Eitem ar yr agenda
DIWYGIO LLYWODRAETH LEOL
- Meeting of Cyngor Sir, Dydd Mawrth, 9 Medi 2014 10.00 am (Item 9.)
- View the declarations of interest for item 9.
Ystyried
adroddiad gan y Prif Weithredwr (copi ynghlwm) sy’n gofyn i Aelodau ddarparu
asesiad strategol o'r opsiynau o fewn y Papur Gwyn (Diwygio Llywodraeth Leol).
Gofynnir am benderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i
uno’n wirfoddol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif
Weithredwr yr Adroddiad Diwygio Llywodraeth Leol (a ddosbarthwyd yn flaenorol).
Cyhoeddwyd y
Papur Gwyn – Diwygio Llywodraeth Leol - ar gyfer ymgynghoriad ar 8 Gorffennaf
2014. Byddai’r cyfnod ymgynghori’n dod i ben ar 1 Hydref, 2014 am 23:59. Pwrpas
yr adroddiad oedd nodi prif gynigion y Papur Gwyn, darparu asesiad strategol
o’r opsiynau y mae'n eu cyflwyno i'r cyngor a gofyn am benderfyniad ynghylch a
ddylid cyflwyno datganiad o ddiddordeb mewn uno’n wirfoddol gyda Chyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy. Rhaid cyflwyno'r datganiad o ddiddordeb
erbyn mis Tachwedd 2014, a byddai angen cytundeb Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy.
Roedd y Papur
Gwyn yn amlinellu’r camau oedd angen tuag at uno awdurdodau lleol i greu
sefydliadau mwy o faint a ‘mwy cynaliadwy’. Cynigiwyd
y dylai aelodau ystyried goblygiadau’r rhan hon o’r papur yn ofalus a datblygu
ymateb erbyn dyddiad cau’r ymgynghoriad, 1 Hydref, 2014.
Nododd y Papur
Gwyn, fel ei hoff ddewis, raglen o uno awdurdodau lleol a fyddai’n gostwng y 22
awdurdod lleol presennol i 12, gyda thri yng Ngogledd Cymru a Sir Ddinbych yn
uno â Chonwy.
Roedd Llywodraeth
Cymru yn annhebygol o gefnogi unrhyw gynnig a fyddai’n torri ar draws ffiniau
presennol gwasanaethau Iechyd a’r Heddlu ac na fyddai’n cefnogi cynigion i
newid ffiniau awdurdodau lleol presennol.
Roedd y Papur
Gwyn yn nodi’n glir nad oedd digon o amser i ddatblygu, cynllunio a deddfu ar
gyfer rhaglen lawn o uno cyn etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol ym mis
Mai 2016. Ni fyddai Bil i uno awdurdodau yn cael ei gyflwyno, felly, i'r
Cynulliad Cenedlaethol yn ystod tymor y cynulliad, a fyddai'n dod i ben ym mis
Ebrill 2016.
Byddai Bil drafft
yn cael ei gyhoeddi yn ystod hydref 2015 ar gyfer ymgynghori fel bod
Llywodraeth Cymru a fyddai’n cael eu hethol ym mis Mai 2016, mewn sefyllfa i
wneud penderfyniadau cynnar ynghylch symud ymlaen a sut i fynd ati.
Byddai’r
ddeddfwriaeth a fyddai’n cael ei chyflwyno ddechrau 2015 yn cynnwys darpariaeth
ar gyfer uno cynnar. Byddai ‘Prosbectws’ yn cael ei gyhoeddi erbyn haf 2014 yn
nodi cymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer uno gwirfoddol. Nid
oedd y ‘Prosbectws’ wedi cael ei gyhoeddi erbyn dyddiad y cyfarfod.
Amlinellodd y
Prif Weithredwr i'r aelodau, yr amserlen ar gyfer uno a amlinellwyd yn yr
adroddiad.
Roedd dau opsiwn
i’w hystyried:
·
Opsiwn
1 - Aros tan etholiad Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2016; neu
·
Opsiwn
2 – Uno’n wirfoddol gyda Chonwy.
Roedd yn
ymddangos yn glir bod aros i weld beth fyddai’n digwydd ym mis Mai 2016, mewn
gwirionedd, yn gyfystyr â derbyn toriadau difrifol i gyllidebau a gwasanaethau
a fyddai’n digwydd am o leiaf y chwe blynedd nesaf, ac wedi hynny, y dyfodol
fyddai uno gorfodol. Nid oedd gwneud toriadau llym, am nifer o
flynyddoedd, ac yna cael uno gorfodol, yn ymddangos yn ganlyniad arbennig o dda
ar gyfer y trigolion na’r cyngor.
Ni fyddai'r
penderfyniad yn un syml ac roedd risgiau a chostau ymhlyg â’r naill opsiwn a’r
llall. At ei gilydd, roedd yr opsiwn o uno gwirfoddol yn
un gwell yn strategol gan ei fod yn opsiwn ymarferol i’r ddau gyngor, a gallai
gynnig y posibilrwydd o osgoi’r toriadau gwaethaf trwy gyfuniad o sicrhau
cytundeb ariannol gyda Llywodraeth Cymru a sicrhau arbedion o'r uno ei hun. Fodd
bynnag, byddai ond yn bosibl ystyried yr opsiwn hwn pe bai dau amod yn cael eu
bodloni:
·
Bod y
pecyn ariannol a’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn sylweddol ac yn rhwymol;
a
·
Unwaith y bydd y ddau awdurdod a Llywodraeth Cymru yn
cytuno ar y Datganiad Bwriad ym mis Tachwedd 2015, bod y cytundeb yn rhwymol ar
bob un o’r tri pharti.
Pe bai modd
sicrhau’r amodau, byddai hynny’n caniatáu’r ddau gyngor i leihau lefel y
toriadau i wasanaethau ac osgoi’r posibilrwydd y byddai’r prosiect yn methu,
naill ai oherwydd anghytundebau lleol neu newid yn safbwynt Llywodraeth Cymru. Pe
na bai modd eu sicrhau, byddai’r risg o uno gwirfoddol yn rhy uchel.
Cafwyd trafodaeth
fanwl iawn, a chodwyd y pwyntiau canlynol:
·
Roedd
cyfanswm o 106 o aelodau rhwng Sir Ddinbych a Chonwy. Yn
ôl deddfwriaeth gyfredol ni allai fod mwy na 75 o aelodau i bob awdurdod lleol. Roedd
y ffigurau’n cyfateb i 1 aelod fesul pob 1,750 etholwr. Pe
bai’r hafaliad hwn yn cael ei weithredu mewn perthynas â’r darpar awdurdod
lleol unedig, byddai hynny’n 96 o aelodau, 21 yn fwy na’r ffigwr uchaf. Pe
bai’r uno’n mynd rhagddo awgrymwyd y byddai'n holl bwysig fod y comisiwn
ffiniau etholiadol yn asesu’r ardal cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl
·
Pwysleisiwyd
bod yn rhaid i’r aelodau roi blaenoriaeth i drigolion Sir Ddinbych
·
Byddai
BIPBC yn dechrau ar newid i’w strwythur.
Roeddent yn mynd i
ail-gydbwyso gofal o ofal eilaidd i gynradd. Byddai
tri strwythur ynghyd ag Awdurdodau Lleol:
Ø
Wrecsam
a Sir y Fflint
Ø
Sir
Ddinbych a Chonwy, a
Ø
Gwynedd
ac Ynys Môn
PENDERFYNWYD:
·
Bod y Cyngor yn cytuno, yn amodol ar ddod
i gytundeb gyda Chyngor Sir Conwy, bod y ddau gyngor yn symud ymlaen i ddatblygu
datganiad o ddiddordeb ar y cyd i uno’n wirfoddol erbyn mis Ebrill 2018 a
chyflwyno’r datganiad o ddiddordeb hwn i Lywodraeth Cymru erbyn mis Tachwedd
2014, ar yr amod y gall y ddau gyngor:
Ø
Sicrhau pecyn arian a chefnogaeth
sylweddol gan Lywodraeth Cymru sy’n rhwymol; a
Ø
Unwaith y bydd y ddau awdurdod a Llywodraeth Cymru
yn cytuno ar y Datganiad Bwriad ym mis Tachwedd 2015, bod y cytundeb yn rhwymol
ar bob un o’r tri pharti.
·
Bydd
y ‘pecyn o arian a chefnogaeth sylweddol’ y cyfeirir ato yn cael ei drafod gyda
Llywodraeth Cymru a’i roi gerbron aelodau Sir Ddinbych a Chonwy i’w ystyried
cyn cytuno i symud ymlaen.
Dogfennau ategol: