Eitem ar yr agenda
PROSES Y GYLLIDEB 2015/16
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau, sy'n rhoi diweddariad ar y broses i
gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16. (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Roedd adroddiad, ac atodiad cyfrinachol, gan y
Pennaeth Cyllid ac Asedau (PCA), a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i
gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16, wedi ei ddosbarthu eisoes.
Cyflwynodd y PCA yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i
gyflwyno'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16, a oedd wedi symud i'w ail gam ers
y diweddariad diwethaf. Roedd Atodiad 1 yn dangos y darlun o broses y
gyllideb, ac roedd tabl o ddigwyddiadau allweddol yn y broses wedi’i gynnwys yn
yr adroddiad
Daeth y rownd gyntaf o weithdai cyllideb i gasgliad ar 22 Medi. Roedd llawer yn
bresennol yn y gweithdai, gydag ystod eang o drafodaeth a nifer o gwestiynau yn
cael eu gofyn. Gofynnwyd i Aelodau fynegi barn ynghylch a ddylai cynigion
arbed gael eu 'mabwysiadu', ‘datblygu', neu
eu 'gohirio'. Yn ogystal, aethpwyd ag Aelodau drwy gyllideb pob
gwasanaeth a'u gwahodd i wneud sylwadau ar bob un. Cafodd cynigion
y dynododd yr aelodau y buasent yn fodlon eu mabwysiadu eu cyflwyno i’r Cyngor
Sir i'w cymeradwyo ar 9 Medi. Daeth y cynigion a gymerwyd i’r Cyngor fel arbedion
Cam 1 i gyfanswm o £3.7m ar gyfer 15/16 ac £870k ar gyfer 16/17.
Roedd strategaeth cyllideb y Cyngor wedi nodi bwlch yn y gyllideb o hyd at
£18m dros ddwy flynedd. Cafodd hyn ei lywio’n bennaf gan arwyddion y byddai
setliad cyllido’r Cyngor yn cael ei dorri o 4.5%. Cafodd y Setliad
Llywodraeth Leol Drafft ei gyhoeddi ar 8 Hydref, ac roedd y setliad wedi nodi y
byddai'r gostyngiad arian parod i'r gyllideb yn 3.7% a oedd yn cyfateb i £5.3m. Gyda’r pwysau o
ran costau, roedd yn rhaid i’r Cyngor ariannu'r bwlch yn y gyllideb ar gyfer
2015/16 a oedd bellach tua £8.2m ac amcangyfrifir y bydd tua £8.8m yn 2016/17.
Amlygodd y CA bwysau posibl a allai godi o ganlyniad i addasiadau, i mewn ac
allan, sy’n gysylltiedig â chyllid grant penodol. Cyfeiriwyd yn benodol at yr
effaith o amgylch y Gronfa Gydweithredu Rhanbarthol ar gyfer y rhaglen Gofal
Cymdeithasol. Ar gais y Cadeirydd, cytunodd y CA i ddarparu
manylion am y goblygiadau ar y gyllideb mewn perthynas â phwysau’r cyllid
grant.
Roedd ail gam proses y gyllideb bron wedi'i
gwblhau. Roedd aelodau wedi nodi cynigion a oedd yn gyfanswm
o £3.2m ar gyfer 2015/16 ac £1.8 miliwn ar gyfer 2016/17 a fyddai'n ceisio
cymeradwyaeth ym mis Rhagfyr. Os byddai'r holl gynigion a gymerwyd i'r gweithdy
terfynol ym mis Hydref yn cael eu hargymell i'w cymeradwyo, yna byddai'r
cyfansymiau yn £4.0m ar gyfer 2015/16 a £2.1m ar gyfer 2016/17 o Gam 2.
Byddai cynigion Cam 2 yn cael eu cyflwyno i'r
Cabinet ac yna i'r Cyngor i'w cymeradwyo ym mis Rhagfyr. Byddai Cam 3 yn
ystyried cynigion terfynol i gydbwyso cyllideb 2015/16, gan gynnwys opsiynau ar
gyfer Treth y Cyngor ac unrhyw ddefnydd o gronfeydd wrth gefn. Byddai'r
materion hyn yn cael eu trafod yng Ngweithdy’r Aelodau ym mis Rhagfyr cyn cael
cymeradwyaeth derfynol ym mis Chwefror. Byddai Cam 3 o’r broses
hefyd yn parhau i ddatblygu opsiynau arbedion ar gyfer 2016/17. Roedd manylion
y broses ymgynghori a fabwysiadwyd yng nghyswllt y toriadau yn y gyllideb wedi
cael eu crynhoi yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at gylch gwaith y Pwyllgor i archwilio'r broses
gosod cyllideb y teimlai ei fod wedi bod yn agored ac yn dryloyw. Fodd bynnag,
roedd wedi bod yn ymwybodol o faterion a godwyd mewn perthynas â'r Adolygiad o
Wasanaethau Cynghori ar Les. Tynnodd
sylw at y goblygiadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a'r gymuned ehangach, y
risgiau a nodwyd yng ngweithdy cyllideb mis Gorffennaf ynghylch diswyddiadau, a'r
Flaenoriaeth Gorfforaethol i wella'r economi leol.
Cyfeiriwyd at yr adolygiad a gynhaliwyd gan wahanol Grwpiau, gan gynnwys
sefydliadau trydydd sector. Cwestiynodd y Cadeirydd y rheswm dros ystyried dim
ond un o'r modelau o dan yr adolygiad a gyflwynwyd i'r Aelodau er trafodaeth. Amlinellodd y
CA y broses a ddefnyddiwyd ac a fabwysiadwyd ar gyfer ystyried opsiynau, a
chytunodd i ddarparu copi o'r adroddiad Adolygiad o Wasanaethau Cynghori ar Les
i Aelodau’r Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau y dylai’r adolygiad
o'r broses a ddefnyddiwyd o ran yr Adolygiad Gwasanaethau Cynghori Lles gael ei
wneud gan y Pwyllgor, ynghyd â chynigion yn ymwneud â Hawliau Tramwy a oedd
wedi’u hamlygu gan y Cynghorydd G.M. Kensler.
Teimlai Mr P. Whitham, gan fod cylch gwaith y Pwyllgor yn
cynnwys adolygu risgiau, ac y byddai risg cynhenid sy'n deillio
o'r broses o bennu cyllideb, y gellid cymryd y cyfle i sicrhau bod y broses yn
gadarn a bod yr wybodaeth a roddir i Aelodau i wneud penderfyniadau yn briodol.
Darparodd y CA fanylion am y risgiau sy'n deillio o
weithredu penderfyniadau a wnaed o ran y broses o bennu cyllideb a thoriadau
2015-16 a 2016-17. Cadarnhaodd fod mecanwaith ar waith i ailymweld â thoriadau
a nodwyd, a oedd yn cynnwys adroddiadau misol i'r Cabinet, a rhoddodd hyn y
cyfle i nodi unrhyw ddiffyg cyflawniad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd G.M. Kensler,
cytunodd y CA y gellid darparu rhestr o wasanaethau wedi’u craffu gan y
gweithdai cyllideb, gan gynnwys dyddiadau. Eglurodd
hefyd y gallai taliadau ar gyfer casglu gwastraff gwyrdd gael eu cynnwys o fewn
biliau treth gyngor y trigolion sydd am ddefnyddio'r gwasanaeth.
Amlinellodd yr HLHDS ddiben y broses Rhyddid a Hyblygrwydd, i herio
gwasanaethau ynghylch y modd y maent yn darparu gwasanaethau, ac yna cyflwyno
opsiynau i Aelodau i gynorthwyo gyda'r broses o wneud penderfyniadau o ran y
gyllideb. Roedd Aelodau hefyd wedi cael gwybodaeth lawn ar
gyllidebau gwasanaeth er mwyn iddynt allu ceisio gwybodaeth ychwanegol neu
awgrymu mesurau amgen. Cyfeiriodd at Brotocol y Gyllideb a oedd wedi ei
gytuno gan y Cyngor ar 4 Tachwedd, 2014 a roddodd y cyfle i Aelodau archwilio
awgrymiadau eraill.
Eglurodd y Cadeirydd bod ganddo ef ac Aelodau'r Pwyllgor bryderon ynghylch
rhai o elfennau proses y gyllideb o ran darparu gwybodaeth ar wahanol fodelau o
ddarpariaeth a ddaw o ryddid a hyblygrwydd. Cytunodd Aelodau'r
Pwyllgor â'r awgrym canlynol a gyflwynwyd gan yr HLHDS, sef: -
Er mwyn profi a cheisio sicrwydd ynghylch tryloywder proses y gyllideb,
mae’r Pwyllgor yn gofyn am ragor o wybodaeth am opsiynau amgen a ystyriwyd yn
ystod y safbwyntiau am Hawliau Lles, fel enghraifft gynrychioliadol. Cytunodd yr
Aelodau hefyd y dylid cynnwys cynnig yr Hawliau Tramwy.
Ar gais y Cadeirydd, cytunodd y CA y dylid darparu gwybodaeth mewn
perthynas â grantiau.
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol: -
(a)
yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad.
(b)
yn ceisio rhagor o
wybodaeth am opsiynau amgen a ystyriwyd yn ystod y safbwyntiau am Hawliau Lles a
Hawliau tramwy, fel enghreifftiau cynrychioliadol.
(c)
yn gofyn bod y CA yn rhoi
manylion am y goblygiadau ar y gyllideb mewn perthynas â'r pwysau cyllid grant,
ac
(d)
yn cytuno y gellid
darparu rhestr o wasanaethau wedi’u craffu gan y gweithdai cyllideb, gan gynnwys
dyddiadau.
(RW i weithredu)
Dogfennau ategol: