Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

FFRAMWAITH AR GYFER DARPARU GWASANAETHAU IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL AR GYFER POBL HŶN AG ANGHENION CYMHLETH

Ystyried adroddiad ar y cyd (copi ynghlwm) ynglŷn â’r camau gweithredu a gymerwyd er mwyn datblygu’r gwasanaethau integredig a’r strwythur llywodraethu mewn perthynas â darparu gwasanaethau integredig ar gyfer pobl hŷn. 

 

9:35 – 10:05

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Arweiniol dros Ofal  Cymdeithasol  i  Oedolion  a  Gwasanaethau  Plant  yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) tra y bu’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes a Chyfarwyddwr Cynllunio Dros Dro BIPBC, yn rhoi gwybod i’r pwyllgor sut roedd y prosiect yn datblygu mewn perthynas â meysydd priodol.

 

Fe atgoffwyd y Pwyllgor o faint y prosiect hwn gan ddweud bod y Comisiynydd Pobl Hŷn yn awyddus iawn i hyrwyddo’r gwasanaeth a’i weld yn ymestyn i fodel gwasanaeth 7 diwrnod. Er mwyn i hyn gael ei gyflawni mae angen gwneud llawer iawn o waith ac mae angen dod o hyd i’r adnoddau i'w gefnogi. Nodwyd:

• bod gan ddefnyddwyr gwasanaeth gyfradd boddhad uchel gyda'r  gwasanaeth hyd yn hyn  

• yn allweddol i gyflwyno gwasanaeth da fyddai llywodraethu da, felly yn ystod y misoedd nesaf, bydd y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Sir Ddinbych yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau ei fod yn addas at y diben ac yn cyd-fynd â strwythurau newidiol y Bwrdd Iechyd.

 

Mynegodd aelodau'r pwyllgor bryderon am adroddiadau a dderbyniwyd gan etholwyr bod gofal cleifion mewn ysbytai yn amhersonol weithiau, a bod y diffyg empathi a phryder ymddangosiadol wedi gadael rhai pobl â chanfyddiad o safon wael o nyrsio.   

 

 

Cydnabuwyd bod y mater hwn wedi cael sylw fel maes pryder yn Adroddiad Andrews yn ddiweddar, 'Ymddiried mewn Gofal', ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac yn sgil hynny, roedd pob Bwrdd Iechyd wedi ei adolygu. Mae hyn wedi arwain at gyflwyno ymweliadau dirybudd a’r Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) i weithredu "gwylio gofal" mewn ysbytai.

 

Parhaodd y Cyngor Iechyd Cymuned i gynnal ymweliadau â  rhybudd a rhai dirybudd ar bob agwedd o ofal, gan gynnwys trugaredd ac urddas. Mae'r ymweliadau hyn wedi bod yn arf hynod o werthfawr ar gyfer nodi arferion gwaith da a drwg ac i rannu arfer da. Fe wnaeth cynrychiolwyr iechyd wirio a oedd hawl i’r  ymweliadau  hyn ddigwydd yn ystod 'amser llonydd i gael bwyd'.

 

Roedd  cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod angen  gwneud mwy o waith i addysgu’r staff Iechyd am fanteision  ymweliadau Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer cleifion a   gweithwyr iechyd fel eu gilydd. Mae angen meddwl am y Cyngor Iechyd Cymuned fel cyfaill cefnogol yn hytrach na gwrthwynebydd beirniadol.

 

Clywodd y Pwyllgor fod Ysbyty Maelor Wrecsam wedi bod yn cymryd rhan mewn cynllun peilot o'r enw 'i  Want  Great  Care’, a oedd yn holi barn cleifion am eu profiadau gofal yn yr ysbyty. Fel yr arfer, bydd y cynllun peilot hwn yn cael ei werthuso ar ôl iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2015 cyn dod i benderfyniad ar ei addasrwydd i’w gyflwyno ar draws sefydliadau Bwrdd Iechyd eraill. Byddai angen ystyried yr amharodrwydd posibl i adrodd nôl ar brofiad negyddol petai angen triniaeth barhaus.

 

Rhoddwyd sicrwydd i’r aelodau gan swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

• bod trugaredd ac urddas yn ffurfio rhan o'r rhaglen hyfforddi nyrsio sylfaenol;

• bod trin pobl ag urddas a thrugaredd yn rhan annatod o alwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol;

• y dylai pawb gael eu trin yn gwrtais a chyda pharch bob amser a dylid annog staff i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau nad  oedd yn cyrraedd y nod hwn. 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes bod staff rheng flaen wedi cael hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid yn  ddiweddar ar "Dull Sir Ddinbych" a oedd wedi arwain at lyfr gwaith a fyddai'n cael ei ddosbarthu i bob gweithiwr. Dywedodd y derbyniwyd ymateb cwbl gadarnhaol gan gleifion i wasanaethau a oedd yn cael eu darparu dan y Fframwaith hwn, ac roeddynt yn teimlo eu bod wedi’u trin ag urddas a pharch. Serch hynny, gofynnodd yr aelodau i'r swyddogion fod yn ystyriol  o lefel uchel o fodlonrwydd ffug gyda lefel y gwasanaethau, ar y sail fod pobl ddiamddiffyn yn gyndyn o feirniadu’r gwasanaethau roeddynt yn eu derbyn am eu bod ofn eu colli.

 

Fe gadarnhaodd y Swyddogion Bwrdd Iechyd hefyd fod gweithwyr newydd yn gwylio ffilm addysgu “Beth ydych chi’n ei weld pan fyddwch yn edrych arna i?" yn ystod cyflwyniad, a bod hyfforddiant atodol yn orfodol ar gyfer nyrsys, gyda chefnogaeth rowndiau ac arolygon ategol o’r ward.  

 

Gofynnwyd  i swyddogion BIPBC a fyddai Cefnogi Annibyniaeth yn Sir Ddinbych (SID) yn dylanwadu ar ddatblygiad eu cynllun 3 blynedd a sut roeddynt yn gweld y Gwasanaeth Iechyd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Fe sicrhawyd yr aelodau bod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno mewn egwyddor yn ddiweddar, i gefnogi'r dull a amlinellwyd yng Nghynllun Integredig Sengl Bwrdd  Gwasanaethau Lleol  (BGLl) - Cynllun Lles Sir Ddinbych - a’i un  thema o gefnogi  annibyniaeth  a dygnwch. Byddai’r Strategaeth hwn yn llywio rhan o gynllun strategol tair blynedd newydd y Bwrdd Iechyd gan fod nifer o ddyheadau’r Cynllun Lles yn adlewyrchu bwriadau i ddarparu gwasanaeth yn y dyfodol ee, buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol a gofal sylfaenol gyda'r bwriad o leihau hyd arhosiad mewn ysbyty a oedd yn peryglu annibyniaeth hir dymor – roedd ymyrraeth gynnar neu ataliad yn llawer mwy cost effeithiol i bawb yn yr hir dymor.

 

Cydnabuwyd nad oedd llawer o unigolion angen gofal proffesiynol i fyw yn annibynnol, ond eu bod angen cwmni a chyfle i  ryngweithio’n gymdeithasol er mwyn ffynnu. Er mwyn lliniaru'r risg o unigedd cymdeithasol, roedd staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio i ymgysylltu â gwasanaethau arbenigol o blith y sector gwirfoddol i ddarparu digwyddiadau yn y gymuned. Fe awgrymwyd bod meddygon teulu (sef yr unig gyswllt cymdeithasol i rai) yn rhannu gwybodaeth am y perygl o unigedd a’r gwasanaethau a allai fod ar gael iddynt. Byddai unrhyw wasanaethau a gomisiynir gan sefydliadau gwirfoddol (3ydd sector) yn destun trefniadau monitro contract llym a fyddai’n cynnwys materion diogelu.

 

Cyfeiriwyd at orwariant mawr posibl y Bwrdd Iechyd a gafodd sylw yn y wasg yn ddiweddar. Cadarnhaodd swyddogion iechyd nad oedd y Bwrdd yn destun mesurau arbennig ar hyn o bryd a dywedasant fod y Bwrdd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru (LlC) i leihau'r gorwariant, a oedd yn ganlyniad rhannol i gynnydd araf gyda rhaglen moderneiddio gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru, a tharged  arbedion o 8% a osodwyd i’r Bwrdd ei gyflawni.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol am Ofal Cymdeithasol -Gwasanaethau Plant ac Oedolion, a oedd yn gwybod am gynllun drafft 3 blynedd y Bwrdd Iechyd, bod y cynllun yn edrych yn obeithiol gyda thri isranbarth yn seiliedig ar uno arfaethedig Awdurdodau Lleol, ac felly tri ysbyty cyffredinol yn canolbwyntio ar arbenigeddau gwahanol.

 

 

Trafododd y Pwyllgor adolygiad o drefniadau llywodraethu a gweithredu Fforymau Partneriaeth ac Arweinyddiaeth newydd a Phanel Dinasyddion. Gofynnwyd i’r aelodau ystyried y canlynol:

• bod gan unrhyw bwyllgorau neu grwpiau newydd Bwrdd Iechyd oedd yn ymdrin ag ardaloedd awdurdod lleol Conwy a Sir Ddinbych, nifer cyfartal o gynrychiolwyr o'r ddwy ardal arnynt;

• i’r Pwyllgor edrych ar gyfansoddiad, recriwtio a phenodi ar gyfer  y Panel Dinasyddion newydd pan fydd y manylion ar gael  

• i wneud ymholiadau ynglŷn ag a fyddai BIPBC yn gwneud cais am y cyllid ychwanegol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer wasanaethau dementia, ac os felly pa wasanaethau fyddai’n elwa o ystyried mai gogledd Cymru oedd â’r gyfradd isaf yng Nghymru am roi diagnosis dementia.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes, er y byddai arian Cronfa Gofal Canolraddol (CGC) yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2015, roedd yn obeithiol y gallai trafodaethau ddechrau gyda'r Bwrdd Iechyd cyn bo hir i edrych ar gyllid ychwanegol a glustnodwyd i’r Gwasanaeth Iechyd y gellid ei ddefnyddio i ariannu a chefnogi’r gwaith ardderchog a gychwynnwyd gyda’r arian CGC. Gofynnodd hefyd ynghylch argaeledd fideo cyflwyniad y Bwrdd Iechyd ar drugaredd ac urddas sylfaenol er mwyn hyfforddi cynulleidfa  ehangach  staff  gofal  cymdeithasol.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol (Gwasanaethau  Oedolion a Phlant) ei bod eisoes wedi bod gweld  drafft o gynllun tair blynedd newydd y Bwrdd Iechyd. Roedd hi'n teimlo bod modd ei gyflwyno ac roedd hi’n gobeithio na fyddai’r sylw negyddol yn y wasg yn ddiweddar ynghylch y Bwrdd Iechyd yn tynnu sylw oddi ar ei weithrediad ac yn tanseilio ei gallu i’w ddarparu. Roedd yr Aelod Arweiniol yn obeithiol y byddai yna ddull mwy cydlynol wrth ddatblygu polisi genedlaethol a phenderfynu ar gyllid gan fod gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol bellach yn disgyn o fewn portffolio cyfrifoldebau’r Gweinidog LlC.  

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl gan y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: nodi pob gweithred a gymerwyd hyd yn hyn gan yr holl fudd-ddeiliaid i gyflwyno’r Datganiad o Fwriad i ddarparu gwasanaethau integredig ar gyfer pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth, yn amodol ar yr uchod.

 

Dogfennau ategol: