Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN AILWAMPIO STOC TAI'R CYNGOR

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (copi ynghlwm) yn manylu’r dull i ddod â'r Stoc Tai hyd at Safon Ansawdd Tai Cymru, ac yn amlinellu materion a wynebwyd a'r gwersi a ddysgwyd o'r profiad.

10.05 a.m. – 10.35 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau, yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a fanylai ar yr hyn a wnaed er mwyn gwella'r Stoc Tai hyd at Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), ac amlinellodd y problemau a gafwyd a'r gwersi a ddysgwyd yn sgil y profiad hwnnw.

 

Eglurodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (PTDC) fod y mwyafrif o stoc tai'r Cyngor bellach wedi'i adnewyddu er mwyn cyrraedd SATC.  Dechreuwyd y rhaglen ailwampio tai yn 2005 a rhoddwyd wyth o gontractau tai ar dendr.  Roedd contractau 1-7 wedi'u cwblhau'n llwyddiannus, ond roedd problemau sylweddol wedi codi gyda Chontract 8, ac roedd y rhain wedi'u nodi yn yr adroddiad ynghyd â'r gwersi a ddysgwyd wrth sefydlu contractau cyfalaf tai yn y dyfodol.

 

Adroddodd y Cynghorwyr Cefyn Williams, Rhys Hughes, Hugh Evans a Stuart Davies yr amrywiaeth o broblemau a gafwyd gan denantiaid yn eu hardaloedd yn ystod y rhaglen ailwampio. Soniodd y Cynghorydd Cheryl Williams am ei phrofiad hi ei hun fel tenant Cyngor, a phrofiadau aelodau ei ward yn 2010, yn enwedig y diffyg parch tuag at denantiaid a'u heiddo.  Cynigiodd sawl awgrym er mwyn gwella arferion, gan gynnwys dwyn contractwyr i gyfrif pan fyddai eiddo personol yn cael ei ddifrodi, hap-wiriadau ar ansawdd y gwaith, atgyweirio gwaith diffygiol yn gyflym, a threfniadau gwell ar gyfer fetio darpar gontractwyr.

 

Holwyd y swyddogion gan yr aelodau ynglŷn â'r problemau a gafwyd er mwyn iddynt fod yn fodlon bod mesurau digonol yn cael eu cyflwyno i sicrhau na fyddai yr un problemau'n codi eto yn y dyfodol.  Roedd y pwyllgor o'r farn y dylid dilyn proses gaffael gref a chlir yn y dyfodol ar gyfer prosiectau mawr tebyg i'r prosiect hwn, a oedd yn cynnwys nifer o wasanaethau, ac i gefnogi hynny y dylid sefydlu trefniadau cadarn ar gyfer monitro a rheoli contractau.  Cyfeiriwyd yn arbennig at rôl bwysig Clerc Gwaith a chanddo ddigon o awdurdod i weithredu a digon o gefnogaeth.  Yn ogystal â hyn, dylid cyfarwyddo contractwyr i barchu urddas tenantiaid a'u hawl i breifatrwydd yn eu cartrefi eu hunain, ac i ymddwyn mewn modd cwrtais, parchus ac urddasol yn eu gŵydd.

 

Derbyniodd y PTDC y materion a godwyd ac ymddiheurodd am y problemau a gafwyd.  Aeth y swyddogion ati i ymhelaethu ar yr arferion a'r trefnau a fabwysiadwyd yn ystod y rhaglen, ynghyd â ffactorau a gyfrannodd at y perfformiad gwael, gan gynnwys ansawdd isgontractwyr a gyflogwyd o du hwnt i ffiniau'r ardal.  Manylwyd ar y mesurau fyddai'n cael eu cyflwyno i liniaru pryderon yr aelodau ac i sicrhau na fyddai'r problemau a gafwyd yn codi eto, yn enwedig -

 

·        cymalau mewn contractau'n gysylltiedig â defnyddio cadwynau cyflenwi a gweithwyr lleol

·        rhoi mwy o bwys ar ansawdd yn hytrach na chost wrth sgorio ceisiadau yn y dyfodol

·        defnyddio cymalau cwblhau adrannol mewn contractau yn y dyfodol er mwyn rhoi mwy o reolaeth i'r cleient dros y rhaglen (bydd hyn o gymorth er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar denantiaid)

·        cadarnhau rolau a chyfrifoldebau a gwerthuso a monitro'r gwaith wrth iddo fynd rhagddo

·        sicrhau bod gwaith diffygiol yn cael ei unioni o fewn cyfnod rhesymol o amser.

 

PENDERFYNWYD yn achos pob contract ailwampio tai yn y dyfodol -

 

(a)       yn amodol ar y sylwadau uchod, y dylid nodi'r gwersi a ddysgwyd yn sgil Rhaglen Safonau Ansawdd Tai Cymru;

 

(b)       y dylid gwneud gwaith i gryfhau trefnau caffael mewn perthynas â rhaglenni buddsoddi cyfalaf mawr, ac y dylai'r gwaith hwnnw gynnwys cryfhau'r rheolaeth ar gontractau, ansawdd contractau a threfnau monitro contractau;

 

(c)        y dylid cynnwys gofyniad mewn contractau yn y dyfodol i gontractwyr barchu eiddo a phreifatrwydd tenantiaid;

 

(d)       y dylai'r drefn ddiwygiedig ddiffinio’n glir beth yw rolau a chyfrifoldebau'r partïon;

 

(e)       y dylai pob gwahoddiad yn y dyfodol i dendro am gontractau gynnwys, lle bo modd, gofyniad i gyflogi contractwyr neu isgontractwyr lleol gyda golwg ar ddatblygu'r economi leol;

 

(f)         y dylid paratoi nodyn briffio i'r aelodau sy'n amlinellu'r broses gaffael bresennol, ac sy'n hysbysu sut y bydd y broses honno'n cael ei chryfhau yn y dyfodol, a

 

(g)       y dylid cyflwyno'r drefn ddiwygiedig a gynigir ar gyfer monitro a rheoli contractau gerbron y Pwyllgor er mwyn cael arsylwadau maes o law.

 

Yn y fan hon (11:20am) cafwyd egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: