Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF. 19/2014/0702 / PFT - MAES TRUAN, LLANELIDAN, RHUTHUN

Ystyried cais am osod tyrbin gwynt, uchder both 30.5m ac 45.07m i flaen y llafn, bocs rheoli a gwaith cysylltiedig ym Maes Truan, Llanelidan, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Huw Evans gysylltiad personol gan fod yr Ymgeisydd wedi gwneud rhywfaint o waith ffermio iddo.  Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol gan fod yr Ymgeisydd wedi gwneud rhywfaint o waith ffermio iddo bedair blynedd yn ôl.]

 

Cyflwynwyd cais ar gyfer gosod tyrbin gwynt 30.5m uchder both ac 45.07m i flaen y llafn, bocs rheoli a gwaith cysylltiedig ym Maes Truan, Llanelidan.

 

Siaradwyr Cyhoeddus-

 

Mr M. Brooker (Yn Erbyn) – amlygu pryderon ynglŷn â thirwedd ac effaith weledol ynghyd â lefelau sŵn tyrbin o’r fath.

 

Mr A. Jones, yr ymgeisydd (O Blaid) – eglurodd gysylltiadau’r teulu gyda’r ardal a'r gymuned ffermio a bod angen arallgyfeirio er mwyn darparu hyfywedd y fferm yn y dyfodol.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Crynhodd y Swyddog Cynllunio’r adroddiad a’r rhesymau dros argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais yn seiliedig ar effaith ar dirwedd a’r effaith weledol.  Ymatebodd y Swyddogion i nifer o faterion gweithdrefnol a godwyd mewn perthynas â'r cais, yn enwedig o ran y broses ymgynghori.

 

Yn dilyn cadarnhad na fyddai'r sŵn yn cael effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos, siaradodd y Cynghorydd Hugh Evans (Aelod Lleol) o blaid y cais, gan gredu fod y buddiannau economaidd lleol yn drech na’r pryderon cynllunio a godwyd.

 

Yn ystod trafodaeth fanwl ystyriodd yr aelodau fuddiannau’r cais gan drafod, yn helaeth, ynglŷn â'r ystyriaethau cynllunio perthnasol a'r polisïau perthnasol.  Derbyniwyd yn gyffredinol y byddai arallgyfeiriad y prosiect yn sicrhau hyfywedd y fferm ac yn fuddiol i’r gymuned leol ehangach ac roedd rhan fwyaf o’r drafodaeth yn ceisio sefydlu os oedd y buddiannau hynny'n drech na'r effaith weledol a'r ystyriaethau eraill.  Ystyriodd yr Aelodau faint a lleoliad y tyrbinau yn yr ardal mewn perthynas â safle’r cais ac eglurodd y swyddogion y rhesymeg tu cefn i’r penderfyniadau cynllunio sy’n gysylltiedig â datblygiadau tyrbinau eraill.  Nodwyd fod caniatâd ar gyfer tyrbin 15kW ar y safle yn parhau hyd fis Ionawr 2015. Roedd y mater a oedd cymeradwyo’r cais hwn yn ychwanegu at ledaeniad tyrbinau gwynt yn yr ardal yn ddadleuol.  Rhoddwyd ystyriaeth i’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd gan Gydbwyllgor Ymgynghorol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Chyfoeth Naturiol Cymru.  Nodwyd nad oedd Cydbwyllgor Ymgynghorol yr AHNE yn ymgynghorai statudol ac nad oeddent wedi cynnal ymweliad safle gan arwain at gwestiynau ynglŷn â digonedd eu hymateb a'u rôl yn y broses.  Er bod y swyddogion wedi rhoi pwysau sylweddol i ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru roedd cryfder eu sylwadau hwyr yn destun trafodaeth hefyd.  Ystyriodd yr Aelodau'r effaith ar eiddo cyfagos a darparodd y swyddogion sicrwydd y gellid rheoli’r sŵn yn effeithiol gydag amodau cynllunio i sicrhau na fyddai effaith andwyol a nodwyd llythyr cefnogaeth gan gymydog cyfagos.

 

Cynnig – Ystyriodd y Cynghorydd Stuart Davies bod achos hyfyw ar gyfer arallgyfeirio fferm, a bod y buddiannau’n drech na’r pryderon cynllunio eraill, ac fe gynigodd, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry, bod y cais yn cael ei gymeradwyo, yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 18

GWRTHOD - 6

YMATAL - 3

 

Yn dilyn penderfyniad aelodau’r pwyllgor gofynnwyd iddynt bleidleisio os dylid cyflwyno adroddiad ynglŷn â’r amodau cynllunio a materion cytundeb cyfreithiol i’r pwyllgor i’w gymeradwyo neu os dylid rhoi pwerau dirprwyol i swyddogion mewn cydweithrediad â’r Cadeirydd a’r Aelod Lleol.

 

PLEIDLAIS:

ADRODD YN ÔL I’R PWYLLGOR -11

DIRPRWYO PWERAU I'R SWYDDOGION - 16

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn groes i argymhelliad y swyddog, ac y dylid rhoi pwerau dirprwyol i'r swyddogion, mewn cydweithrediad â Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a’r Aelod Lleol, i roi amodau cynllunio ar y cais ac i ymdrin â materion cytundeb cyfreithiol sy’n deillio o hynny.

 

 

Dogfennau ategol: