Eitem ar yr agenda
ARHOLIADAU ALLANOL DRO AC ASESIADAU ATHRAWON
Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) ar berfformiad disgyblion y Sir ym mhob cyfnod
allweddol a chanlyniadau dros dro disgyblion Cyfnod Allweddol 4 ac ôl-16.
9:35 – 10:10
Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth Addysg, Karen Evans yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Cadarnhaodd fod yr holl ganlyniadau wedi cael eu gwirio ar wahân i
Gyfnod Allweddol 4. Byddai'r canlyniadau hynny a wiriwyd yn cael eu hadrodd i'r
Pwyllgor ym mis Ionawr 2015. Er bod y mwyafrif o ysgolion a disgyblion yn
perfformio'n dda, roedd meysydd penodol a fyddai'n elwa o gymorth i wella
cyrhaeddiad, a'r canlyniadau yn sgil hynny i'r disgyblion.
Un maes a fyddai'n elwa o ymyrraeth yn ystod y flwyddyn sydd i ddod yw’r
iaith Gymraeg (iaith gyntaf) yng Nghyfnod Allweddol 2, a oedd wedi gweld
gostyngiad o 2.9% mewn perfformiad o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Un
rheswm posibl dros hyn yn ôl pob sôn oedd y cynnydd mewn teuluoedd cyfrwng
Saesneg sy’n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Nodwyd bod y swyddogaethau a
gyflawnwyd yn flaenorol gan yr Awdurdod ee bod Athrawon Bro bellach wedi’u
trosglwyddo i Wasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) a
fyddai'n cefnogi ysgolion yn yr ardal benodol hwn.
Trafododd y Pwyllgor y Cyfnod Sylfaen lle mae Awdurdodau Lleol eraill yn
prysur ddal i fyny â’r Sir. Dywedwyd bod mwy o blant gyda phroblemau ymddygiad
a oedd yn effeithio ar addysgu yn yr ardaloedd amddifadedd. Hefyd bu’r Pwyllgor
yn ystyried yr ystod o lefelau sgiliau yn y Cyfnod Sylfaen a chytunwyd ei bod
yn bwysicach canolbwyntio ar gyrhaeddiad plant ar ddiwedd addysg gynradd - y
cynnydd a wnaed.
Dywedodd Aelod o'r Pwyllgor bod cyrff llywodraethu mewn rhai ysgolion yn
teimlo nad ydynt yn derbyn digon o gefnogaeth gan GwE. Pwysleisiodd y Pennaeth
Addysg yr angen i gyrff llywodraethu ysgolion i roi gwybod i'r Adran Addysg os
oeddent yn credu nad oedd GwE yn rhoi digon o gefnogaeth iddynt, neu bod y
gefnogaeth a gafwyd ddim o’r safon a ddymunir. Byddai hyn yn galluogi swyddogion i archwilio a yw
telerau'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) yn cael eu bodloni.
Dylai adroddiad wedi’i gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn
Ionawr 2015 ar 'Arholiadau Allanol Wedi'u Gwirio ac Asesiadau Athrawon' gynnwys
enghraifft o sefyllfa Sir Ddinbych yn genedlaethol ac yn rhanbarthol dros y pum
mlynedd diwethaf, a rhaid cynnwys Adroddiad Blynyddol GwE (a bod cynrychiolydd
o GwE yn bresennol i drafod yr adroddiad.
Gofynnodd
Aelodau'r Pwyllgor i GwE sicrhau nad eu bwriad yw canolbwyntio eu gwaith a’u
hymdrechion ar ysgolion/awdurdodau sy'n methu yn unig, a bod ganddynt
wasanaethau yn eu lle i helpu i gefnogi ysgolion/awdurdodau sy’n gwneud yn dda
i gyflawni lefel o ragoriaeth. Pwysleisiodd swyddogion nad yw gwasanaeth addysg
y Cyngor a GwE yn endidau ar wahân a bod nodau ac amcanion y ddau wasanaeth yr
un fath - i gefnogi a chynorthwyo disgyblion y Sir i wireddu eu potensial
addysgol a galwedigaethol a ddylai arwain at ganlyniadau gwell ar eu cyfer.
Byddai Estyn yn
barnu’r Cyngor a GwE ar y canlyniadau hyn, ac ar eu rôl ar y cyd wrth gefnogi
disgyblion i gyflawni eu potensial.
Adroddodd y
Pennaeth Addysg hyd yn hyn nad oedd unrhyw ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru
ynghylch plant sydd ag anghenion arbennig mewn ysgolion arbennig yn gorfod
sefyll yr un profion â'r rhai sydd heb anghenion ac bod hynny wedi cael effaith
negyddol ar berfformiad yr Awdurdod.
Roedd y
Cynghorydd Arwel Roberts yn awyddus i egluro pwynt oedd wedi codi mewn cyfarfod
diweddar o'r Cabinet pan ddywedodd y dylai Ysgol Brynhyfryd addysgu trwy
gyfrwng y Gymraeg 100% o'r amser, ond roedd o’n golygu y Ffrwd Gymraeg yn
hytrach na'r ysgol gyfan. Cynigiodd y Pennaeth Addysg y byddai’n trefnu ymweliad
i’r aelodau i Ysgol Brynhyfryd i weld a chwrdd â disgyblion yn y ffrwd Gymraeg
ar draws yr ysgol. Mae nifer o Aelodau yn nodi y byddent yn gwerthfawrogi
ymweliad o'r fath.
Gofynnwyd bod
adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys gwybodaeth am y cynlluniau gwelliant ar
gyfer y dair ysgol uwchradd sy’n tangyflawni fwyaf.
Yn dilyn
trafodaeth fanwl:
Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau a'r camau gweithredu uchod
i nodi perfformiad ysgolion yn erbyn perfformiad blaenorol a'r meincnodau
allanol sydd ar gael ar hyn o bryd.
Dogfennau ategol: