Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 4 – 2013/14
Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwelliant Corfforaethol (copi wedi’i
amgáu) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarpariaeth y Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 4 2013/14.
10.10 a.m. - 10.45 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o’r
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad, a oedd yn rhoi
diweddariad ar y gwaith o gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd
Chwarter 4 2013/14, wedi’i ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.
Cyflwynodd y RhGC yr adroddiad a oedd yn pwysleisio'r angen i aelodau a
swyddogion ddeall y cynnydd a wnaed gyda'r gwaith o gyflawni canlyniadau’r
Cynllun Corfforaethol (CC). Roedd adrodd rheolaidd yn ofyniad monitro hanfodol
y CC er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu ei ddyletswydd i wella.
Roedd crynodeb o'r pedwar ar ddeg o ganlyniadau yn y CC wedi ei gyflwyno yn
yr Atodiad i'r adroddiad. Dangosodd yr adroddiad fod cynnydd derbyniol yn
cael ei wneud o ran cyflwyno'r CC. Hon oedd trydedd
flwyddyn y CC 5 mlynedd a chydnabuwyd y byddai’n cymryd hirach i wella rhai
meysydd nag eraill. Fodd bynnag, deallwyd sut y dylai’r daith tuag at
welliant edrych ac roedd hyn wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad yn yr adroddiad.
Roedd rhai o'r eithriadau
perfformiad allweddol sydd i'w cael yn y CC ar gyfer C4 wedi eu cynnwys yn yr
adroddiad ac fe'u crynhowyd ar gyfer y Pwyllgor. Roedd adroddiad llawn o'r 7 Blaenoriaeth yn y CC
wedi ei gynnwys yn yr Atodiad.
Trafododd yr Aelodau berfformiad y Cyngor o ran cyflawni ei Gynllun
Corfforaethol hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2013/14. Cynhaliwyd
trafodaethau o amgylch penderfyniad y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol i
symleiddio'r nifer o brosiectau a dangosyddion sy'n ymwneud â datblygu'r
economi leol. Y rhesymeg yw y byddai'n well i ganolbwyntio
ymdrechion ac adnoddau tuag at gyflawni prosiectau cynaliadwy o ansawdd da yn
hytrach na nifer uwch o brosiectau llai effeithiol llai.
Dywedodd Swyddogion bod prosiectau cludiant ar raddfa fawr, megis
trydaneiddio rheilffordd arfordir Gogledd Cymru yn awr yn cael eu gyrru gan Lywodraeth
Cymru (LlC) ac felly ni fyddai'n ddefnydd da o adnoddau prin i ddyblygu’r
gwaith hwn, yn enwedig gan fod Arweinydd pob Cyngor ar Dasglu LlC. Roedd
trafodaethau hefyd wedi digwydd o amgylch y safleoedd a glustnodwyd ar gyfer
datblygiad ar safleoedd tir llwyd yn y dyfodol ac ar hyn o bryd.
Cododd yr Aelodau bryderon o ran y gostyngiad ym mherfformiad y Cyngor wrth
leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant
(NEET). Er bod hyn wedi cael statws blaenoriaeth teimlai'r
Pwyllgor y byddai'n bwysig edrych ar y mater yn fanylach.
Trafodwyd ansawdd priffyrdd y Cyngor, a chyfeiriwyd yn arbennig at ffyrdd
gwledig a gweithredu ei strategaeth ymyl palmant isel. O ran
perfformiad canfyddedig wrth ymdrin ag achosion o dipio anghyfreithlon eglurodd
y HIA ei fod wedi cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru i drafod yr anghysondeb yn
ymwneud â chofnodi’r digwyddiadau hyn, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi
cadarnhau y byddent yn edrych ar y mater. Roedd y Cadeirydd hefyd
wedi ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru ar y mater.
Dywedodd y Cynghorydd R.L. Feeley ei bod fel Aelod Arweiniol eisoes wedi
trefnu cyfarfod gyda Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i drafod y
perfformiad o ran cynnal cynadleddau amddiffyn plant. Pwysleisiwyd er
nad oedd y dangosydd wedi ei fodloni ar bob achlysur nad oedd o reidrwydd yn
golygu nad yw anghenion y plentyn wedi eu bodloni. Cytunodd y
Cynghorydd Feeley i adrodd yn ôl am ganlyniad ei chyfarfod gyda'r Pennaeth
Gwasanaeth i Aelodau.
Sefydlwyd Gweithgor gyda'r bwriad o gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar
gael yn y Sir, a rhagwelwyd y byddai gweithredu diweddar polisi newydd
absenoldeb oherwydd salwch yn gwella perfformiad yn y maes hwn ymhellach. Ar gyfer
adroddiadau yn y dyfodol gofynnodd yr Aelodau ei fod yn cael ei gwneud yn glir
bod yr adroddiad a gyflwynwyd iddynt ar ffurf ddrafft a bod adrannau yn y prif
adroddiad y cyfeirir atynt yn yr adroddiad eglurhaol yn croesgyfeirio yn unol â
hynny.
Yn dilyn trafodaeth fanwl:-
PENDERFYNWYD - yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn Adroddiad Perfformiad y
Cynllun Corfforaethol Chwarter 4 2013/14 a gofyn bod adroddiad yn cael ei
gyflwyno iddo ar y mesurau sy'n cael eu cymryd gan y Cyngor gyda golwg ar
leihau yn y dyfodol y nifer o bobl ifanc a gaiff eu dosbarthu fel NEET.
Dogfennau ategol: