Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD ESTYN 'ADCDF CYNNYDD MEWN ADDYSG AR GYFER DATBLYGU CYNALIADWY A DINASYDDIAETH FYD-EANG'

Derbyn cyflwyniad ar Adroddiad Estyn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014 (copi wedi ei amgáu) a oedd yn canolbwyntio ar addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd System GwE (AS) adroddiad Estyn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014 (copi wedi’i ddosbarthu’n flaenorol), a oedd yn canolbwyntio ar addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.

 

Darparodd yr AS rhywfaint o gyd-destun i'r adroddiad gan egluro bod hyrwyddo ADCDF yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru, a oedd yn anelu at annog ysgolion i ddarparu cyfleoedd i athrawon a disgyblion ystyried y materion hynny.  Roedd yn disgrifio cynnydd roedd ysgolion wedi'i wneud ers yr adroddiad diwethaf yn 2006, a thrafododd AS gyda’r aelodau am nifer o'r canfyddiadau mewn perthynas ag AG fel a ganlyn -

 

·        gwahaniaeth sylweddol rhwng adroddiadau 2006 a 2014 oedd y gwelliant mewn dinasyddiaeth fyd-eang a oedd bellach yn gyfartal â datblygu cynaliadwy o ran dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth

·        canfu'r adroddiad fod disgyblion mewn ysgolion sydd â chyfran uchel o ddisgyblion lleiafrifoedd ethnig ar y cyfan â gwell dealltwriaeth o effaith gwahaniaethu a rhagfarnu unigolion, na disgyblion mewn ysgolion eraill.  Canfu hefyd mai ychydig o ddisgyblion yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 oedd â dealltwriaeth dda o hunaniaeth a diwylliant, gan gynnwys cysyniadau cymhleth fel y cyswllt rhwng diwylliant, ffydd a systemau gwerth unigol a chredoau.  Adroddodd yr AS ar un gwerslyfr Cyfnod Allweddol 3 roedd yn ei ysgrifennu gyda Gavin Craigen yn archwilio’r pwynt hwn a’r systemau cred.  Nododd yr aelodau gyfrifoldeb adrannau AG yn hyn o beth, gan gynnwys cysylltu systemau cred, a wnaethpwyd yn dda.  Nodwyd hefyd, ar gyfer Gogledd Cymru yn arbennig, bod diffyg disgyblion o leiafrifoedd ethnig, ond awgrymwyd y gellid gwneud cysylltiadau gydag ysgolion eraill â mwy o gymysgedd ethnig er mwyn archwilio’r amrywiaeth honno.  Cytunodd CYSAG y dylid gwneud argymhelliad yn hynny o beth i Bennaeth Addysg Sir Ddinbych

·        roedd yr adroddiad hefyd wedi darganfod, mewn ysgolion lle’r oedd ADCDF wedi'i sefydlu'n dda, neu lle'r oedd canran uchel o ddisgyblion o gefndir lleiafrifol ethnig, roedd bron yr holl ddisgyblion yn y Cyfnod Sylfaen yn gallu adnabod effaith bosibl gwahaniaethu a rhagfarnu unigolion.  Fodd bynnag, mewn ysgolion lle nad oedd hyn yn wir, ychydig o'r disgyblion oedd yn deall y cysyniad hwnnw yn y cyfnod cynnar hwnnw.  Nid oedd disgwyl y byddai disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen yn deall bod gwerthoedd diwylliannol a chredoau crefyddol yn llywio'r ffordd y mae pobl yn byw, ond trafodwyd y materion – mae’r ddealltwriaeth hon yn datblygu wrth i'r disgyblion symud ymlaen trwy Gyfnod Allweddol 2

·        cyfeiriwyd yn yr adroddiad at ychydig o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o gysyniadau mwy cymhleth fel y cysylltiad rhwng diwylliant, ffydd a systemau gwerth unigol a chredoau.  Roedd hyn yn siomedig i’w nodi oherwydd bod y gymuned AG wedi gweithio'n galed i hyrwyddo’r materion hynny

·        Tynnodd Ms Ali Ballantyne sylw at arweinyddiaeth, rheolaeth a chefnogaeth ar gyfer ADCDF, a'r canfyddiadau lle nad oedd hyfforddiant wedi bod yn flaenoriaeth, bod diffyg hyder yn yr athrawon wrth addysgu'r cysyniadau mwy cymhleth, ac y byddai’r rhan fwyaf o ysgolion yr ymwelwyd â nhw’n cael budd o hyfforddiant pellach mewn agweddau penodol ar ADCDF.  Teimlai fod y mater hwn yn gyffredin ar draws y sir ac roedd yn awyddus i fwrw ati i hyfforddi ar lefel sirol.  Dywedodd yr AS fod y canfyddiad hwn yn groes i Adroddiad Estyn ar AG mewn ysgolion uwchradd (a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2013), a ganfu nad oedd addysgu AG gan unigolion nad oeddynt yn arbenigwyr mewn AG mewn ysgolion uwchradd yn cael effaith negyddol ar safonau yn y mwyafrif o ysgolion

·        nododd yr aelodau, lle’r oedd ysgol wedi ysgrifennu ei pholisi ei hun gydag athrawon yn cael cyfrannu'n uniongyrchol at ei gynnwys (yn hytrach nag addasu polisi a ddarparwyd gan yr awdurdod lleol), roedd effaith gadarnhaol ar safonau a dealltwriaeth disgyblion o elfennau allweddol ADCDF – roedd hyn yn bwynt pwysig i'w gymhwyso i bob polisi – er mwyn i bolisïau AG fod yn effeithiol, dylid eu hysgrifennu o safbwynt yr ysgol unigol yn hytrach na chael eu gorfodi, ac fe allai’r neges honno gael ei chyfleu yn ôl i ysgolion gan aelodau

 

Wrth gloi'r ddadl, roedd yr aelodau â diddordeb mewn gweld ymatebion ysgolion at yr adroddiad, a thrafodwyd agweddau ymarferol o sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu rhoi ar waith mewn ysgolion, gan gynnwys rôl cydlynwyr yn y broses honno.  Cyfeiriwyd hefyd at Gyrff Llywodraethol a chadarnhaodd yr AS y byddai'n arfer da i aelod o'r corff llywodraethu gael cyfrifoldeb penodol am ADCDF.  O ran hyfforddiant, roedd yn debygol y byddai darpariaeth yn dod yn rhan o gyfrifoldeb GwE yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau’r aelodau uchod, derbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: