Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL AC ADOLYGIAD.

Ystyried  adroddiad  gan  y  Dirprwy Swyddog Monitro  (copi  ynghlwm)  er  mwyn  i  aelodau’r  Pwyllgor  drafod  ac  ystyried  mabwysiadu Rhaglen  Gwaith  i’r  Dyfodol. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro (DSM) adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn cyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Adolygiad i’w hystyried a’i mabwysiadu.

 

Eglurodd y DSM pam y lluniwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Roedd mwyafrif Pwyllgorau’r Cyngor yn defnyddio Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor yn rhagweithiol, ac yn mynychu cyfarfodydd ar lefel Sir, Dinas, Tref a Chymuned. Ar ôl iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfodydd, caiff adborth yr aelodau ei gyflwyno yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Safonau.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys rhestr o feysydd gwaith dangosol i’w trafod gan y Pwyllgor er mwyn penderfynu a fyddent yn cael eu mabwysiadu o fewn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Cafwyd trafodaeth fanwl iawn a chodwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·       Rhoi hyfforddiant i aelodau ar y Cod Ymddygiad.

Ø  Hyfforddiant wyneb-yn-wyneb gan y Swyddog Monitro (SM) a’r DSM. Byddai’n anodd cynnig yr hyfforddiant ar hyd y flwyddyn.  Awgrymodd yr aelodau y gellid cynhyrchu CD hyfforddiant yn ymwneud â phresenoldeb mewn cyfarfodydd cynghorau Dinas, Tref a Chymuned ac ymhelaethu ar hyn gyda’r aelodau. 

Ø  E-ddysgu – roedd hyfforddiant ar y cod ymddygiad wedi ei ffilmio.  Roedd yn bosibl y gellid golygu a chopïo’r ffilm er mwyn i’r Clercod ei dosbarthu  ymhlith aelodau. 

Ø  Hyfforddi Clercod – byddai’r hyfforddiant yn cael ei gyflwyno gan y SM a’r DSM. Yna, byddai’r Clercod mewn sefyllfa i hyfforddi eu haelodau. Cytunodd yr aelodau y gellid cynnal sesiynau hyfforddiant penodol i Glercod yn Neuadd y Sir, Rhuthun.

Ø  Hyfforddiant a gydlynwyd trwy Bwyllgor Safonau Gogledd Cymru ar gyfer Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Gellid cyflenwi’r hyfforddiant a rhannu’r costau.

·       Codi ymwybyddiaeth o’r Cod.

Ø  Cadarnhaodd y DSM y gellid codi ymwybyddiaeth o’r Pwyllgor Safonau a’r Cod mewn llythyr ynghyd â CD amgaeëdig. Byddai Clerc y Cyngor Dinas, Tref, Cymuned yn derbyn rhybudd ymlaen llaw o gais gan Aelod o’r Pwyllgor Safonau i fynychu cyfarfod i godi ymwybyddiaeth o’r Pwyllgor, ac i gynnwys hyfforddiant. Awgrymodd  Ms Margaret Medley y dylid cynnwys slip dychwelyd ar waelod y llythyr er mwyn i’r Clerc gydnabod ei fod wedi derbyn y llythyr a’r CD .

Cytunwyd y byddai llythyr drafft ynghyd â CD sampl yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau.

Hefyd, cytunwyd y dylid anfon y Cod Ymddygiad i bob Cyngor Dinas, Tref a Chymuned yn electronig. Byddai’r Clercod yn cael cais i argraffu copïau a’u dosbarthu ymhlith yr aelodau.

·       Adroddiad y Pwyllgor Safonau o’r Gadair i bob Cyngor Dinas, Tref a Chymuned mewn perthynas ag astudiaethau achos Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Ø  Cytunwyd i gynnwys copi o’r llyfr achosion a luniwyd gan yr Ombwdsmon ynghyd â’r llythyr gan y Cadeirydd.

·       Adolygu Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau.

Ø  Cafwyd argymhelliad i gysylltu â’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i ofyn am farn yr aelodau ynglŷn â’r awgrym i’r Pwyllgor Safonau fynd i’r afael â mwy o faterion a oedd yn cael eu trafod gan eu Pwyllgor hwy ar hyn o bryd.

·       Adroddiad Blynyddol i’r Cyngor Llawn.

Ø  Cytunwyd y dylai Cadeirydd y Pwyllgor Safonau gyflwyno Adroddiad Blynyddol i’r Cyngor Llawn yng nghyfarfod mis Medi neu fis Hydref.

·       Monitro Cwynion ar draws y Sir ar lefel Cymuned a Sir.

Ø  Ar hyn o bryd roedd hyn yn eitem sefydlog ar Agenda’r Pwyllgor Safonau a chytunodd yr holl aelodau y dylid parhau i gynnwys yr eitem hon.

·       Presenoldeb mewn cyfarfodydd.

Ø  Byddai rhestr wirio o’r holl Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn cael ei llunio yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau er mwyn galluogi aelodau’r Pwyllgor Safonau i nodi ymlaen llaw pa gyfarfodydd y byddai’n well ganddynt eu mynychu.

·       Hyfforddiant Cod Gorfodol.

Ø  Roedd hyn eisoes wedi’i fabwysiadu ar lefel sir o fewn Cod a Chyfansoddiad y Cyngor. Cytunwyd na fyddai hyfforddiant ar gyfer aelodau Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn orfodol oherwydd y posibilrwydd y gallai hyn gadw rhai aelodau draw ac achosi problem o ran denu pobl i ddod yn Gynghorwyr Dinas, Tref a Chymuned.

·       Hyrwyddo gwaith y Pwyllgor Safonau yn gyhoeddus.

Ø  Byddai cyflwyno adroddiad gerbron y Cyngor Llawn yn codi ymwybyddiaeth ac yn hyrwyddo’r Pwyllgor Safonau.

·       Defnydd o’r Cyfryngau Cymdeithasol.

Ø  Mae’r SM yn gwneud gwaith yn y maes hwn ar hyn o bryd. Byddai’r eitem hon yn cael ei hychwanegu i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w thrafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cytunwyd y dylai’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fod yn eitem sefydlog ar Agenda holl gyfarfodydd y Pwyllgor Safonau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar farn a sylwadau’r Aelodau a nodwyd uchod, y dylid mabwysiadu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gan y Pwyllgor Safonau.

 

 

Dogfennau ategol: