Eitem ar yr agenda
HYLENDID A RHEOLI AFIECHYD
Derbyn cyflwyniad ynglŷn â’r mesurau a gymerwyd gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i leihau afiechydon a geir mewn ysbytai.
10:35 – 11:05
Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio (Atal
Heintiau) BIPBC a amlinellodd y camau a gymerwyd hyd yn hyn er mwyn lleihau’r
niferoedd o heintiau sy’n cael eu dal mewn ysbytai. Roedd yn gydnabyddiaeth gyffredinol, y bu cyfradd
uwch o Clostridium Difficile (C. diff) yng Nghymru nag yn Lloegr yn 2013.
Cymerwyd camau i ymdrin â hyn drwy newid arferion glanhau gan gynnwys
defnyddio cynnyrch sy'n seiliedig ar glorin a chadachau microffibr. Roedd hyn wedi cael effaith wirioneddol
ar lendid gweledol. Mae swyddogion y Bwrdd yn cydnabod bod rhai meysydd o
Ysbyty Glan Clwyd yn edrych yn fudr er eu bod yn lân oherwydd cyfansoddiad yr
adeilad yn methu.
Pwysleisiodd
swyddogion y Bwrdd ymrwymiad y Bwrdd i reoli heintiau a mynd i'r afael ag
ymwrthedd gwrth-ficrobaidd a oedd yn broblem fyd-eang, nid mewn ysbytai yn
unig, ond mewn lleoliadau gofal sylfaenol megis meddygfeydd teulu
hefyd. Roeddynt wedi buddsoddi adnoddau ariannol ac wedi recriwtio staff yn
benodol i fynd i'r afael â rheoli heintiau o fewn sefydliadau’r Bwrdd ac ar y
wardiau.
Gwelwyd
gwelliannau eisoes i reoli heintiau ac mae’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn wedi’i ddilysu’n
allanol. Roedd y Bwrdd wedi ymrwymo i
ysgogi gwelliant drwy archwilio’r ddadansoddiad achos. Maent bellach yn
canolbwyntio ar welliant pellach i brosesau glanhau a lleihau achosion o MRSA a
heintiau eraill trwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a
phartneriaid eraill. Hysbyswyd y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru
yn cynhyrchu ystadegau, sydd ar gael i'r cyhoedd, sydd yn dangos achosion o C.
diff.
Mynegodd
Aelodau'r Pwyllgor bryder y gallai nyrsys a gweithwyr gofal iechyd eraill gael
eu gweld yn gwisgo eu dillad ward/gwaith
y tu allan i’w amgylchedd gwaith glân, ee, yn siopa mewn archfarchnadoedd ac ati, ac yn cwestiynu sut
roedd hyn yn effeithio ar reoli
haint ac a oedd unrhyw bolisïau yn ymwneud â’r mater hwn.
Cadarnhaodd swyddogion iechyd fod gan y Bwrdd Iechyd bolisi clir ar wisgo
gwisgoedd y tu allan i ysbytai a thra oddi ar ddyletswydd, a bod gwisgo gwisg
weithredol mewn amgylchedd nad oedd yn
ymwneud â lleoliad iechyd y Bwrdd, yn fater disgyblu.
Mewn ymateb i
gwestiynau'r aelodau, cadarnhaodd swyddogion Iechyd fod:
• staff yn cael eu hannog yn aml i herio arferion o beidio â chydymffurfio
â’r arferion gwisg a hylendid, fel yr oedd cleifion ac ymwelwyr;
• ffedogau yn cael eu hystyried yn llawer mwy hylan
na’r cotiau gwyn llawes hir ar gyfer yr holl staff yr ysbyty;
• mae cleifion wedi cael eu hannog i ddilyn gofynion ymolchi a gwisgo wrth
gyrraedd yr ysbyty a chyn-llawdriniaeth. Os bydd claf yn gwrthod cydymffurfio
â'r ceisiadau hyn ni fydd modd gweithredu yn eu herbyn gan fod rhaid i staff
barchu hawl unigolion i ddewis. Fodd bynnag, byddai unrhyw feysydd agored ar
gyfer llawdriniaeth yn cael eu glanhau;
• roedd clustnodi wardiau unigol i lanhawyr wedi bod yn arfer da. Os yw glanhawyr yn gyfrifol am ardaloedd
penodol, y canfyddiad oedd bod ganddynt falchder yn eu gwaith. Roedd
cyfarfodydd rheolaidd gyda’u harweinydd wardiau yn arwain at well cyfathrebu a
gwelliant yn yr amgylchedd.
• roedd cydberthynas glir rhwng adeiladau glân, modern a hylendid, felly roedd buddsoddiad
pellach yn cael ei wneud mewn staff domestig;
• roedd pob toiled yng nghyffiniau ystafelloedd llawdriniaeth yn cynnwys basnau ymolchi yn unol â rheoliadau
adeiladu;
• fe nodwyd nad oedd digon o gadeiriau i ymwelwyr ar wardiau, ac roedd hyn yn golygu bod ymwelwyr yn eistedd
ar welyau cleifion tra'n ymweld. Bydd rhagor o gadeiriau yn cael eu darparu;
• cynhaliwyd ymweliadau llywodraethu clinigol i feddygfeydd meddygon teulu
i gynnal gwiriadau dirybudd;
• yn y blynyddoedd diwethaf roedd gormod o fwlch rhwng arweinwyr a staff rheng-flaen, mae hyn
bellach yn cael ei gywiro;
• mae urddas a pharch bellach yn cael eu hyrwyddo ger y 'drws ffrynt' ee,
yn ddiweddar cafodd system o ddosbarthu cleifion mewn ambiwlansys y tu allan
i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys ei cyflwyno. Roedd hyn wedi cyflawni
canlyniad cadarnhaol gan arwain at gleifion yn cael eu cyfeirio i’r mannau
priodol i gael triniaeth cyn gynted ag y bo modd, gan ryddhau ambiwlansys i
fynd i ateb eu galwad nesaf. O ganlyniad roedd
gweld ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adran Damweiniau ac Achosion Brys bellach yn
eithriad nid yn ddigwyddiad rheolaidd;
·
nid
yw cau rhai o’r ysbytai cymuned wedi cymhlethu amseroedd aros ambiwlans yn yr
ysbytai cyffredinol, gan fod yr ysbytai
sydd wedi cau o safon gwael iawn ac felly yn berygl cynyddol i gleifion oedd yn dioddef o heintiau a ddaliwyd
yn yr ysbyty;
• yn y pendraw
byddai gwaith integredig rhwng staff meddygol ac anfeddygol yn arwain at
y profiad gorau posibl i'r claf ar adeg ofidus iawn.
Dogfennau ategol: