Eitem ar yr agenda
CADEIRYDD Y CYNGOR SIR
Penodi Cadeirydd
y Cyngor ar gyfer blwyddyn 2014/15.
Cofnodion:
Rhoddodd y
Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Raymond Bartley, anerchiad a oedd yn
cynnwys myfyrdod ar ei gyfnod fel Cadeirydd a chyfeiriadau at sawl digwyddiad
lle bu'n bresennol dros y deuddeg mis diwethaf.
Roedd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol a'i gydymaith, ei wraig Dorothy, wedi
cael blwyddyn brysur iawn yn ymweld â thros 200 o ddigwyddiadau. Y digwyddiad mwyaf cofiadwy oedd Eisteddfod
Genedlaethol Dinbych, fu'n llwyddiant ysgubol.
Roedd y Cynghorydd Bartley a'i wraig wedi bod i'r Eisteddfod bob dydd ac
roedd cannoedd o bobl wedi dod atynt i'w llongyfarch am lwyddiant yr
Eisteddfod, neu'n canmol y Sir am eu cefnogaeth a'u hymrwymiad i'r
digwyddiad. Mynegodd y Cynghorydd
Bartley ddiolch i bob un aelod o staff fu'n ymwneud ag unrhyw un o'r
trefniadau, o'r uwch reolwyr hyd at y rhai a chwaraeodd eu rhan arbennig ac
amhrisiadwy eu hunain yn y llwyddiant.
Bu'n enghraifft wych o waith tîm a oedd wedi rhoi Sir Ddinbych ar y map
mewn modd ffafriol, a byddai hynny'n destun balchder arbennig i'r Cynghorydd
Bartley hyd weddill ei oes.
Bu hefyd yn
anrhydedd arbennig gallu cynnig £2,000 o nawdd i Ŵyl Gerdd Gogledd Cymru
yn Llanelwy. Defnyddiwyd yr arian hwn i
ddarparu gweithdy cerddorol i ddisgyblion yn ysgolion arbennig y sir. Byddai peth o'r nawdd hefyd yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer cludiant ysgol, er mwyn galluogi disgyblion o sawl ysgol i
ddod i amrywiaeth o weithdai a oedd wedi'u trefnu ar eu cyfer.
Dyma rai o'r
uchafbwyntiau eraill:
·
Cystadleuaeth
barddoniaeth a baner Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion
cynradd Sir Ddinbych. Bu'r digwyddiad
hwn mor llwyddiannus, byddai'n cael ei gynnal bob blwyddyn o hyn allan.
·
Ymweliadau
gan ysgolion â Siambr y Cyngor
·
Cyngherddau
Ysgolion Sir Ddinbych
·
Bod
yn bresennol ym mhenblwyddi dinasyddion Sir Ddinbych yn 100 oed
Mynegwyd diolch i
bawb a oedd wedi cefnogi neu ddod i'r digwyddiadau a gynhaliwyd i godi arian er
budd dwy elusen y Cynghorydd Bartley.
Mynegodd y
Cynghorydd Bartley hefyd ddiolch i staff y Gwasanaethau democrataidd a oedd
wedi cynnal digwyddiadau er mwyn codi arian i elusen Tŷ Gobaith, a
llwyddwyd i godi £1,724.00 a anfonwyd ymlaen i'r elusen. Mynegodd y Cynghorydd Bartley ddiolch i bawb
am eu caredigrwydd a'u parodrwydd i feddwl am eraill, a dywedodd ei fod yn
ymfalchïo yng ngwaith ei staff.
Cyflwynodd y
Cynghorydd Bartley sieciau am yr arian a godwyd yn ystod ei gyfnod fel
Cadeirydd (cyfanswm o £4,000) i'r elusennau a ddewiswyd ganddo:
(i)
Derbyniodd
Eluned Yaxley, Rheolwr Codi Arian, y siec am £2,000 ar ran hosbis Tŷ
Gobaith
(ii)
Derbyniodd
Ian Bellingham, Prif Weithredwr, y siec am £2,000 ar ran Hosbis Sant Cyndeyrn,
Llanelwy
Yna, aeth y
Cynghorydd Bartley yn ei flaen i gyflwyno anrhegion i'w Gaplan, y Parchedig
Wayne Roberts, ei Gydymaith, Rheolwr Cefnogi a Datblygu'r Aelodau, y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd,
Swyddog Cefnogi'r Aelodau, Cydgysylltydd Busnes: Swyddfa'r Arweinydd, Gweinyddwyr
Pwyllgorau a'r Cydgysylltydd Craffu er mwyn cydnabod eu cefnogaeth dros y
deuddeg mis diwethaf.
Mynegodd y
Cynghorydd Bartley ddiolch arbennig i'r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cwsmeriaid, y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a
Chymunedol a'r Pennaeth Cyllid ac Asedau am eu cymorth a'u cefnogaeth dros y
flwyddyn ddiwethaf.
Diolchodd hefyd i
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans, am ei gyngor, ac am rannu ei
wybodaeth a'i brofiad.
Yn olaf, mynegodd
y Cynghorydd Bartley ddiolch i'w wraig, Dorothy, am ei chefnogaeth ddiwyro a'i
gwasanaeth ymroddedig i Gyngor Sir Ddinbych ar hyd y blynyddoedd.
Wedyn, gwahoddodd
y Cynghorydd Bartley enwebiadau er mwyn penodi Cadeirydd newydd y Cyngor Sir ar
gyfer 2014/15. Cynigiodd Joan
Butterfield y dylid ethol y Cynghorydd Brian Blakeley yn Gadeirydd, gan
amlinellu'r rhinweddau personol a'r profiad y byddai'n eu cynnig i'r swydd.
Eiliodd y Cynghorydd Cefyn Williams y cynnig, gan ychwanegu y byddai'r
Cynghorydd Blakeley yn Llysgennad gwych i Gyngor Sir Ddinbych
Gan nad oedd
unrhyw enwebiadau eraill, ac ar ôl pleidlais drwy godi llaw, cafwyd
penderfyniad unfryd i ethol y Cynghorydd Brian Blakeley yn Gadeirydd y Cyngor
ar gyfer blwyddyn 2014/15 y Cyngor.
Dymunodd y Cynghorydd Bartley yn dda i'r Cadeirydd nesaf, a'i wisgo â
Chadwyn Swydd y Cadeirydd. Ar ôl hynny, cwblhaodd y Cadeirydd newydd ei
Ddatganiad Derbyn Swydd. Gwisgodd
Cydymaith y Cadeirydd a oedd yn ymddeol Gydymaith y Cadeirydd â Chadwyn y
Swydd.
Talodd y
Cadeirydd newydd deyrnged i'r gwaith a wnaed gan y Cynghorydd oedd yn ymddeol a
chyflwyno Bathodyn Cyn-gadeirydd, plac a rhodd iddo ar ran y Cyngor.
Enwodd y Cadeirydd newydd ei ferch, Michelle Blakeley, yn gydymaith a’r
Parchedig Andy Grimwood yn Gaplan iddo ar gyfer y flwyddyn, a dywedodd mai'r
ddwy elusen yr oedd wedi'u dewis oedd Hosbis Tŷ Gobaith a Bad Achub y
Rhyl.