Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSES GYLLIDEB 2016/17

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) sy'n rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16.

 

 

Cofnodion:

Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau, a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16 a 2016/17, wedi ei ddosbarthu eisoes.

 

Eglurodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill fod y Gyllideb ar gyfer 2015/16 wedi cael ei chymeradwyo gan y Cyngor a bod y Gweithdai Cyllideb yn canolbwyntio ar gynigion cynilo ar gyfer 2016/17 wedi cychwyn, a bod manylion am yr amserlenni arfaethedig wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.  Roedd y bwlch a ragwelwyd yn y gyllideb ar gyfer 2016/17 tua £8.8m.   Roedd arbedion o £2.7miliwn wedi eu cymeradwyo fel rhan o'r broses bresennol a oedd yn golygu bod y bwlch sy'n weddill tua £6.1miliwn.

 

Roedd siart yn dangos y broses gyllideb arfaethedig wedi ei gynnwys fel Atodiad 1. Roedd yn amlinellu'r broses i sicrhau arbedion 2016/17 a symud ymlaen â'r broses a oedd wedi cychwyn ym mis Mawrth 2014. Y 'camau' arbed oedd y pwyntiau penderfyniad a gymerwyd i'r Cyngor i'w cymeradwyo.  Gan fod Camau 1 i 3 wedi eu cymeradwyo roedd y siart yn cychwyn ar Gam 4.

 

Darparwyd manylion y broses ymgynghori sylweddol a wnaed i sicrhau cyllidebau 2015/16 a 2016/17.  Roedd y broses gyllideb wedi bod yn hynod o heriol ac roedd ymgysylltiad a chefnogaeth yr Aelodau yn y broses o wneud penderfyniadau ac archwilio’r broses wedi bod yn allweddol.  Roedd y fframwaith rheoli risg a gynigwyd i reoli gweithredu arbedion cyllideb 2015/16 wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.   Pwysleisiwyd mai hwn oedd y cyfnod ariannol mwyaf heriol y mae'r Cyngor wedi ei wynebu a byddai methu a chyflawni strategaeth gyllideb effeithiol yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau yn y dyfodol.

 

                     Byddai rheoli risg o'r broses yn ystyriaeth allweddol i’r Pwyllgor ac roedd y risgiau posibl o amgylch gweithredu pob cynnig arbed wedi'i gyflwyno mewn gweithdai wrth iddynt ddatblygu.                                 Roedd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi canolbwyntio ar reoli risg y broses a chynigiwyd y dylid cael pedair elfen i'r fframwaith rheoli risg sy'n sail i arbedion cyllideb 2015/16, ac roedd y rhain wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd S.A.  Davies ynghylch y manteision o ddarparu manylion llinellau gwariant ar gyfer gwasanaethau unigol, cadarnhaodd y Prif Gyfrifydd y gellid darparu crynodeb o gyllideb y gwasanaeth, a’r ffigurau diweddaraf a gyflwynwyd ar gyfer 2015/16.  Ymatebodd y Prif Gyfrifydd i gais gan y Cadeirydd a chytunodd ddarparu copïau caled o'r wybodaeth, gan gynnwys taenlenni.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y materion a godwyd gan Mr P. Whitham yn y cyfarfod blaenorol o ran yr agenda risg mewn perthynas â risgiau ariannol, enw da a pherfformiad.  Cadarnhaodd fod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi ystyried y materion a godwyd, ond roedd yn teimlo fod diffyg cyfeiriad yn yr adroddiad at ganlyniad y trafodaethau.  Mewn ymateb i gais gan y Cadeirydd, cytunwyd y byddai adroddiad manwl pellach yn cael ei gyflwyno i'r Gweithdy Cyllideb ym mis Mehefin, 2015 i'w ystyried gan yr Aelodau.

 

 Esboniodd Mr P. Whitham fod y pryderon yr oedd wedi eu mynegi yn ymwneud â'r risgiau cysylltiedig ar gyfer y broses gyllideb ar gyfer 2016/17, a theimlai bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn ymddangos i fod yn canolbwyntio ar y gwaith o fonitro'r broses ar gyfer 2015/16. Roedd yn falch fod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi ystyried yr agwedd agenda risg ond mynegodd siom nad oedd materion yn ymwneud â'r methiant i wneud penderfyniadau yn gynnar, ac arbedion staff yn cael eu hymhlygu gan gostau pensiwn, wedi cael eu hystyried.  Amlinellodd y Prif Gyfrifydd y broses a oedd yn cynnwys monitro effaith cynigion 2015/16, ac amlinellodd y broses ar gyfer ystyried cynigion 2016/17.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd M.Ll.  Davies, cytunwyd bod y mater o golli aelodau staff sy'n siarad Cymraeg yn cael ei amlygu fel risg.  Cyfeiriodd y Cadeirydd at Dyletswydd Statudol Cyngor mewn perthynas â deddfwriaeth yr iaith Gymraeg.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach, ac yn amodol ar y materion a godwyd: -

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad ar y datblygiadau diweddaraf.

     (RW i weithredu)

 

 

Dogfennau ategol: