Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 205/16 - 2016/17

Ystyried adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi i ddilyn) sy’n rhoi gwybod i’r Aelodau am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer 2015/2016 - 2016/17.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau adroddiad Cyllideb 2015/16 – 2016/17 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu diweddariad i’r Cyngor ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb a chymeradwyo'r cynigion ar gyfer arbedion a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ac yn cyflwyno Cam 1 rhaglen o arbedion cyllidebol i'w gymeradwyo er mwyn cyflawni’r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16 a dechrau ar y broses ar gyfer 2016/17.

 

Daw mwyafrif (tua 78%) o gyllid y Cyngor gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cynnal Refeniw ac ailddosbarthu Trethi Annomestig Cenedlaethol.

 

Roedd y setliad ar gyfer 2014/15 wedi cael ei ostwng o 4.6% ar y flwyddyn flaenorol, sef y gostyngiad mwyaf yn hanes y cyngor a’r gostyngiad uchaf yng Nghymru.  Roedd y gostyngiad wedi bod yn uwch na'r cyfartaledd oherwydd addasiadau sy'n codi o ganlyniadau cyfrifiad 2011.  Roedd y twf a amcangyfrifwyd yn y boblogaeth leol wedi’i oramcangyfrif dros nifer o flynyddoedd.  Byddai'r effaith yn golygu y byddai effaith andwyol ar gyllid Sir Ddinbych am nifer o flynyddoedd. 

 

Cyhoeddwyd toriadau pellach.  Felly, byddai angen gwneud arbedion o £18 miliwn hyd at ac yn cynnwys 2016/17.

 

Mae proses newydd wedi’i chyflwyno ar gyfer gosod cyllideb, o’r enw Rhyddid a Hyblygrwydd, ac roedd yn newid sylweddol i ymagwedd y cyngor at osod cyllideb.  Roedd y broses yn dadansoddi pob gwasanaeth yn ôl eitemau unigol ar y gyllideb i asesu pa swyddogaethau roedd pob gwasanaeth yn eu cyflawni, beth yw eu cost ac a oeddent yn ofynion statudol neu gyfreithiol ac/neu yn flaenoriaethau corfforaethol.

 

Trefnwyd Gweithdai Cyllideb gyda phedwar gweithdy diwrnod llawn yn cael eu cynnal.  Mae chwe gweithdy pellach wedi eu trefnu.  Roedd nifer dda o aelodau yn bresennol ym mhob gweithdy.

 

Yn y gweithdai, gofynnwyd i'r aelodau ystyried cynigion dan y categorïau canlynol:

 

·       Mabwysiadu

·       Datblygu, a

·       Gohirio.

 

Roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn tynnu sylw at yr arbedion a gynigiwyd yn y pedwar gweithdy cyntaf lle cafwyd cefnogaeth i “fabwysiadu”.  Byddai cynigion eraill yn cael eu hystyried mewn gweithdai pellach. 

 

Bu ymgynghori sylweddol ynghylch proses y gyllideb ac roedd wedi cael ei ystyried yn y CET, yr UDA, a chyfarfodydd Briffio'r Cabinet a’r Cyngor.  Erbyn diwedd y broses byddai o leiaf deg gweithdy cyllideb wedi’u cynnal gydag aelodau etholedig.

 

Roedd gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol swyddogaeth oruchwylio ac wedi derbyn adroddiadau i bob un o'i gyfarfodydd ers mis Ebrill 2014.

 

Yn ogystal, byddem yn ymgynghori â’r undebau llafur ar gynigion unigol dros y misoedd nesaf.  Wrth i'r broses ddatblygu, efallai y bydd angen ymgynghori'n gyhoeddus ar rai cynigion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield na fyddai'r Grŵp Llafur yn barod i bleidleisio o blaid unrhyw newidiadau, yn enwedig rhai sy’n effeithio ar staff a phobl yn y gymuned.  Er eu bod yn derbyn fod Gweithdai’r Gyllideb wedi bod yn agored, y rheswm dros y penderfyniad oedd na chafwyd unrhyw wybodaeth derfynol ar unrhyw un o’r canlyniadau.  Gofynnodd y Cynghorydd Butterfield hefyd i gael golwg ar yr Asesiadau Effaith Cydraddoldeb o ran y toriadau.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i’r Cynghorydd Butterfield yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth wedi ei darparu yn barod.  Roedd yr Asesiadau Effaith Cydraddoldeb wedi cael eu hanfon drwy e-bost at bob aelod er bod rhai'n hwyr.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, fod y Cynghorydd Thompson-Hill wedi gofyn i bawb oedd yn bresennol ar ddiwedd pob un o’r Gweithdai Cyllideb os oedd unrhyw faterion neu broblemau ac ni chafwyd ymateb gan unrhyw un a oedd yn bresennol.  Roedd y manylion wedi bod yn destun proses drylwyr ac wedi’u trafod yn fanwl.  Felly, roedd yr Arweinydd yn hyderus y gellid rhoi’r adroddiad gerbron yr aelodau i'w gymeradwyo.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod proses asesu gadarn wedi cael ei rhoi ar waith i alluogi aelodau i benderfynu beth oedd angen ei ddiogelu a’r meysydd hynny lle gellid gwneud toriadau.  Y cam cyntaf oedd hwn.  Roedd yr aelodau wedi cael yr holl wybodaeth ac roedd y Gweithdai Cyllideb wedi galluogi craffu dwys ar wasanaethau ac roedd cytundeb wedi bod ar y penderfyniadau ar bapurau’r Adroddiad Cyllideb.

 

 

Ar y pwynt hwn (4.30pm) cytunwyd i gael 5 munud o saib yn y cyfarfod er mwyn caniatáu i'r Grŵp Llafur gael trafodaeth fer ynglŷn â'r ffordd ymlaen.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 4.35pm.

 

 

Diolchodd y Cynghorydd Joan Butterfield i'r Cadeirydd am ganiatáu'r saib.  Cadarnhaodd y Grŵp Llafur eu safiad o beidio â chytuno i’r toriadau heb ragor o wybodaeth.  Roeddent wedi cytuno i beidio cefnogi'r toriadau i’r Gyllideb.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler i wneud gwelliant.  Gan nad oedd hi wedi cymryd rhan yng Ngweithdy’r Gyllideb a gynhaliwyd ar 26 Awst, gofynnodd i ohirio’r arbediad ar hawliau tramwy er mwyn iddi wneud y penderfyniad cywir ar sail gwybodaeth.

Eiliodd y Cynghorydd Arwel Roberts y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais a chollwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau yn derbyn yr adroddiad ac yn cymeradwyo'r arbedion a restrwyd.

 

 

 

Dogfennau ategol: