Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi'n amgaeedig) i ddarparu gwybodaeth i Aelodau am Adroddiad Gwella Blynyddol y Cyngor.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Gwilym Bury o Swyddfa Archwilio Cymru Adroddiad Gwella Blynyddol 2013/14 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynghyd â chyflwyniad i ddarparu gwybodaeth i'r Aelodau.

 

O dan y Mesur Llywodraeth Leol, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn adolygu cynnydd y Cyngor bob blwyddyn tuag at gyflawni ei amcanion a'i ragolygon ar gyfer parhau i wella yn ystod y flwyddyn i ddod.

 

Yn gyffredinol, roedd hwn wedi bod yn adroddiad cadarnhaol iawn.  Roedd yr adroddiad wedi tynnu sylw at feysydd lle y gellid gwneud gwelliannau pellach, ond nid oedd unrhyw argymhellion pellach yn yr adroddiad.

 

Eglurodd Gwilym Bury fod yr adroddiad mewn tair prif adran:

 

·        Asesiad o berfformiad y Cyngor ar gyfer 2012/13;

·        Trefniadau'r Cyngor ar gyfer hunan-arfarnu perfformiad 2012-13;

·        Trefniadau'r Cyngor ar gyfer cynllunio gwelliant 2013/14.

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·        Roedd y Cyngor wedi helpu llawer o bobl rhag bod yn ddigartref ond roedd ei waith er mwyn sicrhau mynediad at dai fforddiadwy wedi bod yn llai effeithiol.  Nid oedd perfformiad yn y ddwy flynedd flaenorol wedi cyrraedd y targedau a osodwyd.  Roedd y ganran o dai fforddiadwy wedi ei gosod gan y sir ar 30%, ond roedd yr Arolygydd Cynllunio wedi lleihau’r swm i 10%.  Fodd bynnag, roedd yr Arolygydd Cynllunio wedi datgan os byddai prisiau tai wedi cynyddu o fwy na 10% o 2009, gallai’r Awdurdod Lleol wneud cais i ganran uwch o adeiladau newydd i fod yn dai fforddiadwy;

·        Roedd holl stoc tai Sir Ddinbych yn awr yn cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru;

·        Roedd cyflwr y rhan fwyaf o ffyrdd “A” a “B” o fewn Sir Ddinbych wedi gwella, ond ni fu llawer o gynnydd gyda ffyrdd “C” ac roedd 13.9% mewn cyflwr gwael o hyd;

·        Parhaodd y Cyngor i wella lles ei ddinasyddion mwyaf diamddiffyn.  Amlygodd AGGCC newidiadau cadarnhaol ar draws y gwasanaethau i oedolion a gwasanaethau i blant, a oedd wedi bod yn gadarnhaol iawn.  Yr un maes sy'n peri pryder oedd y gwasanaeth ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal.  Roedd asesiadau iechyd a gwiriadau deintyddol yn un o'r rhai isaf yng Nghymru, ond mae hyn wedi ei gydnabod fel maes i'w wella.

·        Roedd y Cyngor yn gweithio’n effeithiol gyda'i bartneriaid busnes i ddarparu mentrau sy'n cefnogi'r economi leol.  Mae hefyd wedi gwneud cynnydd wrth ddatblygu cynlluniau cynaliadwy ar gyfer ariannu prosiectau yn y dyfodol yn dilyn y cais aflwyddiannus am gyllid gan Lywodraeth Cymru o'r Gronfa Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid i gefnogi mentrau yn y Rhyl.

·        Roedd perfformiad disgyblion mewn ysgolion uwchradd yn 2013 wedi bod yn gymysg.   Yng Nghyfnod Allweddol 3, roedd cyfran y disgyblion 14 oed sy’n ennill y dangosydd pwnc craidd, fel a fesurwyd gan asesiadau athrawon, wedi bod yn is na chyfartaledd Cymru ym mhedair o'r pum mlynedd flaenorol.  Roedd mater Addysg Cyfnod Allweddol 3 yn un yr oedd y Prif Weithredwr ac aelodau yn gofyn iddo fod yn hysbys nad oeddent yn cytuno arno.  Cytunwyd, fodd bynnag, bod angen cynnydd pellach yng Nghyfnod Allweddol 3.

·        Roedd y Cyngor wedi gweithio'n effeithiol i gadw amgylchedd Sir Ddinbych yn ddeniadol, ond roedd wedi bod yn ofynnol gwneud gwaith pellach i leihau achosion o dipio anghyfreithlon a gwella boddhad preswylwyr.  Roedd camau cadarnhaol wedi bod yn digwydd i wella'r materion hyn.

·        Roedd effeithlonrwydd wedi ei ddarparu i foderneiddio gwasanaethau, ond bu diffyg cynnydd gan y gwasanaeth Adnoddau Dynol Corfforaethol wrth gyflawni ei dargedau mewnol allweddol yn ystod 2012/2013.  Nododd arolygon staff fod morâl ymhlith y Gwasanaeth AD Corfforaethol yn isel.  Nododd adroddiad archwilio mewnol diweddar fod cynnydd yn cael ei wneud wrth fynd i'r afael â meysydd allweddol ar gyfer gwella.

·        Roedd y Cyngor wedi cymryd camau i asesu ei ddarpariaeth yn Gymraeg drwy gyfrwng ymarfer siopwr cudd.  Byddai angen i'r Cyngor fuddsoddi mwy mewn hyfforddiant iaith Gymraeg ac iddo gael ei gynllunio'n effeithiol.

 

Ar gyfer y flwyddyn 2013/14 daeth Swyddfa Archwilio Cymru i'r casgliad:

 

·        Bod Sir Ddinbych wedi gwneud cynnydd da wrth gyflwyno gwelliannau yn ei holl amcanion blaenoriaethol ar gyfer 2012/13, ond roedd angen gwelliannau pellach mewn rhai meysydd allweddol;

·        Bod adolygiadau herio gwasanaeth y Cyngor a mesurau eraill i hunan-arfarnu ei berfformiad yn gadarn;

·        Bod y cynllunio y mae’r Cyngor yn ei wneud er mwyn gwella, a’i drefniadau i gefnogi gwelliant yn gadarn.

·        Bod y Cyngor yn debygol o wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus ar gyfer 2014/15.

 

Diolchodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, i gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru am yr adroddiad.  Rhoddwyd diolch hefyd gan fod cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru wedi mynychu’r rhan fwyaf o'r Heriau Gwasanaeth ac roedd ei gyngor wedi bod yn ddefnyddiol iawn.

 

Mynegodd yr Arweinydd bryder ynghylch trefniadau cyllido i Lywodraeth Leol a gofynnodd am ymateb gan yr Archwilydd Cyffredinol ynghylch y trefniadau hynny, yn enwedig gan y byddai cyllid y gyllideb yn cael effaith enfawr ar Lywodraeth Leol.

 

Cytunodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru i fynd â'r mater yn ôl at yr Archwilydd Cyffredinol, gan y byddai’n fater difrifol ar gyfer y mwyafrif o Gynghorau.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru am yr adroddiad teg a chytbwys.  Unwaith eto, rhoddwyd diolch am gefnogaeth cynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru i'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, bod y Cyngor yn nodi ac yn derbyn yr Adroddiad Gwella Blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: