Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD COFRESTR RISG CORFFORAETHOL
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio (copi wedi’i amgáu) sy’n
darparu fersiwn ddiweddaraf y Gofrestr Risg Corfforaethol, fel y cytunwyd yn Y
Briffio Cabinet.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Gwella a
Moderneiddio sy’n darparu fersiwn ddiweddaraf y Gofrestr Risg Corfforaethol,
fel y cytunwyd yn sesiwn Briffio’r Cabinet wedi’i ddosbarthu eisoes.
Cyflwynodd y Swyddog Gwella Corfforaethol yr
adroddiad ac eglurodd fod y Gofrestr Risg Corfforaethol yn galluogi’r cyngor i
reoli tebygolrwydd ac effaith risgiau drwy werthuso effaith unrhyw weithredoedd
cyfredol i liniaru risg, a chofnodi dyddiadau cau a chyfrifoldebau ar gyfer
gweithredoedd pellach er mwyn sicrhau rheolaeth well. Roedd y
Gofrestr wedi’i datblygu gan y Tîm Gweithredu Corfforaethol a’r Cabinet, a nhw
sy’n berchen arni hefyd. Roedd y broses ar gyfer adolygu'r Gofrestr Risg
Corfforaethol wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.
Roedd y broses adolygu ar gyfer y Gofrestr Risg
Corfforaethol wedi ei chynnwys yn yr adroddiad ac yn dilyn pob adolygiad
ffurfiol, ddwywaith y flwyddyn, roedd y ddogfen ddiwygiedig yn cael ei
chyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Byddai’r
gweithredoedd a nodir er mwyn delio â risgiau corfforaethol yn cael eu cynnwys
mewn Cynlluniau Gwasanaethau, a oedd yn galluogi’r Pwyllgor Archwilio
Perfformiad i fonitro’r cynnydd. Dylid amlygu unrhyw faterion perfformiad mewn
perthynas â darparu’r digwyddiadau fel rhan o broses Herio Perfformiad
Gwasanaethau.
Roedd Archwilio Mewnol
y cyngor yn darparu sicrwydd annibynnol ar effeithiolrwydd dulliau rheoli
mewnol a’r systemau sydd ar waith er mwyn lliniaru risgiau yn y cyngor. Roedd
hefyd yn cynnig her annibynnol i sicrhau bod egwyddorion a gofynion rheoli risg
yn cael eu defnyddio’n gyson ym mhob rhan o’r Awdurdod. Roedd Gwasanaethau
Archwilio Mewnol yn defnyddio gwybodaeth o’r gwasanaethau a’r Gofrestr Risg
Corfforaethol er mwyn penderfynu ar eu rhaglen gwaith i’r dyfodol.
Roedd adolygiad ac adroddiad blynyddol ar gynnydd y
Polisi Rheoli Risg, yn nodi mannau gwan sydd angen eu cryfhau i wella’r broses
o reoli risg. Pwrpas y Gofrestr Risg Corfforaethol oedd nodi
digwyddiadau posibl yn y dyfodol a allai gael effaith niweidiol ar allu’r
Cyngor i gyflawni ei amcanion, a’i Flaenoriaethau Corfforaethol.
Rhoddodd y Swyddog Gwella Corfforaethol
grynodeb o'r prif newidiadau a wnaed i'r Gofrestr Risg Corfforaethol, Atodiad
1, ac amlygwyd y meysydd canlynol:-
-
Diwygiad i DCC004: ‘Y
risg nad yw'r fframwaith Adnoddau Dynol yn cefnogi nodau'r sefydliad’.
-
Diwygiad i DCC006: 'Y
risg bod yr amgylchedd economaidd ac ariannol yn gwaethygu y tu hwnt i
ddisgwyliadau presennol'.
-
Diwygiad i DCC016: 'Y
risg bod effaith y diwygiadau lles yn fwy arwyddocaol na'r hyn a ragwelwyd gan
y cyngor'.
-
Diwygiad i DCC017: 'Y
risg nad yw'r fframwaith TGCh yn diwallu anghenion y sefydliad'.
-
Diwygiad i DCC018: Geiriad blaenorol, 'Y risg na fydd rhaglen newid/moderneiddio a
buddion prosiect yn cael eu gwireddu'n llawn'.
Mewn ymateb i faterion a godwyd gan
Aelodau, cafwyd cadarnhad gan y Swyddog Gwella Corfforaethol y byddai
canfyddiadau archwiliad SAC o reoli risg yn cael eu hadrodd pan fyddant ar
gael, ac eglurodd y byddai adrodd am 'fethiannau agos' yn cael ei ychwanegu at
y camau gweithredu lliniarol Iechyd a Diogelwch. Cytunodd
y Swyddog Gwella Corfforaethol hefyd i drafod risg sy'n gysylltiedig â thywydd
gyda CET, a chael mwy o fanylion ynglŷn â chamau lliniaru eraill ynghylch
Sefydliadau Hyd Braich gan y Pennaeth Archwilio Mewnol.
O ran risg sy'n gysylltiedig â’r
gyllideb, eglurodd y Swyddog Gwella Corfforaethol fod y camau lliniaru a
restrwyd yn disgrifio'r camau a gymerwyd er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau
gwybodus a democrataidd o gwmpas y rhaglen o reoli'r gyllideb.
Roedd adroddiadau cyllideb a gyflwynwyd i'r Cabinet yn
fisol yn cynnwys adran risg. Byddai pob
cynnig neu brosiect sy'n gysylltiedig â'r rhaglen o reoli'r gyllideb yn cael eu
cyflwyno i'r Cyngor a/neu’r Cabinet gydag adroddiad eglurhaol a oedd yn cynnwys
adran risg. Roedd rheoli risg yn rhan annatod a gweithredol o reoli gwasanaeth
a phrosiectau. Teimlwyd bod y broses rheoli risg yn
cynnwys y cydrannau angenrheidiol i roi sicrwydd. Cynghorodd
y Pwyllgor y dylid cyfeirio dogfennau priodol ar gyfer prosiectau a chynigion,
gan gynnwys cofrestri risg, adroddiadau eglurhaol, i geisio sicrhau bod y risg
yn cael ei reoli.
Cytunodd y Swyddog Gwella Corfforaethol
i drafod risg sy'n gysylltiedig â thywydd gyda CET, a chael mwy o fanylion
ynglŷn â chamau lliniaru eraill ynghylch Sefydliadau Hyd Braich gan y
Pennaeth Archwilio Mewnol. Eglurodd
fod y Polisi Rheoli Risg wedi ei adolygu a’i gyflwyno i'r Pwyllgor yn 2012, ac
roedd adolygiad blynyddol hefyd wedi ei gyflwyno i'r Pwyllgor.
Mewn ymateb i gwestiwn
gan Mr P. Whitham mewn perthynas â DCC021, eglurodd y Swyddog Gwella
Corfforaethol y byddai trafodaethau yn dechrau gyda’r Cabinet a CET ym mis Medi
ac y byddai adroddiad diweddaru yn manylu unrhyw risgiau cysylltiedig yn cael
ei gyflwyno i'r Pwyllgor.
Mewn ymateb i bryderon
a godwyd gan y Cynghorydd G.M. Kensler ynghylch y risgiau posibl i Sir Ddinbych
a allai ddeillio o Ddiwygiadau Lles, a'r canfyddiadau anffafriol sydd wedi’u
cynnwys yn yr Adroddiad Archwilio Mewnol, nododd y Pwyllgor y pryderon a
fynegwyd a chytunwyd bod yr Adroddiad Archwilio Mewnol, a oedd yn cyfeirio at
Diwygiadau Lles, yn cael ei gynnwys ar y rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer 3
Medi, 2014.
PENDERFYNWYD - yn amodol ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol: -
(a)
yn derbyn adroddiad
ac yn nodi’r hyn a ddilëir, ychwanegiadau a newidiadau i’r Gofrestr Risg
Corfforaethol, ac
(b)
yn cytuno bod
yr Adroddiad Archwilio Mewnol yn cael ei gynnwys ar y rhaglen gwaith i’r
dyfodol ar gyfer 3 Medi, 2014.
Dogfennau ategol:
- Corp Risk Reg Report, Eitem 8. PDF 96 KB
- Corp Risk Reg App 1, Eitem 8. PDF 113 KB
- Corp Risk Reg App 2, Eitem 8. PDF 99 KB