Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI CYMHWYSTER CLUDIANT O’R CARTREF I’R YSGOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth i gael mannau codi disgyblion ysgolion uwchradd ac i egluro'r polisi presennol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cytuno i ddiwygio'r polisi presennol i gyflwyno mannau casglu canolog ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd;

 

(b)       nodi'r polisi llawn yn Atodiad 1 i'r adroddiad a fydd yn ei grynodeb yn darparu cludiant am ddim i'r ysgol uwchradd briodol agosaf o fan casglu dynodedig;

 

(c)        caniatáu i ddisgyblion ysgol uwchradd presennol barhau i gael mynediad i gludiant am ddim am weddill eu bywyd ysgol statudol presennol o fan casglu canolog;

 

(d)       nodi nad oes unrhyw newid i gludiant ar gyfer disgyblion ysgol gynradd;

 

(e)       cytuno bod yr argymhellion uchod yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith yn unol â galwad y Cyngor o ran rheolau gweithdrefn a gynhwysir yn y cyfansoddiad yn wyneb yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad,

 

(f)         gofyn i'r Grŵp Strategol Addysg Gymraeg adolygu categori iaith pob ysgol yn ystod tymor yr hydref a chyflwyno adroddiad i’r pwylgor archwilio yn gynnar yng ngwanwyn 2015; a

 

(g)    fod asesiad o effaith adolygu’r polisi yn cael ei gynnal gyda’r canfyddiadau yn cael eu cyflwyno i bwyllgor archwilio ar derfyn blwyddyn gyntaf ei weithrediad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg adroddiad (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i weithredu mannau codi ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd ac i egluro'r polisi presennol. 

 

Darparwyd ychydig o gefndir i'r adroddiad ynghyd ag eglurhad o'r broses ymgynghori a'r amserlenni i’w gweithredu.  Diolchodd y Cynghorydd Williams i ymatebwyr i’r ymgynghoriad am eu cyfraniad.  Mae'r holl ymatebion wedi'u hystyried yn ofalus ac mae'r prif faterion a godwyd wedi cael sylw yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet i weithredu mannau casglu canolog ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd a fyddai'n cynhyrchu arbedion o tua £272k a nodwyd bod adborth wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan yn dibynnu os oedd y prosesau asesu risg perthnasol yn eu lle.  Canolbwyntiodd y Cabinet hefyd ar ganlyniad gorfodi'r polisi newydd i gael gwared ar anghysondebau hanesyddol yn y broses cymhwyster ynghyd â'r pryderon a godwyd fel rhan o'r broses ymgynghori, gan gydnabod ei fod yn fater cymhleth iawn.  O ganlyniad, gofynnodd yr aelodau gwestiynau yn ogystal â cheisio cael sicrwydd ynghylch materion penodol a godwyd er mwyn bodloni eu hunain bod y cynigion a gafwyd yn yr adroddiad yn cynrychioli'r ffordd orau ymlaen.

 

Canolbwyntiodd prif rannau’r drafodaeth ar y canlynol -

 

·        cydnabuwyd bod unrhyw arbedion a gynhyrchir yn gweithredu mannau casglu canolog yn mynd i'r afael â'r gorwariant presennol yn y gyllideb cludiant ysgol yn unig ac ni fyddai'n dod i rym tan fis Medi 2015 – o ystyried y sefyllfa ariannol bresennol sydd ohoni byddai adrannau anstatudol eraill o’r polisi yn debygol o fod yn amodol i adolygiad yn y dyfodol

·        eglurwyd bod anghysondebau wedi'u creu dros nifer o flynyddoedd oherwydd y diffyg eglurder yn y polisi gyda swyddogion wedi cymryd ymagwedd bragmatig a rhesymol i geisiadau, ond mae'r costau cynyddol a diffyg eglurder yn golygu bod angen adolygiad i fynd i'r afael â'r materion hynny – roedd aelodau’n cydnabod bod yna angen am bolisi clir a chryno i sicrhau dull cyson ar draws Sir Ddinbych a chydraddoldeb i bob disgybl

·        dywedodd y swyddogion er mwyn bod yn gymwys am gludiant ysgol am ddim roedd y pellter rhwng y cartref a'r ysgol yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio ffyrdd dosbarthiadol - cydnabuwyd o bosib na fyddai’r llwybr mwyaf uniongyrchol yn cael ei ddefnyddio i gludo disgyblion yn dibynnu ar y nifer a lleoliad y disgyblion eraill i gael eu cludo a chan gymryd i ystyriaeth y llwybr mwyaf diogel, a dyna pam mae anghysondeb lle mae'r man codi ar gyfer disgyblion yn nes i ysgol wahanol na'r un y maent yn ei fynychu - efallai y bydd achlysuron pan ei fod yn fwy cost-effeithiol i ddarparu cludiant i ysgol arall a'r hawl i ddefnyddio disgresiwn yn yr amgylchiadau penodol hynny wedi cael ei gynnwys yn y polisi hwn

·        nododd yr aelodau bryderon rhieni yn ardal Saron lle byddai gorfodi’r polisi yn effeithio’r arw ar eu plant ac er  y cafodd y posibilrwydd o  ysgolion sy'n bwydo gael ei grybwyll cydnabuwyd mai’r dull o gyfrifo cymhwyster o'r cartref i'r ysgol yn hytrach na ysgol i ysgol a ddefnyddiwyd ac ni fyddai'n gyfreithlon i wneud eithriad i'r polisi ar gyfer un ysgol neu ardal benodol

·        dangosol yn unig oedd y rhestr o fannau codi yn y polisi drafft ar hyn o bryd a byddai'n amodol ar asesiadau risg a wnaed yn unol â'r Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) – darparodd swyddogion fanylion penodol am y broses asesu risg a rhoi sicrwydd bod y ffordd rhwng Saron a Chyffylliog (a oedd wedi bod yn destun pryder penodol) ddim yn cael ei ddefnyddio gan fysiau ysgol ac yn amodol ar asesiad risg ar gyfer tacsis

·        cafwyd cefnogaeth i'r argymhelliad i barhau i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion presennol yr effeithir arnynt fel nad yw’n tarfu ar eu haddysg tra'n cydnabod y byddai'r cyfnod pontio yn parhau am nifer o flynyddoedd ac yn arwain at anghyfartaledd yn ystod y cyfnod hwnnw, yn enwedig ar gyfer brodyr a chwiorydd

·        byddai cludiant rhatach ar gael am flwyddyn ar gyfer y disgyblion hynny a ddewisodd i beidio â mynychu eu hysgol addas agosaf yn amodol ar leoedd dros ben ar gael a chodir tâl rhesymol i dalu costau gweinyddol

·        mae nifer o ymatebion i'r ymgynghoriad yn ymwneud â darpariaeth Cyfrwng Cymraeg a'r farn y dylai ysgolion categori 1 gael eu trin fel yr unig ddewis cyfrwng Cymraeg wrth asesu hawl am gludiant - mae'r polisi presennol yn cynnwys ysgolion categori 1 a 2 ac felly byddai newid o'r fath yn cael dylanwad arwyddocaol ar y niferoedd ar y gofrestr yn y dyfodol a chostau cludiant.  Argymhellwyd bod y categoreiddio iaith ym mhob ysgol yn cael eu hadolygu a bod swyddogion yn adrodd ar y broses gategoreiddio a chyflwyno'r cwricwlwm – cytunodd Cabinet y dylid llunio amserlen ar gyfer y broses hon

·        ystyriwyd y broses ymgynghori gan graffu a ddaeth o hyd, er y gallai'r ymgynghoriad wedi bod yn fwy trylwyr, ei bod yn annhebygol y byddai unrhyw faterion newydd wedi codi - cytunodd y swyddogion i edrych i mewn i hepgor Cyngor Gwynedd o'r rhestr o randdeiliaid a chywiro'r mater

·        roedd swyddogion yn cydnabod y dylai rhieni fod yn ymwybodol o'r cymhwyster cludiant ysgol am ddim yn gynnar er mwyn iddynt wneud dewisiadau gwybodus a chynghorwyd  lle y byddai darpariaeth arall yn gweithio allan i  fod yn fwy cost effeithiol na'r hyn a nodwyd yn y polisi y byddai pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.

 

Darparodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts drosolwg o'r ddadl craffu ar y materion a'r canfyddiadau a oedd wedi eu crynhoi ym mharagraff 8.2 o'r adroddiad.  Tynnodd sylw hefyd at yr angen i ehangu cwmpas yr adolygiadau o ddarpariaeth cludiant ysgol yn y dyfodol.

 

Adroddodd y Cynghorydd Joe Welch y byddai ei ward yn cael ei heffeithio'n arbennig o weithredu’r cais yn llym a thynodd sylw at ei bryderon yn hynny o beth.  Gwrthwynebodd y dull llinell galed i weithredu'r polisi ac adroddodd ar ymchwil a wnaeth i mewn i bolisïau a fabwysiadwyd gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.  O ganlyniad, fe ofynnodd i ystyriaeth gael ei roi i addasu'r polisi i gwrdd ag anghenion cymunedau unigol yn y sir a fyddai yn ei farn ef yn dal i arwain at arbedion yn y gyllideb cludiant ysgol.

 

Ystyriodd y Cabinet er y gall dull penodol fod o fudd i un ardal efallai na fyddai gystal ar gyfer y sir gyfan.  Fodd bynnag, yn sgil y pryderon a godwyd, cytunwyd bod adolygiad o effaith y polisi yn cael ei gynnal ar ôl ei weithredu.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cytuno i ddiwygio'r polisi presennol i gyflwyno mannau codi canolog ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd;

 

(b)       nodi'r polisi llawn yn Atodiad 1 o'r adroddiad sy’n gryno yn darparu cludiant am ddim i'r ysgol uwchradd briodol agosaf o fan codi dynodedig;

 

(c)        caniatáu i ddisgyblion ysgolion uwchradd presennol i barhau i gael mynediad i gludiant am ddim am weddill eu bywyd ysgol statudol o fan codi canolog;

 

(d)       nodi nad oes unrhyw newid i gludiant ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd;

 

(e)       cytuno bod yr argymhellion uchod yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith yn unol â rheolau trefn galw y Cyngor sydd wedi’u cynnwys yn y cyfansoddiad o ganlyniad i’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad;

 

(f)         gofyn i'r Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg i adolygu’r dull categori iaith ym mhob ysgol yn ystod tymor yr hydref  a chyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Archwilio ddechrau gwanwyn 2015, a

 

(g)       gwneud asesiad o effaith yr adolygiad o'r polisi a’i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf o weithredu.

 

 

Dogfennau ategol: