Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y STRATEGAETH LEOL AR GYFER RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD A’R DIWEDDARAF YNGLŶN Â RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD YN SIR DDINBYCH

Ystyried  adroddiad  gan  y  Cynghorydd  David  Smith,   Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus  (copi’n  amgaeedig)  yn  cyflwyno  Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd  i’w  chymeradwyo  a  darparu  diweddariad  ynglŷn  â  Llifogydd  Tachwedd  2012 a digwyddiad llifogydd arfordirol Rhagfyr  2013. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cymeradwyo cyflwyno'r Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd i Lywodraeth Cymru am adolygiad Gweinidogol, ac

 

(b)       yn nodi'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad gan y Cynghorydd David Smith yn cyflwyno’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd i’w chymeradwyo ac yn rhoi diweddariad ynglŷn â llifogydd Tachwedd 2012 a llifogydd arfordirol Rhagfyr 2013.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion lleoliadau lle mae angen cynlluniau i leihau perygl llifogydd i lefel dderbyniol.

 

Rhoddwyd gwybod i’r Cabinet am y gofyn i gynhyrchu strategaeth a fyddai’n manylu am wyth canlyniad a fyddai'n galluogi'r Cyngor i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd.  Roedd y ddogfen wedi cael ei hystyried yn y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ac ni chafodd unrhyw faterion o bwys eu codi.  Amlygodd y Cynghorydd Smith y gwahanol ardaloedd llifogydd y mae’r Cyngor a phartneriaid y Cyngor yn gyfrifol amdanynt ac amlygu'r goblygiadau ariannol i Gyngor Sir Ddinbych.  Ychwanegodd mai rheoli risg llifogydd yw un o'i flaenoriaethau.

 

Trôdd y drafodaeth gychwynnol o amgylch llifogydd Rhagfyr 2013 a'r modd clodwiw y bu i’r Cyngor ymateb yn ystod y digwyddiad ac ar ei ôl.  O siarad â rhai a gafodd eu heffeithio, roedd y Cynghorydd Bobby Feeley eisiau sicrwydd fod y Cyngor yn cymryd y camau angenrheidiol i atal llifogydd yn y dyfodol.  Roedd y Cynghorydd David Simmons hefyd yn gofyn am weithredu a thynnodd sylw at bryderon y trigolion, yn enwedig yn ardal Garford Road / Ffordd yr Arfordir, ac at yr angen am broses gadarn er mwyn rhybuddio a diogelu trigolion oedrannus a diamddiffyn.  Cafwyd adroddiad gan Uwch Beiriannydd, Rheoli Perygl Llifogydd (SE) ynglŷn â’r gwaith cychwynnol a wnaed yn yr ardal a chadarnhaodd fod rhaglen waith wedi ei datblygu i leihau’r risg ymhellach.  Mae’n debyg na allai’r Cyngor, ar ei ben ei hun, fforddio’r posibilrwydd o sefydlu cynllun gwella amddiffynfeydd yr arfordir, a byddai'n ddibynnol ar gael arian grant sylweddol oddi wrth Lywodraeth Cymru.  Eglurodd mai Dŵr Cymru sy’n gyfrifol am garthffosydd sy’n gorlifo a’u bod yn cynnal ymchwiliad yn fuan i nifer o achosion diweddar o lifogydd ledled y sir yn dilyn glaw trwm.  Amlygwyd pwysigrwydd wardeiniaid llifogydd hefyd a dywedwyd wrth yr aelodau mai mater i Gyfoeth Naturiol Cymru yw dynodi wardeiniaid llifogydd mewn ardaloedd o berygl er mwyn rhannu gwybodaeth leol ynglŷn â’r sawl sydd wedi eu heffeithio a pha mor ddiamddiffyn ydynt.  Roedd system ymateb brys y Cyngor wedi cael ei mireinio yn dilyn profiadau diweddar a chafwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gwaith yr oedd wedi ei wneud er mwyn gwella cadernid y trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer dynodi pa breswylwyr sy'n ddiamddiffyn yn ystod cyfnod o ymateb brys.

 

Tra câi’r strategaeth ei hystyried, ymatebodd SE i gwestiynau ynglŷn â'r risg o lifogydd mewn ardaloedd penodol a'r fethodoleg a ddefnyddir wrth gynnal asesiadau cychwynnol yn unol â chanllawiau sydd wedi eu diffinio’n genedlaethol. Roedd y Cynghorydd Huw Jones yn awyddus i Gorwen gael ei ailasesu o ran perygl llifogydd yn dilyn y gwaith a wnaed yn ddiweddar i liniaru llifogydd a chytunodd drafod y mater gydag SE wedi'r cyfarfod.  Mewn ymateb i faterion a godwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies, cadarnhaodd SE y gellid ychwanegu cyfeiriad at Gefn Meiriadog fel un o’r ardaloedd yr effeithia perygl llifogydd arnynt (tudalen 8). Gellid diwygio’r cyfieithiad Cymraeg yn ôl yr angen hefyd.  Soniodd hefyd am gyfrifoldebau a deddfwriaeth sy'n llywodraethu carthffosydd  a’r ystyriaeth a roddwyd i Gynllun Rheoli’r Traethlin wrth lunio'r strategaeth.

 

Cymeradwyodd y Cabinet y strategaeth a'r gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau cynharach ond mynegwyd pryderon ynglŷn â’r adnoddau y mae eu hangen i sicrhau gweithredu a monitro’r strategaeth yn briodol ar adeg o doriadau sylweddol yn y gyllideb.  Y farn oedd y dylid rhoi blaenoriaeth uwch i reoli perygl llifogydd ac y dylid ystyried cynnwys hynny yn y Cynllun Corfforaethol.  Cafodd yr Aelodau sicrwydd gan y Prif Weithredwr y byddai'r mater yn cael ei drafod ymhellach fis Medi mewn sesiwn rhyddid a hyblygrwydd ynglŷn â’r Cynllun Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo cyflwyno’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd i Lywodraeth Cymru gogyfer ag adolygiad Gweinidogol, ac yn

 

(b)       nodi'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: