Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CANLYNIAD ARIANNOL 2013/14

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi wedi’i amgáu) yn manylu ar y sefyllfa’r canlyniad refeniw terfynol ar gyfer 2013/14 a bwriad i ymdrin â chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i argymell y canlynol i’r Cyngor llawn -

 

(a)       y sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2013/14, a

 

(b)       ymdrin â’r cronfeydd wrth gefn a’r  balansau fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn manylu ar sefyllfa’r canlyniad refeniw terfynol 2013/14 ac yn nodi sut y bwriedir ymdrin â’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau. Mae'r ffigurau Alldro Refeniw terfynol (Atodiad 1); Manylion Alldro Gwasanaethau (Atodiad 2); Balansau Ysgolion (Atodiad 3), a Trosglwyddiadau o / i Gronfeydd a Glustnodwyd (Atodiad 4) ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr adroddiad a'r atodiadau. Yn fyr, mae’r sefyllfa alldro ar y cyfan yn dangos tanwariant yn erbyn y gyllideb a gymeradwywyd sydd, ynghyd â'r cynnydd yn arenillion treth y cyngor, yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor. O ganlyniad, bu’n bosibl gwneud argymhellion ar gyfer trosglwyddo arian i gronfeydd wrth gefn penodol a fyddai'n cynorthwyo'r Cyngor i fynd i'r afael â'r pwysau ariannol difrifol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac yn darparu’r arian parod sydd ei angen i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Y sefyllfa derfynol yw £1.1 miliwn o arian parod. Cynigiwyd bod £885 mil yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at elfen arian parod wrth gefn y Cynllun Corfforaethol a bod £250 mil yn cael ei neilltuo ar gyfer gwariant cyfalaf i arbed gorfod defnyddio cronfeydd wrth gefn i edrych ar y posibilrwydd o fuddsoddi mewn llety gofal maeth.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, tynnwyd sylw at y meysydd canlynol -

 

·        Roedd gwariant ysgolion yn £1.023 miliwn yn is na'r gyllideb ddirprwyedig a thrafododd yr aelodau y rhesymau posibl am y tanwariant. Mae ysgolion yn gyfrifol am eu cyllidebau dirprwyedig eu hunain a rhoddwyd eglurhad ar rôl y Fforwm Cyllidebau Ysgolion a rôl y swyddogion wrth reoli'r arian. Mae trafodaethau yn cael eu cynnal gydag ysgolion sydd â balansau iach ac mae cymorth yn cael ei ddarparu i ysgolion sydd â diffyg ariannol. Cydnabuwyd y cynnydd da a wnaed gan ddwy Ysgol Uwchradd y Rhyl i leihau balansau negyddol a nodwyd bod cynllun adfer ariannol ar gael ar gyfer Ysgol Pendref a bod y pennaeth newydd yn dechrau ei swydd cyn bo hir.

·        Mae ar y Cynllun Corfforaethol angen oddeutu £25 miliwn o arian parod a benthyciad gwerth £52 miliwn er mwyn cyflawni uchelgais y Cyngor. Cyfanswm y cyllid a ddyrannwyd i gronfa wrth gefn y Cynllun Corfforaethol o fewn y flwyddyn oedd £4.3 miliwn, gyda £855 mil arall yn cael ei gynnig fel rhan o'r sefyllfa derfynol. Gyda gwariant o £797 mil yn erbyn y gronfa wrth gefn yn ystod y flwyddyn, y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn oedd £14.7 miliwn. Felly, mae’r gwaith o ddarparu’r Cynllun Corfforaethol ar y trywydd cywir.

·        Roedd y Cynghorydd David Smith yn falch bod cyllideb Gwasanaeth yr Amgylchedd a Phriffyrdd wedi llwyddo i dalu’r costau. Fodd bynnag, roedd yn pryderu bod y balans wedi ei gyflawni drwy ddefnyddio cyllid gan adrannau eraill i gwrdd â diffygion mewn meysydd nad oes gan y gwasanaeth unrhyw reolaeth drostynt, fel cludiant ysgol - cyfeiriodd at gyfarfod Rhyddid a Hyblygrwydd sy’n cael ei gynnal cyn bo hir i ymdrin â’r mater penodol hwn. 

·        Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn trawsnewid gyda phobl yn cael eu hannog i fod yn fwy cyfrifol am eu hiechyd, eu lles a'u hannibyniaeth. Pwysleisiodd bwysigrwydd gwasanaethau anstatudol fel hamdden, llyfrgelloedd a gwasanaethau cefn gwlad yn hynny o beth.

·        Roedd yr Arweinydd yn pryderu ynghylch y posibilrwydd o gael setliad ariannol gwaeth na’r hyn sydd wedi ei nodi eisoes ar gyfer 2015/16. O ystyried yr effaith ar ddarpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol, gofynnodd i’r Cynghorwyr sy’n gysylltiedig â phlaid wleidyddol i ddechrau lobïo ar ran y trigolion i ddylanwadu ar y ddadl honno ar lefel genedlaethol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor strategaeth gynllunio ariannol gadarn ar waith ond mynegodd bryderon difrifol ynghylch cynllunio a chyflwyno'r toriadau sylweddol a awgrymwyd yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol. Ychwanegodd y Cynghorydd Thompson-Hill bod angen datganiad clir gan Lywodraeth Cymru o ran pa ostyngiadau yn y gyllideb y byddai eu hangen.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i argymell y canlynol i’r Cyngor llawn -

 

(a)       Y sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2013/14, a

 

(b)       Ymdrin â’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Ar yr amser hwn (11.30 a.m.) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: