Eitem ar yr agenda
CYMERADWYO DATGANIAD CYFRIFON 2013/14
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn cyflwyno Datganiad
Cyfrifon 2013/14 i’w gymeradwyo’n ffurfiol.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Prif
Gyfrifydd wedi ei ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod, ynghyd â Datganiad
Cyfrifon 2013/14 ac Adroddiad Archwilio’r Datganiadau Ariannol, a gynhyrchwyd
gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Cyflwynodd Pennaeth yr Adran Gyllid ac
Asedau'r adroddiad a oedd yn cyflwyno’r Datganiad Cyfrifon i’w gymeradwyo’n
ffurfiol. Tynnodd sylw at bwysigrwydd a
natur gymhleth y ddogfen ac eglurodd y byddai'r terfynau amser ar gyfer
cynhyrchu Datganiadau Cyfrifon yn dynnach yn y dyfodol. Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gynhyrchu
Datganiad Cyfrifon sy’n cydymffurfio â safonau cyfrifeg cymeradwy, ac mae’n
ofynnol bod Aelodau Etholedig yn cymeradwyo’r cyfrifon archwiliedig yn ffurfiol
ar ran y Cyngor.
Roedd Datganiadau Ariannol 2013/14 wedi cael eu cymeradwyo gan y Prif
Swyddog Cyllid, yn amodol ar archwiliad, ar 30 Mehefin 2014. Cafodd fersiwn ddrafft y Datganiad Cyfrifon
ei chyflwyno i'r Pwyllgor ar 2 Gorffennaf 2014, pan ddarparwyd trosolwg o
fersiwn ddrafft y Datganiad Cyfrifon gan y Prif Gyfrifydd ac eglurhad o'r
broses sy'n sail iddo. Mae’r Rheoliadau
Cyfrifon ac Archwilio yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gymeradwyo’r Cyfrifon
archwiliedig, sydd i gynnwys barn yr Archwilydd allanol, yn ffurfiol erbyn
diwedd mis Medi.
Cafodd y Datganiad Cyfrifon ei gynhyrchu’n unol â'r Safonau Adrodd Ariannol
Rhyngwladol, ac roedd manylion ynglŷn â hynny wedi eu cynnwys yn yr
adroddiad. Mae Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg
Cyhoeddus yn cynhyrchu Cod Ymarfer ar Gyfrifeg Awdurdodau Lleol, yn seiliedig
ar Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol ac mae'r Cyngor wedi paratoi cyfrifon
2013/14 yn unol â'r Cod hwnnw. Mae'r
Datganiad Cyfrifon yn cynnwys barn archwilio ddiamod a thystysgrif archwilio,
ac mae wedi cael ei ryddhau i'w archwilio ac mae ar gael i'r cyhoedd fwrw golwg
drosto ac nid oes unrhyw sylwadau wedi dod i law. Bu Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio’r
cyfrifon a byddant yn cyflwyno trosolwg o’u canfyddiadau ac asesiad o’r broses
mewn adroddiad. Arweiniodd y broses
archwilio at rai newidiadau technegol ac at gywiriadau a newidiadau eraill y
cyfeiriwyd atynt yn adroddiad yr Archwilydd.
Roedd cyhoeddi'r Datganiad Cyfrifon yn ategu stiwardiaeth ariannol a threfn
lywodraethol y Cyngor ac felly yn cefnogi holl wasanaethau a blaenoriaethau'r
Cyngor. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi
gweithio'n agos â’r Tîm Cyllid er mwyn sicrhau fod yr archwiliad yn cael ei
gwblhau yn llwyddiannus ac mewn modd amserol.
Roedd y Datganiad Cyfrifon unwaith eto wedi cael barn archwilio ddiamod, a
oedd yn gyflawniad sylweddol o ystyried graddfa a chymhlethdod y Cyfrifon. Bydd y gweithdrefnau mewnol yn cael eu
hadolygu’n flynyddol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i ddarparu adroddiadau
ariannol o ansawdd da.
Cafwyd cyflwyniad gan y Prif Gyfrifydd
ynglŷn â’r Datganiad Cyfrifon a oedd yn:–
·
darparu trosolwg
o'r cyfrifon a'r prif ddatganiadau ariannol.
·
darparu
amlinelliad o'r prosesau dan sylw gan gynnwys gofynion ac amserlenni
deddfwriaethol ynghyd â rôl yr Aelodau yn y broses
·
dangos sut yr oedd
ffigurau a adroddwyd yn y Cyfrif Refeniw wedi cael eu hadlewyrchu yn y
datganiadau ariannol.
·
amlygu’r meysydd
allweddol y dylid rhoi sylw iddynt yn cynnwys Symudiad mewn Cronfeydd Wrth
Gefn; Datganiad Incwm a Gwariant; y Fantolen a'r Datganiad Llif Arian.
·
nodi fod gofyniad statudol i gymeradwyo'r Datganiad
Cyfrifon erbyn 30 Medi, 2014.
Nododd y Prif Gyfrifydd nad oedd unrhyw
faterion sylweddol wedi dod i’r amlwg yn sgil archwiliad Swyddfa Archwilio
Cymru a oedd yn rhoi sicrwydd inni o ran prosesau a chydymffurfiaeth.
Cafwyd crynodeb manwl gan gynrychiolydd
Swyddfa Archwilio Cymru (AV) o Adroddiad Archwilio’r Datganiadau Ariannol a
chyfeiriodd at rôl Swyddfa Archwilio Cymru o fewn y broses yn ei chyfanrwydd ac
at y cyfrifoldeb sydd ganddynt i adrodd ynglŷn â’r datganiadau
ariannol. Cyflwynodd drosolwg o
ganfyddiadau'r adroddiad a chyfeiriodd yn benodol at y canlynol:–
·
Roedd yr
Archwilydd a Benodwyd yn bwriadu cyhoeddi adroddiad archwilio diamod unwaith y caiff
Llythyr Sylwadau ei ddarparu.
·
Cafwyd crynodeb
o'r cywiriadau a wnaed i fersiwn ddrafft y datganiad ariannol, Rhif 10, Tudalen
16, Atodiad 3. Nid oedd y rhain yn sylweddol ac nid oeddent wedi effeithio ar
gasgliadau’r adroddiad.
·
cyfeiriwyd at ansawdd y papurau ategol a
ddarparwyd, a mynegwyd gwerthfawrogiad i'r Tîm Cyllid am eu cefnogaeth a'u
cymorth.
·
nid oedd unrhyw
faterion pwysig eraill yn codi o'r archwiliad.
·
roedd yr
adroddiadau ariannol a fersiynau drafft y datganiadau ariannol wedi eu paratoi i
safon uchel ac nid oedd unrhyw wendidau perthnasol wedi cael eu nodi yn y
rheolyddion mewnol
·
ni ellir ardystio
cau'r archwiliad hyd nes bod Swyddfa Archwilio
Cymru wedi ymateb yn ffurfiol i ohebiaeth a dderbyniwyd gan y cyhoedd
mewn perthynas â'r cyfrifon drafft.
·
cafwyd cadarnhad o
annibyniaeth a gwrthrychedd y gwaith a wnaed.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd
ynghylch materion yn ymwneud â phroses y Gwasanaethau Eiddo o brisio asedau,
darparodd Pennaeth yr Adran Cyllid ac Asedau fanylion am y broses ac aeth ati i
sicrhau’r Aelodau fod gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i fynd i'r afael â'r
mater hwn. Cafwyd cadarnhad gan Swyddfa
Archwilio Cymru nad oedd unrhyw broblemau mewn perthynas ag ansawdd yr
wybodaeth a ddarparwyd. Cafwyd cadarnhad
hefyd, yn dilyn gwirio samplau, fod y ‘gwiriad ymadael' yn cydymffurfio.
Cafwyd yr ymatebion canlynol i
gwestiynau gan Aelodau:-
-
Amlinellodd y Prif Gyfrifydd y broses, a'r
gwaith sy'n cael ei wneud, mewn perthynas â gwybodaeth am y gronfa bensiwn sy'n
ymwneud â gofyniad Safon Cyfrifo Rhyngwladol 19 i gyrff sy’n cynrychioli
gweithwyr ddatgelu manylion eu cyfrifon mewn perthynas ag asedau,
rhwymedigaethau a thrafodion. Amlygodd
cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru bwysigrwydd gwneud yn siŵr bod
gwerthusiad cywir o'r diffyg yn cael ei ddarparu.
-
Eglurodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio
Cymru bod a wnelo’r prif ysgogiad dros newid y terfynau amser ar gyfer y broses
o gau Datganiadau Cyfrifon â menter gyfrifon y Llywodraethau yn ei chyfanrwydd,
a oedd yn wreiddiol yn un o fentrau’r Trysorlys. Cadarnhawyd y byddai'n rhaid i Lywodraeth
Cymru hefyd gadw at y terfynau amser newydd.
Mynegodd Pennaeth yr Adran Cyllid ac Asedau farn na fyddai cwtogi’r terfynau
amser yn gwella cywirdeb nac ansawdd y ffigurau a gynhyrchir.
-
Cyfeiriwyd
at y ffigurau adeiladu mewn perthynas â Harbwr y Foryd o ganlyniad i
gam-ddosbarthu costau y gellir eu priodoli i'r prosiect.
-
Roedd yr addasiad yr oedd angen ei wneud i'r
gofrestr asedau sefydlog i adlewyrchu prisiad cywir Safle Ailgylchu Rhyl wedi codi
o ganlyniad i ddarparu'r ffigwr ail-werthuso.
-
Darparwyd manylion am y cronfeydd wrth gefn
sy’n cael eu dal gan yr Awdurdod ac am ganlyniadau eu defnyddio, y rhai a
glustnodwyd a’r rhai cyffredinol, gan Bennaeth yr Adran Cyllid ac Asedau.
Mynegodd y Pwyllgor foddhad bod lefel
uchel o sicrwydd wedi ei ddarparu o ran proses a chydymffurfiaeth cyfrifo
ariannol. Gofynnodd y Cadeirydd ac
Aelodau'r Pwyllgor fod Pennaeth yr Adran Cyllid ac Asedau yn cyfleu eu gwerthfawrogiad
i'r staff yn y Tîm Cyllid am y gwaith rhagorol a wnaed.
PENDERFYNWYD - Bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn cymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2013/14, sef
Atodiad 1 yr adroddiad, ac
(b)
yn gofyn i’r Cadeirydd ac i’r Prif Swyddog
Ariannol lofnodi’r Cyfrifon a’r Llythyr Sylwadau.
[JMc a PM i weithredu]
Dogfennau ategol:
- App State Accounts Report, Eitem 5. PDF 80 KB
- App State Accounts Appendix, Eitem 5. PDF 422 KB
- STATEMENT OF ACCOUNTS, Eitem 5. PDF 2 MB