Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH DDIGWYDDIADAU SIR DDINBYCH 2014 - 2020

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau (copi wedi’i amgáu) yn cyflwyno Strategaeth Ddigwyddiadau Sir Ddinbych 2014-2020 i'w fabwysiadu.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

(a)       mabwysiadu’r Strategaeth Ddigwyddiadau (gwelwch atodiad yr adroddiad);

 

(b)       bod Grwpiau Ardal yr Aelodau yn cael eu cynnwys wrth ddilysu a chyfrannu at y rhaglen ddigwyddiadau;

 

(c)        bod pob digwyddiad corfforaethol yn cael ei werthuso yn unol â'r strategaeth, a;

 

(d)       bod canlyniadau'r strategaeth yn cael eu monitro trwy'r Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Hugh Evans a Huw Jones adroddiad ar y cyd ar fabwysiadu Strategaeth Ddigwyddiadau Sir Ddinbych 2014 - 2020.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Evans yr ymagwedd ragweithiol a gynlluniwyd i hyrwyddo a marchnata digwyddiadau a fyddai o fudd i’r economi ac yn gwella profiad yr ymwelydd.  Tynnodd y Cynghorydd Jones sylw at y nifer o ddigwyddiadau proffil uchel dros y blynyddoedd diwethaf a chynlluniau ar gyfer y dyfodol a chroesawodd y gwerthusiad o ddigwyddiadau corfforaethol i asesu’r effaith ar yr economi leol.  Tynnodd sylw’r aelodau hefyd at yr adran ar wefan y Cyngor, sy’n rhoi manylion am ddigwyddiadau yn y sir.  Yn olaf, cyfeiriwyd at nifer o newidiadau i’r ddogfen strategaeth o ran cywirdeb y cynnwys.

 

Eglurodd y Swyddog Arweiniol, Cyrchfan, Marchnata a Chyfathrebu (SA) brif fanteision y strategaeth i sicrhau bod digwyddiadau yn gwneud cyfraniad o bwys i’r economi leol, yn darparu digwyddiadau o’r safon uchaf posib i drigolion ac ymwelwyr, ac yn gwella enw da’r sir am gynnal a denu digwyddiadau newydd i’r sir.  Tanlinellodd bwysigrwydd mesur a monitro effaith digwyddiadau, gan sicrhau’r gwerth gorau o’r buddsoddiad mewn digwyddiadau a darparu Pecyn Cymorth Digwyddiadau i helpu trefnwyr digwyddiadau.

 

Croesawyd y ddogfen gan y Cabinet a chydnabuwyd pwysigrwydd cael strategaeth effeithiol a chydlynol er mwyn cynyddu cyfleoedd a sicrhau effaith gadarnhaol ar yr economi leol drwy ddenu ymwelwyr ychwanegol a chreu swyddi.  Cyfeiriodd Aelodau at nifer o ddigwyddiadau a gynlluniwyd yn eu trefi a’u cymunedau a gofynnwyd iddynt gael eu cynnwys yn yr Is-adran Digwyddiadau ar wefan y Cyngor ynghyd â manylion am Ddigwyddiadau Drysau Agored Sir Ddinbych.  Holwyd cwestiynau am ran aelodau yn y broses, y dull o ymgysylltu â threfnwyr digwyddiadau ar gyfer digwyddiadau ar raddfa fawr a digwyddiadau llai / cymunedol, a’r math o ddigwyddiadau roedd Sir Ddinbych yn ceisio eu denu.  Er bod llawer o bwyslais wedi’i roi ar yr effaith economaidd, tynnwyd sylw at y ffaith er na allai digwyddiadau llai gystadlu mewn termau ariannol, bod ganddynt ran bwysig o ran cydlyniant cymdeithasol a dod â'r gymuned at ei gilydd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau'r aelodau ymatebodd y SA oedd -

 

·        y byddai’r strategaeth yn cael ei hadolygu’n rheolaidd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol a’r tîm Cyrchfan, Marchnata a Chyfathrebu fel rhan o’r broses cynllunio busnes 

·        roedd angen dull mwy penodol o farchnata digwyddiadau ac roedd angen ail ddylunio gwefan yr Adran Ddigwyddiadau i adlewyrchu'r rhestr ddigwyddiadau gyfredol i ddangos yr hyn a oedd wedi ei drefnu ar gyfer ymwelwyr a’r hyn sydd angen ei wneud er mwyn cynnal digwyddiad

·        anelwyd y strategaeth at drefnwyr digwyddiadau a rheolwyr digwyddiadau yn y Cyngor a chytunodd i gynnwys cyfeiriad at wefan yr Adran Ddigwyddiadau

·        y bwriad oedd ymgysylltu â chynghorwyr drwy Grwpiau Ardal yr Aelodau a threfnwyd cyfres o gyflwyniadau er mwyn llunio rhestr gynhwysfawr o ddigwyddiadau yn y sir; byddai perthnasau hefyd yn cael eu datblygu gyda chynghorau tref / dinas / cymuned a threfnwyr digwyddiadau eraill

·        roedd trefnwyr digwyddiadau eisoes yn rhyngweithio â’r Cyngor drwy amryw o adrannau wrth gynllunio digwyddiadau a byddai cronfa ddata o drefnwyr digwyddiadau yn cael ei llunio – byddai’r broses o drefnu digwyddiadau hefyd yn cael ei symleiddio gydag un ffurflen gais a phecyn cymorth

·        roedd Swyddog Digwyddiadau ar gyfer Gogledd a De’r sir a fyddai’n rhyngwyneb allweddol ar gyfer trefnwyr digwyddiadau

·        roedd cysylltiadau’n cael eu gwneud yn allanol gyda threfnwyr digwyddiadau ac Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru - roedd yn bwysig penderfynu’n gyntaf pa ddigwyddiadau roedd y Cyngor eisiau eu denu

·        roedd yn bwysig mesur a monitro llwyddiant a manylodd y SA sut y gellid mesur llwyddiant digwyddiadau mawr yn ôl nifer y tocynnau, golygfa o’r digwyddiad o’r awyr a holiaduron.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Bobby Feeley y dylid gosod dolen ar wefan y Cyngor am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal i gynghorau tref / dinas / cymuned.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at y lluniau oedd wedi eu cynnwys yn y ddogfen strategaeth a nododd nad oedd unrhyw gyfeiriad wedi'i wneud o ran y digwyddiadau y tynnwyd y lluniau ynddynt.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       mabwysiadu’r Strategaeth Ddigwyddiadau (fel yr atodwyd i’r adroddiad);

 

(b)       cynnwys Grwpiau Ardal yr Aelodau wrth ddilysu a chyfrannu at y rhaglen ddigwyddiadau;

 

(c)        gwerthuso pob digwyddiad corfforaethol yn unol â'r strategaeth, a

 

(d)       monitro canlyniadau'r strategaeth trwy'r Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol.

 

 

Dogfennau ategol: