Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWEITHDREFNAU GADAEL YSBYTAI

Ystyried adroddiad ar lafar ynglŷn â chynhyrchu cynlluniau gofal i gefnogi cleifion sy’n gadael ysbytai.

11:15 – 11:45

 

Cofnodion:

Trafodwyd y cyflwyniad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ac adroddiadau ar lafar ar gyfer Ardaloedd a Gweithdrefnau Gadael Ysbytai, o dan yr un eitem fusnes. Roedd y cyflwyniad yn tynnu sylw at yr adborth a dderbyniwyd hyd yn hyn a'r ystadegau ar y nifer sy'n manteisio ar y Gwasanaeth Ardaloedd newydd. 

 

Fe rannwyd gwybodaeth ynghylch yr ardaloedd ychwanegol sydd wrthi’n cael eu datblygu yn rhan o’r Gwasanaeth, a oedd yn cynnwys cynllunio gweithlu. Rhoddwyd  manylion  am  Wasanaeth Pwynt Mynediad Sengl a gafodd ei lansio’n ddiweddar, gan gynnwys yr asesiadau gwahanol sydd ar gael yn rhan o’r Gwasanaeth hwn. Mae'r gwasanaethau Ardaloedd a Phwynt Mynediad Sengl yn cefnogi cynllunio ar gyfer gadael ysbyty a gofalwyr i’w cefnogi.   

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, dywedodd y swyddogion:

 

• o 1 Rhagfyr 2014, byddai un ddogfen nyrsio integredig 16 tudalen yn cael ei chyflwyno ym mhob ysbyty BIPBC. Byddai'r ddogfen hon yn manylu ar 'daith' y claf yr holl ffordd drwodd o gael eu derbyn i’r ysbyty hyd at gael gadael, a byddai’n cynnwys yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i gynorthwyo a gwella’r broses gadael. Fe luniwyd y ddogfen i wella  ansawdd y wybodaeth sydd ar gael i'r holl fudd-ddeiliaid, gan gynnwys y Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl, gan ei fod wedi dod i’r amlwg bod gan ysbytai cymuned wybodaeth o safon llawer gwell ar siwrneiau cleifion drwy ysbytai;

• roedd uwch arweinwyr bellach yn cael eu cyflwyno i ysbytai  cymuned ac roedd y Bwrdd Iechyd yn edrych ar ddichonoldeb newid y broses gadael dan arweiniad ‘meddyg penodol’ mewn  ysbytai cymuned, i broses dan arweiniad amlddisgyblaethol. Roedd angen gwneud rhagor o waith i ymdrin â’r cynnig hwn;

• roedd gan yr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (YGAC) fodel effeithiol ar waith a elwir yn Paramedic Pathfinder - ei nod oedd darparu lefel briodol o ofal ar yr amser priodol. Mae ymdrechion ar y gweill i geisio dod â'r YGAC i mewn i'r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl gan y teimlwyd y byddai hyn yn cyd-fynd â'r gwasanaethau sydd eisoes ar gael dan Pwynt  Mynediad Sengl;

• roedd  angen mwy o waith er mwyn cryfhau'r cysylltiadau gwaith gyda'r sector annibynnol;

• roedd y Gwasanaeth Ardaloedd yn wasanaeth hyblyg wedi’i  anelu at ddiwallu anghenion pobl a chefnogi eu hannibyniaeth mewn modd effeithiol, â llai o ogwydd tuag at y broses, ac esmwyth rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac i'r gwrthwyneb;

• roedd timau amlddisgyblaeth bellach yn weithredol ym mhob Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Mae'r timau hyn wrth law i rannu arbenigedd, gwybodaeth ac i gyfeirio cleifion a gofalwyr i holl wasanaethau sydd ar gael iddynt;

• mae pob meddygfa teulu yn Sir Ddinbych, ac eithrio un, yn ymwneud â’r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl;

• byddai trigolion Sir Ddinbych oedd yn derbyn driniaeth mewn ysbyty y tu allan i’r sir hefyd yn cael yr un hawliau i’r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl â’r rheini oedd yn derbyn  triniaeth o fewn y sir.

• gallai unigolion gyfeirio eu hunain i’r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl. Gallai pobl eraill gyfeirio pobl at y Gwasanaeth gyda chaniatâd yr unigolyn. Yr unig amser nad oedd angen caniatâd yr unigolyn i gyfeirio at y Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl oedd os oedd pryderon diogelu;

• fel gydag unrhyw wasanaeth ifanc, byddai yna drafferthion. Ar ôl gweithio drwy’r rhain, roedd  gan y cysyniad y potensial i fod yn wasanaeth da iawn ar gyfer yr unigolion sydd ei angen a’r ymarferwyr, gan ei fod cyfuno agweddau allweddol o wasanaethau  iechyd a gofal cymdeithasol ac yn gwneud y cyfan ar gael drwy gysylltiad cychwynnol gyda’r gwasanaeth;

• cytunodd swyddogion y  byddai copi o  daflen  a  cherdyn busnes Pwynt Mynediad Sengl ar gael i bob cynghorydd sir drwy’r system bost mewnol, byddai hyn yn galluogi cynghorwyr i hyrwyddo’r gwasanaeth i drigolion yn eu hardaloedd;  

·                roedd atgyfeiriadau Anableddau Dysgu i’r Gwasanaeth  Pwynt Mynediad Sengl yn tueddu i fod yn bobl ifanc yn cael eu  trosglwyddo o Wasanaethau Plant i Wasanaethau Oedolion;  

·                byddai'r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl yn ystyried dewis iaith defnyddwyr gwasanaethau er mwyn cyfathrebu.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd: derbyn yr adroddiadau a gofyn am adroddiad ar y cynnydd a wnaed gyda sefydlu'r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl i gael ei gynnwys yn rhaglen gwaith i’r  dyfodol y Pwyllgor ymhen deuddeg mis, yn amodol ar y sylwadau uchod.