Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSES Y GYLLIDEB 2015/16

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau sy'n rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16.

 

 

Cofnodion:

Roedd adroddiad, ac atodiad cyfrinachol, gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau, a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16, wedi ei ddosbarthu eisoes.

 

Eglurodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill bod proses y gyllideb wedi symud at ddiwedd yr ail gam. Roedd Atodiad 1 yn dangos y darlun o broses y gyllideb, er gwybodaeth, ac roedd tabl o ddigwyddiadau allweddol yn y broses wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Roedd strategaeth gyllidebol y cyngor wedi nodi bwlch cyllidebol o hyd at £18 miliwn dros ddwy flynedd yn flaenorol. Cafodd hyn ei lywio’n bennaf gan arwyddion y byddai setliad cyllido’r Cyngor yn cael ei dorri o 4.5%. Mae’r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn dangos y byddai'r gostyngiad arian parod yn 3.7%, sy’n cyfateb i £5.3 miliwn. Gyda’r costau y mae’n rhaid i’r cyngor eu hariannu, fel cynnydd mewn cyflog, pensiynau ac ynni, mae bwlch y gyllideb ar gyfer 2015/16 bellach yn oddeutu £8.3 miliwn a disgwylir y bydd yn oddeutu £8.8 miliwn yn 2016/17 – cyfanswm o £17.1 miliwn.

 

Mae dadansoddiad o'r symudiadau mewn rhagdybiaethau rhwng mis Medi a diwedd mis Tachwedd wedi ei gynnwys yn Atodiad 2. Mae'n amlinellu effaith y newidiadau yn sgil y Setliad Dros Dro, gan gynnwys effaith trosglwyddo grantiau i mewn ac allan o'r Setliad, ac yn dangos y symudiad mewn rhagdybiaethau pwysau cost yn ystod y cyfnod. Bydd y rhagdybiaethau yn newid yn rheolaidd ac fe ddangosir hyn yn y symudiad dros y tri mis diwethaf sy’n cynnwys rhagdybiaethau ar gyfer costau straen pensiwn, ardoll y gwasanaeth tân a chodiad cyflog. Mae Atodiad 3 yn dangos tablau o'r Setliad Dros Dro i dynnu sylw at y canlynol:-

 

·                 Mae Tabl 1 yn dangos y sylfaen a addaswyd gyda gostyngiad o 3.7%.

·                 Mae Tabl 2 yn dangos sut yr addaswyd y sylfaen gan drosglwyddiadau i mewn ac allan o'r Setliad.

·                 Mae Tabl 3 yn dangos trosglwyddiadau pellach wedi eu cynnwys yn y Setliad ond heb eu hariannu'n benodol.

·                 Mae Tabl 4 yn dangos rhestr o'r grantiau rhwng 2014/15 a 2015/16.

 

Mae Tabl 4 yn tynnu sylw at y mater ynghylch y Gronfa Gofal Canolraddol a'r Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol. Sefydlwyd y Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol yn 2013/14 fel grant 3 blynedd i ariannu prosiectau cydweithio rhanbarthol ac roedd cyfanswm o £10 miliwn ar gael ar draws Cymru. Yn 2014/15, dargyfeiriwyd hanner y gronfa i gronfa gwerth £50 miliwn (y Gronfa Gofal Canolraddol) i hybu gwell integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd setliad dros dro yn dangos diwedd y Gronfa Gofal Canolraddol ond roedd yn cynnwys oddeutu £5 miliwn o arian y Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol a oedd yn ariannu nifer o brosiectau sydd â blwyddyn arall ar ôl.

 

Mae’r setliad terfynol ar gyfer 2015/16 wedi ei gyhoeddi ddechrau mis Rhagfyr. Bydd ail gam proses y gyllideb yn dod i ben gyda chyflwyno cynigion i'r Cyngor ym mis Rhagfyr. Cyfanswm y cynigion yw £3.6 miliwn yn 2015/16 ac £1.8 miliwn yn 2016/17, a gyda'r cynigion a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Medi, bydd cyfanswm yr holl gynigion yn dod i £7.3 miliwn yn 2015/16 a £2.7 miliwn yn 2016/17.

 

Byddai Cam 3 proses y gyllideb yn ystyried y cynigion terfynol i gydbwyso cyllideb 2015/16, gan gynnwys opsiynau ar gyfer Treth y Cyngor a defnyddio unrhyw gronfa wrth gefn. Mae’r materion hyn wedi eu trafod yng ngweithdy’r aelodau ar 12 Rhagfyr cyn i’r gyllideb gael ei chymeradwyo’n derfynol ym mis Chwefror. Byddai Cam 3 o’r broses hefyd yn parhau i ddatblygu opsiynau arbedion ar gyfer 2016/17. Roedd yr adroddiad i’r Cyngor ar 9 Rhagfyr wedi amlygu proses ymgynghori sylweddol ac mae’r manylion llawn wedi eu crynhoi yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Cadeirydd at faterion a godwyd ynglŷn â gwybodaeth yn ymwneud â'r broses o ryddid a hyblygrwydd, a'r ymateb a gafwyd y gallai Aelodau ofyn cwestiynau pellach y gellid eu harchwilio yng Ngweithdai’r Gyllideb.

 

Esboniodd Mr P. Whitham y nodwyd yn flaenorol mai cyllid oedd y risg pwysicaf sy'n wynebu'r Cyngor, ac roedd yn teimlo bod tri risg penodol allweddol ym Mhroses y Gyllideb y dylai'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol dderbyn sicrwydd yn eu cylch, sef:- 

 

·  risgiau o wanhau neu gael gwared ar reolaethau wrth i adnoddau leihau, gan arwain o bosibl at fwy o risg Llywodraethu;

·  mewn achos o ddiswyddiadau, y risgiau o fethu gwireddu arbedion ariannol yn 2016/17 o ganlyniad i beidio â gwneud penderfyniadau rŵan;

·  risgiau arloesi fel risgiau i gaffael pethau’n allanol a mewnol, os nad yw amodau a thelerau contractau ymlaen llaw, agweddau cychwynnol o reoli contractau yn cael eu rheoli'n iawn.


Awgrymodd Mr Whitham y gellir cyfeirio at y tri risg penodol, a’r sicrwydd yn eu cylch, yn yr adroddiad nesaf i’r Pwyllgor am Broses y Gyllideb.
Eglurodd y Cadeirydd fod y meysydd a nodwyd wedi eu cyfeirio atynt yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwella Llywodraethu. Cyfeiriodd y Prif Gyfrifydd at broffil risg cyffredinol y Cyngor a gwelededd uchel y broses a fabwysiadwyd gyda phob cam yn cael ei archwilio a'i adolygu. Cadarnhawyd bod bwriad i adnabod y rhan fwyaf o'r arbedion ar gyfer 2016/17 erbyn dechrau blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod y Prif Weithredwr yn dymuno mabwysiadu dull strategol o fonitro gweithrediad cyffredinol y toriadau a’r arbedion. Byddai dull rhaglen yn defnyddio Verto yn cael ei fabwysiadu er mwyn tracio cynnydd pob cynnig unigol. Byddai hefyd yn cynnwys trosolwg o sut mae'r Cyngor yn cyfathrebu â'r cyhoedd, gyda’r risgiau yn cael eu rheoli'n weithredol. Ar hyn o bryd mae Adnoddau Dynol yn cynhyrchu map o gynigion sy’n ymwneud â materion staffio. 

 

Cadarnhaodd Pennaeth Archwilio Mewnol fod gwaith yn cael ei wneud ar reoli perthynas y Cyngor â chyrff allanol, ac eglurodd y Prif Gyfrifydd fod y Tîm Gweithredol Corfforaethol wedi gofyn am adolygiad ar ôl cwblhau'r gyllideb.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd G. M. Kensler ynghylch unrhyw effaith ariannol ar y Cyngor yn sgil Diwygio Llywodraeth Leol, eglurodd y Cadeirydd mai dim ond Sir Ddinbych hyd yma sydd wedi cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Dywedodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill y byddai gwaith y Cyngor yn parhau, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r materion gyllidebol presennol, hyd nes bydd penderfyniad ffurfiol wedi ei wneud. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y byddai busnes y Cyngor yn datblygu yn ôl yr arfer yn ystod y tair blynedd nesaf gan ganolbwyntio ar broses y gyllideb. Amlinellodd y Prif Gyfrifydd rôl y Pwyllgor mewn perthynas â Diwygio Llywodraeth Leol, a'r gwaith y gellid ei wneud gyda Chonwy mewn perthynas â chynhyrchu Cynllun Busnes.

 

Eglurodd y Cadeirydd fod ei awgrym yng nghyfarfod y Cyngor, 'bod Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb Proses y Gyllideb hefyd yn cynnwys effaith y toriadau yn y gyllideb ar bobl ar incwm isel', wedi cael derbyniad da gan y Prif Weithredwr. Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi’r adroddiad yn amodol ar y sylwadau sydd wedi eu gwneud.

     (RW i weithredu)

 

 

Dogfennau ategol: