Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI TWYLL A LLYGREDD

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, ar y Polisi Twyll a Llygredd (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Mae adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (HLHDS) wedi’i ddosbarthu’n flaenorol.

 

Cyflwynodd yr HLHDS yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor yn cyflogi dros 4,000 o staff ac yn gwario tua £250 miliwn y flwyddyn.  Comisiynodd a darparodd amrywiaeth eang o wasanaethau i unigolion a chartrefi ac mae wedi gweithio gydag ystod eang o sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.

 

Tynnodd sylw at y risg barhaus o golled o ganlyniad i dwyll a llygredd o ffynonellau mewnol ac allanol, a'r risg o lwgrwobrwyo wrth i’r Cyngor ddarparu a chaffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau.  Cafodd systemau cymesur eu cyflwyno i leihau'r risgiau a chafodd y rhain eu hadolygu'n gyson.  Cafodd y systemau a’r gweithdrefnau eu nodi yn y canllawiau ym mharagraff 5.12.

 

Cafodd Polisi diwygiedig drafft, Atodiad 1, a oedd yn ddogfen hir sengl, ei rannu’n ddwy ddogfen.  Roedd Atodiad 1 yn ddatganiad o Bolisi yn cynnwys y prif egwyddorion y byddai'r Cyngor yn mynd i’r afael â thwyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth.  Roedd Atodiad 2 yn ddogfen gyfarwyddyd yn egluro cefndir a'r polisïau a'r gweithdrefnau sydd ar waith i gefnogi'r Polisi.  Darparodd yr HLHDS grynodeb manwl o gynnwys yr Atodiadau.

 

Pwysleisiodd bwysigrwydd bod unrhyw bolisi sy'n honni i wrthsefyll y bygythiad o dwyll a llygredd yn cael ei gadw'n gyfoes a'i adolygu yng ngoleuni datblygiadau deddfwriaethol, technolegol a phroffesiynol newydd.  Byddai'r polisi yn cael ei adolygu bob tair blynedd hyd nes ceid unrhyw newidiadau penodol mewn deddfwriaeth.  Eglurwyd y byddai'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnal gwasanaeth unigol ymchwilio i dwyll o fis Ebrill, 2015 ac y byddai'r Polisi yn cael ei ddiwygio yn unol â hynny.

 

Cafodd teitl y polisi ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at lwgrwobrwyo, er mwyn ystyried newidiadau i ddeddfwriaeth a ddaeth yn sgil Deddf Llwgrwobrwyo 2010. Ystyriwyd canllawiau arfer gorau gan y canllawiau hefyd, megis y CIPFA - "Llyfr Coch 2 - Rheoli'r Risg o Dwyll".

 

Darparodd y Datganiad Polisi a’r gweithdrefnau ategol neges glir na fyddai'r Cyngor yn goddef unrhyw amhriodoldeb gan weithwyr, Aelodau Etholedig na sefydliadau trydydd parti.  Cadarnhaodd yr HLHDS ei bod yn bwysig cynnal gwyliadwriaeth a bod yr holl weithwyr, Aelodau Etholedig a phartneriaid yn ymwybodol o'r broses ar gyfer adrodd am bryderon neu amheuon.  Mae Atodiad 2 yn rhoi cyngor clir ar y broses adrodd.  Cafwyd datganiad clir o ymrwymiad y Cyngor i gymryd camau gorfodi cadarn lle caiff gweithgaredd anghyfreithlon neu lygredig ei ganfod.  Cadarnhawyd y byddai'r Cyngor yn parhau i addasu a mabwysiadu dull rhagweithiol i atal gweithgareddau twyllodrus, ac y byddai Archwilio Mewnol yn cynnal adolygiad blynyddol o effeithiolrwydd y rheolaethau.

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd H.L. Holland y dylid gwneud bwriad y Cyngor i ddelio ag unrhyw gamymddygiad cysylltiedig yn gliriach ac yn fwy cadarn, cytunodd yr HLHDS bod angen diwygio Rhif 8 o’r Datganiad Polisi, Tudalen 55, i ddarllen "Nid yw'r Cyngor yn cymryd rhan, ac ni fydd yn cymryd rhan, yn anuniongyrchol neu fel arall, mewn unrhyw weithgarwch sy’n annog llwgrwobrwyo.  Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i atal, osgoi a darganfod llwgrwobrwyaeth.” A gall Rhif 9 gael ei gynnwys i ddarllen "Nid yw’r Cyngor yn goddef dim twyll, lladrad, llygredd na llwgrwobrwyo".

 

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, cytunodd yr HLHDS y dylid diwygio cyfeiriad at Aelodau Etholedig yn Atodiad 2 i gynnwys Aelodau Cyfetholedig, neu gynnwys diffiniad o Aelodau.  Nododd Mr Whitham hefyd nad oedd unrhyw gyfeiriad at Lwgrwobrwyo, dim ond at Dwyll a Llygredd, ar Dudalen 18 o Atodiad 1 a Thudalen 32 o Atodiad 3.

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, yn amodol ar y materion a godwyd, yn nodi cynnwys y Polisi Gwrth Dwyll, Llwgrwobrwyaeth a Llygredd drafft ac yn ei argymell i'w gymeradwyo gan y Cabinet.

   (GW i Weithredu)

 

 

Dogfennau ategol: