Eitem ar yr agenda
CYFLWYNO LLYWODRAETHU DA A GWELLIANT PARHAUS
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n darparu’r
ymgynghoriad terfynol ar adroddiad hunanasesu trefniadau llywodraethu a
gwelliant y Cyngor ar gyfer 2013-14.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y
Pennaeth Archwilio Mewnol (PAM), a ddarparai’r ymgynghori terfynol gyda’r
Pwyllgor ynglŷn â’r adroddiad hunanasesu ar drefniadau gwella a llywodraethu’r
Cyngor ar gyfer 2013/14, wedi’i gylchredeg yn flaenorol.
Roedd yr adroddiad yn disodli Datganiad
Llywodraethu Blynyddol y Cyngor drwy gyfuno’r hunanasesiad llywodraethu a’r
hunanasesiad corfforaethol blaenorol. Roedd yn arfer da ymgynghori’n eang ar yr
hunanasesu gyda’r Aelodau a’r uwch reolwyr a llunio ‘datganiad llywodraethu
blynyddol’ (DLlB) a oedd yn ffurfio rhan o Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor. Er
hynny, bu rhyw gymaint o ddyblygu rhwng yr hunanasesu oedd yn angenrheidiol ar
gyfer y DLlB a’r hunanasesiad corfforaethol a ganolbwyntiai fwy ar welliant
parhaus. Felly, penderfynwyd cyfuno’r dogfennau i ddarparu dull arloesol a oedd
yn arbed adnoddau ac yn darparu dull gweithredu cydgysylltiedig o hunanasesu yn
y Cyngor.
Esboniodd y PAM fod Atodiad 1 yn darparu Dogfen ddrafft “Cyflwyno
Llywodraethu Da a Gwelliant Parhaus” a oedd yn awr yn y camau ymgynghori olaf
gyda’r Aelodau a’r uwch reolwyr. Cynhwyswyd mân newidiadau a byddai ffigurau
perfformiad y chwarter diwethaf yn cael eu hychwanegu pan gânt eu cwblhau.
Byddai gofyn i’r Prif Swyddog Gweithredol a’r Arweinydd lofnodi’r fersiwn
derfynol erbyn 30ain Mehefin, 2014 a byddai’n cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor gyda’r Datganiad Cyfrifon ym Medi, 2014.
Hysbyswyd yr Aelodau y trafodwyd y ddogfen yn y:-
·
Tîm Gweithredol Corfforaethol ar 17eg Mawrth,
2014
·
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar 15fed
Ebrill, 2014
·
Briff i’r Cyngor ar 28ain Ebrill, 2014
·
Uwch-dîm Arweinyddiaeth ar 1af Mai, 2014
Fe’i dosbarthwyd hefyd at Aelodau’r Cabinet a SAC i gael sylwadau arno.
Cyfeiriodd y PAM at ddau fater pwysig yn ymwneud â llywodraethu a
gynhwyswyd yn yr adroddiad. Roedd y cyntaf yn ymwneud â chaffael gwasanaethau
adeiladu a’r llall yn ymwneud â sefydliadau hyd braich, a darparodd grynodeb
o’r wybodaeth a geir yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd Mr P. Whitham at adroddiad SAC ar gaffael ar gyfer gwaith cynnal
a chadw adeiladau ysgolion ac at ganlyniadau’r archwiliad o’r trefniadau
caffael ar gyfer adeiladu. Roedd adroddiad SAC wedi nodi ffigur o oddeutu £0.5m
ar gyfer caffael dan gyfarwyddyd y Cyngor ar gyfer cynnal a chadw adeiladau
ysgolion. Esboniodd fod y Prif Gyfrifydd wedi darparu ffigurau ar gyfer y
flwyddyn ariannol bresennol a nodai ffigur o £28.4m o wariant cyfalaf ar gyfer caffael
adeiladu a £9.3m ar gyfer refeniw, gan wneud cyfanswm o £37.7m y flwyddyn.
Roedd hwn yn llawer mwy nag yr oedd adroddiad SAC wedi’i nodi ac, yn ei farn
ef, roedd wedi amlygu mater llywodraethu pwysig o safbwynt y gwaith a wnaed.
Cyfeiriodd Mr Whitham hefyd at yr adroddiad anffafriol a ddaeth i law yn
flaenorol o safbwynt Adnoddau Dynol Strategol a’r ystyriaethau cyllidebol
perthnasol a ddarparai ffigurau tebyg; cyfeiriwyd yn benodol at effaith rheolau
gweithdrefnau contractau ar y ffigurau cyllideb a ddarparwyd. Mynegodd y farn y
gallai’r Rheolau Gweithdrefnau Contractau a Chaffael ar gyfer Adeiladu gael eu
hystyried fel materion llywodraethu ar wahân, a chytunodd y PAM i gysylltu â’r
Pennaeth Cyllid ac Asedau (PCA) ynglŷn â’r mater hwn.
Cyfeiriodd y PGCD at y gwaith y mae’r PCA yn ei wneud ar hyn o bryd o
safbwynt materion Caffael a rheolau gweithdrefnau contractau a chadarnhaodd y
byddai adroddiad ar y mater hwn yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet ar y 27ain
Mai, 2014. Nododd y PAM sylwadau Aelodau’r Pwyllgor.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd J. Butterfield fod yr
arolwg diweddaraf o drigolion wedi dangos nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn
teimlo eu bod yn cael gwybodaeth ddigonol am berfformiad y Cyngor nac am
amrywiol bethau eraill y gofynnwyd amdanynt yn yr arolwg, esboniodd y PAM y
byddai’r mater hwn yn cael sylw ac yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad sydd i’w
gyflwyno i’r Pwyllgor ym Medi, 2014.
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi sylwadau’r Aelodau.
Dogfennau ategol: