Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG

Ystyried  adroddiad  gan  y  Cynghorydd  Eryl  Williams,  Aelod  Arweiniol  Addysg  (copi’n  amgaeedig)  yn  darparu  diweddariad  o  Raglen  Moderneiddio  Addysg  ac  yn  ceisio  cymeradwyaeth  y  Cabinet ar gyfer y prosiectau yn y Rhaglen.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn awdurdodi cychwyn astudiaethau dichonoldeb mewn perthynas â'r prosiectau a nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad, bydd eu cwblhau yn destun penderfyniadau’r gyllideb yn y dyfodol;

 

(b)       yn nodi y bydd yr awdurdod yn parhau i gynnal y ddarpariaeth yn Ysgol Borthyn;

 

(c)        yn nodi'r gofyniad i ymgynghori ar ddyfodol Ysgol Rhewl yn dilyn yr astudiaeth dichonoldeb ar safle Glasdir, ac

 

(d)       yn cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori ffurfiol ar gyfer y newid arfaethedig i ysgol sydd â dynodiad crefyddol ar gyfer Ysgol Esgob Morgan trwy ei chau fel ysgol gymunedol a'i hail-agor fel ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru o 1 Medi 2015.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn yr eitem hon.]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad gan roi diweddariad ynglŷn â’r Rhaglen Moderneiddio Addysg a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau o fewn y Rhaglen.

 

Amlygwyd llwyddiant y Cyngor wrth weithredu prosiectau Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a thynnwyd sylw'r aelodau at statws ac ymrwymiadau ariannol presennol y prosiectau hynny.  Darparwyd trosolwg hefyd o brosiectau posibl i'w ariannu fel rhan o'r Cynllun Corfforaethol a cheisiwyd cymeradwyaeth i ariannu astudiaeth ddichonoldeb i ddatblygu'r prif ddewisiadau gogyfer â buddsoddiad cyfalaf sy'n deillio o adolygiad ardal Rhuthun.  Cyfeiriwyd hefyd at adolygiadau ardal sydd i’w cynnal yn y dyfodol yn Ninbych, Llanelwy, y Rhyl a Bodelwyddan ac at y cynnig i newid dynodiad Ysgol Esgob Morgan i fod yn un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.

 

Trafododd y Cabinet y rhaglen uchelgeisiol ar gyfer buddsoddi mewn ysgolion yn wyneb y toriadau sylweddol yn y gyllideb sy'n wynebu'r awdurdod a bu i'r Cynghorydd Eryl Williams annog y Cabinet i beidio â gwyro oddi wrth y dull gweithredu a gynlluniwyd er mwyn sicrhau darpariaeth o ansawdd mewn ysgolion ledled Sir Ddinbych.  Ymhelaethodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ynglŷn â’r cyllid sydd ei angen a'r dyraniadau dros dro sydd wedi eu gwneud ac roedd yn hyderus y gellid cyflawni’r rhaglen.  Cafodd y prosiectau eu dadansoddi’n fanwl gan y Grŵp Buddsoddi Strategol a cheir sicrwydd pellach yn sgil cyflawni gwaith dichonolrwydd.  Cytunodd y Cynghorydd Hugh Evans ei bod yn bwysig parhau â'r rhaglen gyfalaf, ond nododd y dylid bod yn ymwybodol o faterion eraill a allai effeithio ar argaeledd cyllid Llywodraeth Cymru, megis ffordd liniarol yr M4 sydd yn yr arfaeth. 

 

Ystyriodd y Cabinet y cynigion yn ofalus fel rhan o adolygiad ardal Rhuthun gan gynnwys ystyried rhinweddau’r cynigion hynny a’r canlyniadau posibl i’r rhai dan sylw.  Er gwaethaf pryderon blaenorol ynglŷn â’r adolygiad, roedd y Cynghorydd Bobby Feeley wedi ei fodloni â’r sicrwydd a gafwyd gan yr Aelod Arweiniol dros Addysg a chan Bennaeth Cefnogi Addysg a Chwsmeriaid y byddai'r ysgol newydd yn Rhuthun yn mynd yn ei blaen.  Roedd y prif bwyntiau trafod yn cynnwys -

 

·        Ysgol Llanbedr - roedd disgwyl penderfyniad gan y Gweinidog ynglŷn â chau'r ysgol fis Medi a bu i’r Cynghorydd Eryl Williams gadarnhau ei ymrwymiad i symud ymlaen â'r cynigion sy'n weddill ar gyfer Rhuthun

·        Ysgol Rhewl - pwysleisiodd y Pennaeth Cefnogi Addysg a Chwsmeriaid y cynhelir ymgynghoriad llawn ynglŷn â dyfodol Ysgol Rhewl yn dilyn cynnal astudiaeth o ddichonoldeb safle Glasdir.  Dywedodd y Cynghorydd Merfyn Parry bod staff a llywodraethwyr Ysgol Rhewl yn frwdfrydig ynglŷn â chael eu cynnwys yn y broses adolygu gan ddweud y byddent yn croesawu cael mewnbwn i'r dewisiadau yn y dyfodol.  Roedd amseru cyhoeddi’r adroddiad yn ystod gwyliau'r ysgol yn anffodus a rhoddodd y Pennaeth Cefnogi Addysg a Chwsmeriaid sicrwydd y byddai’r rhieni a gysylltodd â'r Tîm Derbyniadau yn cael eglurhad o sefyllfa’r adolygiad

·        Ysgolion Tref Rhuthun a Safle Glasdir – darparwyd y terfynau amser disgwyliedig ar gyfer datblygu cynigion.  Pe caiff ei gymeradwyo, mae disgwyl y byddai'r astudiaeth o ddichonoldeb lleoliad yr ysgolion posibl a'u nifer yn cael ei chwblhau yn yr hydref ac yn dilyn hynny gellid asesu pa effaith fyddai ar Ysgol Rhewl.  Y cam nesaf yw ymgynghori ynglŷn â dyfodol Ysgol Rhewl a chaiff hynny ei wneud ar yr un pryd a llunio cynllun manwl ar gyfer ysgol newydd y dref .

 

Nododd yr Aelodau rai meysydd o’r ddarpariaeth gynradd y dylid eu hadolygu yn y dyfodol a nodi pa faterion y dylid mynd i’r afael â nhw.  Teimlai'r Cynghorydd Meirick Davies bod y cynnig i newid dynodiad Ysgol Esgob Morgan yn fater y dylid craffu arno.  Adroddodd y Pennaeth Cefnogi Addysg a Chwsmeriaid fod y Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi bod drwy'r broses graffu ac y byddai hi’n barod i ddarparu adroddiadau ynglŷn â phrosiectau unigol yn ôl y gofyn.  Cafwyd adroddiad gan y Cynghorydd Davies hefyd ynglŷn â chyfarfod o Fforwm Busnes Llanelwy lle cwestiynwyd cyflogadwyedd pobl ifanc Sir Ddinbych.  Cafwyd sicrwydd gan y Pennaeth Addysg ynglŷn â lefelau cyrhaeddiad disgyblion Sir Ddinbych a dywedodd fod sgiliau cyflogadwyedd yn broblem genedlaethol.  Cytunodd gwrdd â'r Cynghorydd Davies wedi'r cyfarfod i drafod y mater ymhellach.  Ychwanegodd y Cynghorydd Eryl Williams ei bod yn ofynnol i ysgolion ddilyn agenda llwybrau dysgu 14 - 19 fel y mae wedi ei gosod gan Lywodraeth Cymru.

 

Bu i’r Cabinet ailddatgan eu hymrwymiad i’r flaenoriaeth gorfforaethol o wella perfformiad mewn addysg a gwella ansawdd adeiladau ysgolion ledled y sir.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:-

 

(a)       awdurdodi cychwyn ar astudiaethau dichonoldeb mewn perthynas â'r prosiectau a nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad, ac y byddai eu cwblhâd yn destun dod i benderfyniad ynglŷn â’r gyllideb yn y dyfodol;

 

(b)       nodi y bydd yr awdurdod yn parhau i gynnal y ddarpariaeth yn Ysgol Borthyn;

 

(c)        nodi'r gofyniad i ymgynghori ynglŷn â dyfodol Ysgol Rhewl yn dilyn cynnal astudiaeth o ddichonoldeb safle Glasdir, ac yn

 

(d)       cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori’n ffurfiol ynglŷn â’r bwriad i newid Ysgol Esgob Morgan yn ysgol  â dynodiad crefyddol trwy gau’r ysgol gymunedol bresennol a'i hail-agor fel ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Reolir o 1 Medi 2015.

 

 

Dogfennau ategol: