Eitem ar yr agenda
BWRDD LLEOL DIOGELU PLANT CONWY A SIR DDINBYCH
Ystyried adroddiad
gan Reolwr Busnes,
Tîm Diogelu ac
Adolygu (copi ynghlwm)
i fonitro llwyddiant
a pherfformiad y
BLlDP o ran darparu ei flaenoriaethau allweddol ar gyfer 2013/14 a
gwybodaeth am flaenoriaethau allweddol
2014/15.
9.40 a.m. – 10.20 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i’r Aelodau Archwilio i fonitro cyflawniadau a pherfformiad y Bwrdd
Lleol Diogelu Plant wrth gyflawni ei flaenoriaethau allweddol ar gyfer
2013/2014 a gwybodaeth ar ei flaenoriaethau allweddol ar gyfer 2014/2015.
Roedd Leighton Rees, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol
fel Cadeirydd y Bwrdd Lleol Diogelu Plant (BLlDP).
Nododd y Rheolwr
Busnes bod adroddiad y BLlDP wedi cael ei gyflwyno’n flaenorol i’r Pwyllgor
Archwilio Partneriaethau ym mis Tachwedd 2013, a gofynnwyd yn y cyfarfod hwnnw
i ddiweddariad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar y blaenoriaethau allweddol ar
gyfer 2013/14.
Rhoddodd
Aelodau’r Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a'r cynnydd a wnaed yn ystod
2013/14 o ran darparu blaenoriaethau allweddol y BLlDP.
Er y cydnabuwyd
bod y gwaith o ddarparu rhai o'r blaenoriaethau wedi’i rwystro i raddau gan y
gwaith sy’n digwydd i sefydlu Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol ac i ddatblygu
rhyngwynebau rhwng y Bwrdd Rhanbarthol a grwpiau darparu isranbarthol, roedd
gan yr aelodau nifer o bryderon. Roedd y pryderon hyn yn ymwneud â’r:
·
Grŵp
Tasg a Gorffen Cyflogaeth Diogel nad
oedd wedi cyfarfod oherwydd anawsterau wrth ddod o hyd i ddyddiad ac amser oedd
yn gyfleus i bawb i sicrhau presenoldeb mor uchel â phosibl neu oherwydd amodau
tywydd gwael. Awgrymodd yr Aelodau y gallai defnyddio
cyfleusterau cynadledda fideo fod yn ffordd o oresgyn problemau o’r fath a
sicrhau bod y Grŵp yn cyfarfod i ddatblygu ei waith a darparu’r
canllawiau. Gofynnodd y Pwyllgor i gael gwybod am gynnydd y
Grŵp Tasg a Gorffen o ran cyflawni ei amcanion.
·
Rhyngweithiad
Meddygon Teulu ag atgyfeiriadau amddiffyn plant, yn enwedig eu parodrwydd i
dynnu sylw swyddogion diogelu’r Gwasanaethau Plant / Bwrdd Iechyd at achosion
lle mae amheuaeth o gam-drin pant.
Gofynnodd yr Aelodau i
gynnydd wrth ddatblygu cyfranogiad Meddygon Teulu yn y broses atgyfeirio gael
ei adrodd iddynt maes o law.
Hefyd Cafwyd
trafodaeth ar ymagwedd y BLlDP a’r Gwasanaethau Plant tuag at gam-drin
emosiynol ac esgeulustod a'r ffordd y maent yn gweithio gyda sefydliadau ac
asiantaethau eraill mewn perthynas ag ymdrin ag achosion o gam-drin emosiynol
ac esgeulustod. Dywedodd Swyddogion bod cam-drin emosiynol ac
esgeulustod yn faes anodd gan fod materion sylweddol ynghylch beth yn union
oedd cam-drin emosiynol ac esgeulustod a’r gwahanol safonau sydd gan bobl
gysylltiedig. Roedd yr aelodau'n awyddus i wybod a oedd polisi ar waith yn
ysgolion y Sir i helpu canfod cam-drin emosiynol a chorfforol neu esgeulustod. Gwnaethant
gais hefyd i wybod a yw brodyr a chwiorydd a ffrindiau plant anabl yn cael eu
monitro i sicrhau nad ydynt yn cael eu heithrio'n anfwriadol o weithgareddau
arferol yr ysgol oherwydd eu bod yn gweithredu fel gofalwr tra’u bod yn yr
ysgol.
Yn dilyn
trafodaeth fanwl:
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn
yr adroddiad a nodi'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni Cynllun Busnes Bwrdd
Diogelu Plant Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer 2013/14;
(b) Dylid
gwneud pob ymdrech i hwyluso gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen Cyflogaeth
Ddiogel a chynnig Arweiniad;
(c) Dylai’r
Bwrdd barhau i weithio gyda Meddygon Teulu gyda’r bwriad o wella eu
rhyngweithiad gyda'r broses atgyfeiriadau amddiffyn plant;
(d) Dylid
adrodd gwybodaeth ar y cynnydd a wnaed gyda phwyntiau (b) a (c) uchod yn ôl i'r
Pwyllgor maes o law;
(e) Bod
gwybodaeth am aelodaeth Bwrdd Diogelu Plant newydd Gogledd Cymru a Grŵp
Darparu Diogelu Conwy a Sir Ddinbych yn cael ei gylchredeg i aelodau cyn gynted
â’u bod ar gael;
(f) Dylid
darparu gwybodaeth ar y nifer o blant sy’n derbyn addysg yn y cartref ar draws
y Sir ac ar y mesurau sy'n cael eu cymryd yn ysgolion y Sir i gefnogi brodyr a
chwiorydd a ffrindiau disgyblion anabl er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu
heithrio'n anfwriadol o weithgareddau neu brofiadau ysgol a phlentyndod
oherwydd eu dyletswyddau gofal.
Dogfennau ategol: