Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH YSTÂD AMAETHYDDOL

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi wedi’i amgáu) ar y weledigaeth strategol tymor hir ar gyfer daliadau Ystâd Amaethyddol y Cyngor.

 

10.55 a.m. - 11.30 am

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Eiddo (RhE) ar ddatblygu cynllun strategol tymor hir ar gyfer daliadau Ystâd Amaethyddol y Cyngor a'r materion llywodraethu ar gyfer cyflwyno'r strategaeth, wedi'i ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Yn dilyn ystyriaeth y Pwyllgor o adroddiad ar yr Ystâd ym mis Mawrth, ac mewn ymateb i bryderon a godwyd yn y cyfarfod hwnnw, roedd y Gweithgor Ystâd Amaethyddol wedi cyfarfod i drafod y gwaith o ddatblygu strategaeth tymor hir ddiwygiedig ar sail rhwymedigaeth gyfreithiol y Cyngor i gadw’r ystâd, roedd diben a nodwyd yr ystâd wedi’i alinio i gyflawni Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor a Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol y Cyngor 2013/23.  Roedd copi o'r adroddiadau a ystyriwyd gan y Gweithgor wedi eu cynnwys fel atodiad i'r adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor.

 

Roedd y Gweithgor wedi penderfynu y dylai'r rhaglen adleoli a gwaredu presennol barhau gan gynhyrchu derbyniadau cyfalaf a ragwelir o £1.3m erbyn dechrau 2015, ac mae hyn yn cyflwyno canlyniadau'r strategaeth bresennol yn effeithiol.  Cytunwyd hefyd bod yr ystâd amaethyddol sy'n weddill yn bell o fod yn gynaliadwy o ystyried y lefelau o fuddsoddiad sydd ei angen i ddod â'r adeiladau i gyflwr rhesymol (tua £1.5 - £2 filiwn) ac, o ystyried y blaenoriaethau cystadleuol ar gyfer buddsoddi, nid oedd cadw ystâd amaethyddol sylweddol o faint yn opsiwn hyfyw.

 

Cytunwyd mai'r unig opsiwn realistig oedd parhau gyda rhaglen waredu wedi’i blaenoriaethu a’i thargedu wedi’i halinio â ffocws ar gynhyrchu incwm a chynaliadwyedd.   Roedd opsiynau ar sut y gallai hyn gael ei wneud a gwybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer yr Ystâd o fis Ebrill 2015 ymlaen wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a'r atodiad. 

 

Gofynnodd y swyddogion y dylai unrhyw faterion gweithredol sy'n ymwneud â'r Ystâd a gaiff eu dwyn i sylw Aelodau gael eu hadrodd i'r Rheolwr Eiddo yn y lle cyntaf ar gyfer ymateb a datrys.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau a swyddogion, er bod angen derbyniadau cyfalaf ar y Cyngor er mwyn cyflawni ei Gynllun Corfforaethol, nad oedd penderfyniad wedi ei gymryd i werthu’r Ystâd Amaethyddol yn ei gyfanrwydd.  Roedd yr Ystâd, fel holl asedau strwythurol eraill y Cyngor, wedi dioddef o ddiffyg buddsoddiad dros nifer o flynyddoedd ac o ganlyniad byddai angen gwario swm sylweddol o arian i’w gwneud yn hyfyw ac yn addas i'r diben eto.  Pwysleisiodd yr Aelodau yr angen i ddelio mewn modd teg gyda thenantiaid a rhai yr effeithir arnynt wrth waredu unrhyw asedau a'r angen i ystyried y genhedlaeth iau o ffermwyr wrth lunio strategaeth ar gyfer dyfodol yr Ystâd.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd cadw unrhyw dir a glustnodwyd fel tir nad oes ei angen bellach fel tir amaethyddol wrth ei waredu. 

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at adroddiad a ystyriwyd gan Fforwm Wledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), dan y teitl 'Ffermydd Sirol Cymru: Menter Ffordd Ymlaen' a chadarnhaodd y swyddogion eu bod yn bwriadu ymgysylltu'n llawn â'r gwaith a fyddai'n cael ei wneud gan Mr Charles Coates ar ran Fforwm Wledig CLlLC.  Codwyd pryderon oherwydd newidiadau i'r diwydiant ffermio dros nifer o ddegawdau nad oedd rhai o ffermydd yr Awdurdod yn hyfyw mwyach.   Roedd cytundebau tenantiaeth hanesyddol hefyd wedi cymhlethu materion o ganlyniad i’r ffaith fod rai ohonynt yn denantiaethau oes a oedd yn golygu na allai tenantiaid ar ‘unedau cychwynnol’ gael eu hannog i symud i unedau mwy ar ôl i’w busnes gael ei sefydlu, roedd hyn yn ei dro wedi arwain at brinder o unedau cychwynnol.  Pwysleisiodd yr Aelodau yr angen i ddatblygu strategaeth tymor hir ar gyfer yr Ystâd a fyddai'n sicrhau ei hyfywedd a'i gwneud yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar y sylwadau uchod:-

 

(a)            nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo'r weledigaeth tymor byr ar gyfer Ystâd Amaethyddol y Sir,

(b)            bod y strategaeth tymor hir ddrafft ar gyfer yr Ystâd Amaethyddol o Ebrill 2015 ymlaen yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor yn gynnar yn 2015 ar gyfer ei harchwilio, a

(c)            bod adroddiad ar berfformiad yr Ystâd Amaethyddol, gan gynnwys nifer a lleoliad y daliadau a derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd hyd yma a’r strategaeth fuddsoddi arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn yr hydref 2014.

 

 

Dogfennau ategol: