Eitem ar yr agenda
GWEITHIO GYDA CHYMUNEDAU CREFYDDOL
Trafod y
posibilrwydd o CYSAG yn creu adnodd i annog cysylltiadau cymunedol agosach
rhwng ysgolion a grwpiau ffydd.
Cofnodion:
Hwylusodd yr Arweinydd Systemau GwE drafodaeth ar y posibilrwydd o CYSAG yn
creu adnodd i annog cysylltiadau cymunedol agosach rhwng ysgolion a grwpiau
ffydd. Er ei fod wedi awgrymu i ddechrau cael 'grŵp
llai' i ddatblygu'r adnodd hwn, yn hytrach roedd CYSAG Sir y Fflint wedi
penderfynu llunio astudiaeth achos o arfer da o ran roedd ysgolion a'r gymuned
grefyddol yn rhyngweithio â'i gilydd.
Cytunwyd i gysylltu ag
ysgolion a chyrff crefyddol i ofyn am astudiaeth achos ac i ddewis yr
enghreifftiau gorau i rannu arfer da ar draws yr ysgolion a'r gymuned
grefyddol. Teimlwyd y byddai'r opsiwn hwn yn gwneud gwell
defnydd o adnoddau a byddai'n haws i’w hwyluso na 'grŵp llai'. Y gobaith
oedd cyfuno astudiaethau achos o Gonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint mewn un
adnodd. Os cytunwyd ar yr opsiwn hwn byddai costau
cyfieithu tua £400 - £500 ac awgrymwyd gofyn i sefydliadau eglwysig ar draws y
tri awdurdod am gyfraniad ariannol i gwrdd â'r gost.
Rhoddodd yr
Aelodau enghreifftiau o arfer da presennol a rhyngweithio rhwng ysgolion, cyrff
crefyddol a'r gymuned ehangach, gan roi sylwadau fel a ganlyn -
·
Cadarnhaodd
Mrs Sylvia Harris bod ymweliadau â’r eglwys gadeiriol yn parhau gan ysgolion a
bod llawer yn manteisio ar hyn. Cyfeiriodd hefyd at Brosiect Drysau Cysegredig a oedd yn fenter dwristiaeth
yn gweithio gydag eglwysi a chapeli ar draws Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint
gyda llwybrau i’w harchwilio
·
Cyfeiriodd
y Cadeirydd at ymweliadau ysgol i Eglwys Llanasa pan oedd yn Bennaeth a oedd yn
rhoi cyfle i blant i ymweld â lle cysegredig a defnyddio’r adnoddau oedd ar
gael yn yr eglwys - roedd yn teimlo bod rhyngweithio rhwng ysgolion ac eglwysi
yn dibynnu i raddau helaeth ar y ficeriaid a’r gweinidogion a oedd yn gofalu
amdanynt
·
Pwysleisiodd
y Cynghorydd Joe Welch y manteision o gysylltiadau traws gwricwlaidd gyda'r
rhan fwyaf o bynciau eraill ac adroddodd ar brosiect hanner tymor a oedd yn
cynnwys taith gerdded natur o gwmpas pentref Nantglyn gan orffen yn eglwys
Nantglyn – cytunodd i gysylltu â'r ysgol dan sylw gyda’r bwriad iddynt gyfrannu
at astudiaeth achos
·
Soniodd
Mr Simon Cameron am y gwaith ar y gweill mewn ysgolion eglwys a menter i gasglu
arfer da ac astudiaethau achos mewn Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd a
fyddai ar gael i ysgolion eu defnyddio ar y wefan stasaph.churchinwales.org.uk/. Cyfeiriodd hefyd at Ymddiriedolaeth Elusennol yr Archesgob Rice Jones a
oedd yn darparu grantiau i ysgolion i brynu adnoddau ar gyfer Addysg Grefyddol
ac Addoli ar y Cyd
·
Teimlai'r
Cynghorydd Ann Davies fod ymweliadau ysgolion yn tueddu i ganolbwyntio ar
achlysuron arbennig fel y Nadolig ac y gellid annog plant i gymryd rhan mewn
gwasanaethau ar y Sul. Awgrymodd y Cynghorydd Margaret McCarroll y gellid cynnal cyflwyniadau
cofnodi cyrhaeddiad ysgolion mewn eglwysi fel mater o arfer da
·
Roedd
Ms Mary Ludenbach yn falch o adrodd ar y cysylltiadau niferus oedd gan Ysgol
Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones gyda'r gymuned grefyddol, a dywedodd
fod grwpiau o'r ysgol yn mynychu gwasanaethau yn ystod yr wythnos. Wrth nodi manteision cysylltiadau traws
gwricwlaidd pwysleisiodd bwysigrwydd rhywbeth mwy dwys, sef rhoi cyfle i blant
fod mewn, amsugno a myfyrio mewn lle sanctaidd.
Yng ngoleuni'r
enghreifftiau ardderchog o arfer da presennol, holodd y Cadeirydd a oedd angen
ar gyfer adnodd ychwanegol. Trafododd yr aelodau y manteision o
ddarparu astudiaeth achos ar gyfer cynhyrchu syniadau ac ysbrydoliaeth i wella
a hyrwyddo cysylltiadau cryf ymhellach, ac ar gyfer adfywio'r ddarpariaeth
bresennol. Ychwanegodd yr Arweinydd Systemau y gellid
cyfeirio yn yr adnodd at y ddarpariaeth bresennol. Y
gobaith oedd y byddai'r astudiaethau achos yn ysbrydoli ysgolion a'r gymuned
grefyddol leol. O ganlyniad, -
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig i
ddatblygu adnodd ar y cyd ag awdurdodau lleol Conwy a Sir y Fflint i annog
cysylltiadau agosach a rhyngweithio rhwng ysgolion a'r gymuned grefyddol (fel
yr amlinellwyd uchod).
Dogfennau ategol: