Eitem ar yr agenda
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNIGION Y DYFODOL
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (copi wedi’i amgáu) a
oedd yn adolygu cynnydd gyda gweithredu'r Rhaglen.
9.30 a.m. – 10.05 a.m.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogi Addysg (HCES), a oedd
yn adolygu cynnydd o ran gweithredu'r Rhaglen, wedi’i ddosbarthu gyda'r papurau
ar gyfer y cyfarfod. Yr Atodiad
i'r adroddiad oedd y rhaglen ariannol ddrafft ar gyfer y Rhaglen Moderneiddio
Addysg ehangach. Roedd hyn yn egluro Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif y Cyngor
ynghyd ag opsiynau ar gyfer buddsoddi ehangach.
Esboniodd yr Aelod Arweiniol dros
Addysg (LME) bod y Cyngor yn datblygu rhaglen uchelgeisiol ar gyfer buddsoddi
yn ystâd yr ysgol, ac y byddai'r cynnig yn cefnogi’r Flaenoriaeth Gorfforaethol
o "wella perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ein hysgolion".
Roedd yr LME a'r HCES yn manylu ar y cefndir i'r Rhaglen a phob prosiect
ysgol a restrwyd. Roeddent yn
pwysleisio, er bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi newid y gymhareb ariannu o 70%
LlC a 30% Awdurdod Lleol i 50:50 ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif,
roedd Sir Ddinbych wedi gallu ariannu'r dosraniad ychwanegol drwy reolaeth
ariannol craff a thrwy reoli disgwyliadau ar gyfer pob prosiect unigol.
Hysbyswyd yr Aelodau fod cynigion ynghylch sefydlu ysgol uwchradd ffydd
newydd ar y cyd yn y Sir yn debygol o gael ei gyflwyno i'r Cabinet yn yr
hydref. Er bod y broblem o leoedd gwag mewn ysgolion yn
ne'r Sir yn derbyn sylw trwy nifer o adolygiadau ardal, roedd rhagamcanion
cyfredol yn nodi y byddai prinder lleoedd mewn ysgolion cynradd yn ardal y Rhyl
yn y dyfodol. O ganlyniad, roedd cyfarfod wedi’i drefnu rhwng yr
LME, swyddogion a phenaethiaid cynradd yn ardal y Rhyl i drafod atebion posibl.
Gofynnodd Dr Marjoram i Ysgol Plas Brondyffryn beidio cael ei gadael allan
o unrhyw gynigion yn y dyfodol o dan y Rhaglen, gan y byddai Ysgol Tir Morfa yn
elwa'n fawr drwy fod yn rhan o Brosiect Ailddatblygu Ysgol Uwchradd newydd y
Rhyl.
Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau mewn perthynas â risgiau posibl i'r
prosiectau o e.e. gostyngiad pellach mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru neu
newidiadau mewn caniatâd cynllunio, pwysleisiodd yr LME a'r HCES fod yna
risgiau gyda phob prosiect a bod yn rhaid i bob risg gael ei reoli’n briodol.
Gofynnwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â'r risg i'r Rhaglen os bydd y
Gweinidog dros Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru yn gwrthdroi penderfyniad y
Cabinet i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd, yr amserlen ar gyfer yr ysgol
gynradd newydd arfaethedig ar gyfer Rhuthun a'r sefyllfa bresennol mewn
perthynas â ffedereiddio Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn a'u
categoreiddio iaith. Cafwyd ymatebion i'r cwestiynau hyn yn rhoi gwybod i'r
Aelodau y rhagwelwyd y byddai ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yn Rhuthun o
fewn y pum mlynedd nesaf, roedd ffederasiwn Llanfair DC a Phentrecelyn bellach
wedi’i gytuno mewn egwyddor a byddai’r penderfyniad ar gategoreiddio iaith yr
ysgol newydd yn cael eu cymryd ar sail y canlyniadau a ddisgwylir ar gyfer y
disgyblion h.y. y byddent yn gwbl ddwyieithog erbyn eu bod yn 11 oed. Byddai
categoreiddio iaith yn ffurfio rhan o'r Achos Busnes ar gyfer yr ysgol. Eglurwyd nad
oedd y penderfyniad yn yr arfaeth gan y Gweinidog mewn perthynas â Llanbedr DC
yn peri risg sylweddol, gan y byddai'r Awdurdod ond yn sylweddoli arbedion
refeniw o gau’r ysgol gan nad oedd y Cyngor yn berchen ar yr ased ei hun.
I gyflwyno Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif cyfan, fel y manylir yn yr
adroddiad, byddai angen i'r Cyngor gyfrannu cyllid o £24,414,684. Cyfanswm cost
y Rhaglen yw £51,283,196 gyda gweddill y gost yn dibynnu ar gyllid Ysgolion yr
21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Byddai gofyn i'r Cabinet yn ei gyfarfod ar 29
Gorffennaf gymeradwyo ymrwymiad ariannol y Cyngor i gyflwyno'r Rhaglen.
Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yna nifer o risgiau sy'n cael eu rheoli ar hyn
o bryd ar lefel rhaglen gan y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg, a byddai pob
prosiect unigol yn cynnwys gweithdrefnau rheoli risg.
PENDERFYNWYD - yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd, ac yn amodol ar y manylion
a fyddai'n cael ei gynnwys yn yr adroddiad i'r Cabinet ar 29 Gorffennaf, 2014,
bod y Pwyllgor yn cefnogi'r weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer moderneiddio
cyfleusterau addysg ar draws y Sir.
Dogfennau ategol: