddu. Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod cyfle i
ystyried llwyth gwaith cynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a’i
drosglwyddo i'r Pwyllgor Safonau. Byddai'r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan
y Cyngor Llawn ac yn cael ei ymgorffori yn yr adolygiad o'r Cyfansoddiad. Roedd yr
adroddiad yn gofyn am farn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar yr ymagwedd
hon.
Roedd trafodaethau rhwng Cadeiryddion y Pwyllgorau
yn ymddangos bod lle i ddadlau ar drosglwyddo rhai neu bob un o'r meysydd
canlynol o’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i’r Pwyllgor Safonau, yn
ogystal â chadw ei gylch gwaith presennol:-
a)
Rhannu pryderon.
b)
Indemniadau ar gyfer Swyddogion ac Aelodau.
c)
Cwynion gan gynnwys Cwynion i’r OGCC gan aelodau o'r
cyhoedd am y Cyngor (camweinyddu).
d)
Cwynion Comisiynydd Gwybodaeth ac adolygiad o
weithgareddau’r Cyngor o dan y Ddeddfwriaeth Gwybodaeth (Diogelu Data a Rhyddid
Gwybodaeth).
Cafodd y materion eu trafod yn sydyn yn y Pwyllgor
Safonau ar 18 Gorffennaf, 2014 ac roedd diddordeb wedi bod mewn ymgymryd â
chylch gwaith ehangach.
Mynegwyd y safbwyntiau canlynol gan Aelodau o'r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol: -
Teimlai'r Cadeirydd y gellid trosglwyddo a) a b)
i'r Pwyllgor Safonau, ond mynegodd amheuon ynghylch trosglwyddo c) a d). Teimlai y dylai
d) aros gyda'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, fel c), a allai olygu mynd
i'r afael â materion ar lefel gorfforaethol.
Mynegodd y Cynghorydd G.M. Kensler y farn y gellid trosglwyddo d) i’r
Pwyllgor Safonau, a chadw a) ac c) gyda'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
Teimlai'r Cynghorydd J. Butterfield y gellid
trosglwyddo a), b), ac c) i'r Pwyllgor Safonau, ond roedd angen rhagor o
wybodaeth mewn perthynas â d).
Cyfeiriodd y Cynghorydd M.L. Holland at
gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau. Roedd o'r farn y gellid trosglwyddo a) i’r Pwyllgor
Safonau o ystyried y gymhareb o Aelodau Annibynnol.
Awgrymodd Mr
P. Whitham y gallai'r gwaith a wneir gan y Pennaeth Archwilio Mewnol, o ran
blaen raglen waith y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, a chynnwys Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, gael eu defnyddio wrth
ystyried trosglwyddo meysydd gwaith. Gan fod d) wedi cael ei
nodi fel Risg Gorfforaethol, teimlai y dylai aros gyda'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol, a gan fod a) yn rhan annatod o'r Polisi Gwrth-dwyll,
Llygredigaeth a Llwgrwobrwyo, y dylai aros gyda'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol.
Hysbysodd HLHDS y Pwyllgor y byddai angen taro
cydbwysedd o ran d) ynghylch ble byddai’r lle mwyaf priodol i osod meysydd gwaith. Eglurodd y
byddai swyddogion yn delio â cheisiadau am wybodaeth a bod Polisi ar waith i
fynd i'r afael â materion cysylltiedig. Fel un o’r Risgiau
Corfforaethol sy’n gysylltiedig â Diogelu Data, awgrymwyd y dylai d) aros
gyda'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol o bosibl. O ran cwynion
yn ymwneud â’r Ombwdsmon, esboniwyd y gallai cwynion ymwneud â sut y mae
gwasanaeth yn cael ei gyflwyno ac nid yn fater sy’n ymwneud ag ymddygiad Aelod
neu gyflogai.
Amlygodd y Pennaeth Archwilio Mewnol bwysigrwydd yr
angen i wahaniaethu rhwng rolau'r ddau Bwyllgor priodol. Eglurodd y
gallai cwynion a dderbyniwyd ymwneud ag unigolyn neu system, neu ymddygiad
swyddogion neu Aelodau, a chwestiynodd a fyddai'n briodol i'r Pwyllgor Safonau
archwilio cwynion sy'n seiliedig ar wasanaethau. Cymeradwyodd PCChA y
safbwyntiau a fynegwyd bod mater y cwynion yn fater gwasanaeth ac y dylai aros
gyda’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
Ymatebodd y Cynghorydd B.A. Smith i gwestiynau gan
Aelodau a chyfeiriodd at y rhestr o Bolisïau’r Cyngor, yr oedd AD yn gweithio
arnynt i’w gwneud yn haws eu defnyddio.
Crynhodd y Cadeirydd y drafodaeth a chadarnhaodd y
Pwyllgor y canlynol: -
a) Rhannu pryderon - Mynegwyd safbwyntiau amrywiol.
b) Indemniadau ar gyfer Swyddogion ac Aelodau –
Gellid eu trosglwyddo i'r Pwyllgor Safonau.
Cwynion gan gynnwys Cwynion i’r OGCC gan aelodau
o'r cyhoedd am y Cyngor (camweinyddu) – Mynegwyd safbwyntiau amrywiol. Dylai
cwynion lefel gwasanaeth aros gyda'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, tra
gallai cwynion yn ymwneud ag unigolion gael eu trosglwyddo o bosibl i'r
Pwyllgor Safonau.
Cwynion Comisiynydd Gwybodaeth ac adolygiad o
weithgareddau’r Cyngor o dan y Ddeddfwriaeth Gwybodaeth (Diogelu Data a Rhyddid
Gwybodaeth) – Consensws cyffredinol safbwyntiau yw aros gyda’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, gofynnodd y
Pwyllgor i’r HLHDS gynnwys barn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn yr
Adolygiad Cyfansoddi, cysylltu â'r Pwyllgor Safonau ynghylch y safbwyntiau a
fynegwyd, edrych ar y Cyfansoddiad yn ei gyd-destun ehangach a chyflwyno
adroddiad cynnydd pellach i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn derbyn ac yn nodi’r
manylion yn yr adroddiad.
(b)
yn gofyn bod HLHDS yn
cynnwys barn y Pwyllgor o ran yr Adolygiad Cyfansoddi, cysylltu â'r Pwyllgor
Safonau ynghylch y safbwyntiau a fynegwyd ac yn edrych ar y Cyfansoddiad yn ei
gyd-destun ehangach, ac
(c)
yn cytuno bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn adroddiad cynnydd pellach.
(GW ac IB i Weithredu)
Dogfennau ategol: