Eitem ar yr agenda
CAFFAEL GWASANAETHAU ADEILADU – DIWEDDARIAD
Ystyried adroddiad gan Bennaeth yr Adain Archwilio Mewnol, ar waith dilynol
yr Adain Archwilio Mewnol i Gaffael Gwasanaethau Adeiladu yn dilyn yr adroddiad
cychwynnol ym mis Hydref 2013 ac adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ym mis
Mawrth 2014 (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan Bennaeth yr Adain Archwilio Mewnol, ynglŷn â gwaith dilynol Caffael Gwasanaethau Adeiladu yn dilyn ei adroddiad cychwynnol ym mis Hydref, 2013 ac Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru o fis Mawrth 2014, wedi’u cylchredeg gyda phapurau y cyfarfod.
Roedd yr Adain Archwilio Mewnol wedi
cyhoeddi adroddiad ar Gaffael y Gwasanaethau Adeiladu ym mis Hydref 2013 a oedd
yn rhoi sgôr sicrwydd 'isel', gyda Chynllun Gweithredu a oedd yn cynnwys 11 o
feysydd i'w gwella. Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod ".. cryn le i
wella. Trwy ddatblygu ymagwedd strategol, roedd potensial
i wneud Caffael Gwaith Adeiladu yn llawer mwy effeithlon drwy symleiddio
prosesau a'u gwneud yn fwy cyson, gyda'r fantais o ddileu dyblygu."
Soniodd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru am waith cynnal a chadw adeiladau
ysgolion, gan ddod i'r casgliad "bod angen gwneud gwelliannau i'r
trefniadau caffael presennol i sicrhau bod y Cyngor yn gallu dangos ei fod yn
sicrhau gwerth am arian. Yn ogystal, nid oedd y Cyngor yn cydymffurfio'n
llawn â'i reolau gweithdrefn contract presennol." Roedd Cynllun
Gweithredu Argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys chwe maes i'w
gwella.
Roedd y Cynllun Gweithredu dilynol, Atodiad 1, yn
cynnwys yr holl gamau gweithredu oddi wrth y gwasanaeth Archwilio Mewnol a
Chynlluniau Gweithredu Swyddfa Archwilio Cymru ac yn dangos diffyg cynnydd hyd
yma o ran cyflawni'r gwelliannau a nodwyd gan y gwasanaethau perthnasol o fewn
yr amserlen. Dim ond 2 o'r 17 o risgiau oedd wedi cael sylw yn
llawn, gydag eraill yn mynd rhagddynt yn eu camau amrywiol. Yn benodol:
·
Nid oedd strategaeth caffael wedi’i gosod;
·
Roedd cytundebau fframwaith wedi eu gohirio am sawl mis
o'r dyddiad gweithredu y cytunwyd arno;
·
Roedd cyflwyno e-ffynonellu wedi ei ohirio am flwyddyn
o'r dyddiad gweithredu y cytunwyd arno; a
·
Ni chytunwyd ar reolau gweithdrefn contractau diwygiedig
(CPRs) a byddant yn cael eu gohirio am flwyddyn o'r dyddiad gweithredu y
cytunwyd arno. Roedd hyn wedi effeithio ar weithredu nifer o gamau gwella
eraill. Eglurodd yr HIA y byddai adroddiad yn ymwneud â’r
Weithdrefn Contractau Diwygiedig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis
Tachwedd.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd J. Butterfield mewn
perthynas â'r angen i gynyddu nifer y contractwyr achrededig ar y rhestr,
amlinellodd y Rheolwr Eiddo'r prif swyddogaethau'r fframwaith, a'r holiadur cyn
cymhwyso, gan egluro bod ffurflen datgan diddordeb wedi'i dylunio i ganfod rhai
sydd â diddordeb ac yn darparu cyfle i asesu cymhwysedd yr ymgeiswyr. Cyfeiriodd at
bwysigrwydd arddangos y gwerth gorau ac ymgysylltu gyda’r contractwyr lleol, a
chadarnhaodd y cynhaliwyd gwaith gyda Grŵp Cyswllt y Trydydd Sector a
Chymdeithas y Busnesau Bychain i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer busnesau bychain.
Cyfeiriodd yr HFA at gyfansoddiad y rhestr gymeradwy mewn perthynas ag
argaeledd gwaith ac amlygodd bod angen ysgogi cystadleuaeth. Cadarnhaodd y
Rheolwr Eiddo y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Aelodau ar ôl
cwblhau'r Cytundebau Fframwaith.
Mynegodd Mr P.Whitham bryder ynglŷn ag absenoldeb strategaeth caffael
a diffyg cynnydd cyffredinol. Cytunodd yr HIA y gellir cyflwyno adroddiad cynnydd
pellach i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ar 17 Rhagfyr 2014. Cyfeiriodd Mr Whitham at
adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn â chynnal a chadw adeiladau ysgol
a phwysigrwydd cydgrynhoad, ac awgrymodd bod cyfeiriad at berthnasau gyda
chontractwyr yn cynnwys rhoddion a lletygarwch.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.L. Holland, eglurodd y Rheolwr Caffael Strategol
Dros Dro bod contractau ar gyfer gwaith priffyrdd yn Sir Ddinbych a Sir y
Fflint, cytundeb ar y cyd, yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Amlinellwyd
manylion rheoli a pherfformiad y contractau ac amlygwyd y buddiannau o uno
Timau Caffael Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
Yn derbyn yr adroddiad ac
yn nodi’r pryderon a fynegwyd o ran diffyg cynnydd.
(b)
Yn cytuno bod Pennaeth yr
Adain Archwilio Mewnol yn cyflwyno adroddiad cynnydd i gyfarfod mis Rhagfyr y
Pwyllgor, ac
(c)
Yn gofyn am adroddiad i’r
Aelodau ar ôl cwblhau'r Cytundebau Fframwaith.
(IB, SA a DL i weithredu)
Dogfennau ategol: