Eitem ar yr agenda
PROSES Y GYLLIDEB 2015/16
I dderbyn adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi yn amgaeëdig) ar y broses arfaethedig ar gyfer pennu cyllideb refeniw 2015/16.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac
Asedau, yn rhoi diweddariad ynglŷn â’r broses arfaethedig o bennu cyllideb
refeniw ar gyfer 20125/16, wedi ei ddosbarthu ymlaen llaw. Dull gweithredu arferol y Cyngor wrth bennu
cyllideb refeniw oedd mynd ati’n gynyddrannol i leihau costau’n seiliedig ar
gynigion i ganfod arbedion yng nghyllidebau gwasanaethau a chyllidebau
corfforaethol. Byddai’r rhan fwyaf o'r
cynigion hynny’n cael eu derbyn a chyflawnodd y broses honno gyllidebau
llwyddiannus.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd J. Thompson-Hill a esboniodd bod setliadau yn y Cynllun Corfforaethol i’r dyfodol wedi dynodi y gallai fod angen
canfod arbedion o tua £12m dros y ddwy flynedd nesaf ac efallai y byddai angen
dull gweithredu newydd mewn perthynas ag arbedion. Roedd Atodiad 1 yn manylu ar sut y gallai'r
broses weithio ac roedd manylion pellach wedi'u hymgorffori yn yr
adroddiad. Byddai targedau arbedion y
Gyllideb yn cael eu rhannu yn dri edefyn ar gyfer 2015/16 a 2016/17 ac roedd
tabl a oedd yn dangos y tri edefyn, ynghyd â rhoi bras werthoedd ar eu cyfer,
wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Gellid
amcangyfrif gwerth y ddau edefyn cyntaf
gyda rhywfaint o sicrwydd. Byddai'r
trydydd edefyn yn anos i’w amcangyfrif ac ar hyn o bryd caiff ei ddangos fel
eitem mantoli er mwyn cyflawni targed arbedion o £12m dros y ddwy flynedd
nesaf. Roedd dau wasanaeth wedi cynnal
ymarferion peilot a fu’n ddefnyddiol iawn er mwyn deall sut y byddai'r broses
newydd yn gweithio. Amlinellwyd crynodeb
o’r broses Rhyddid a Hyblygrwydd yn yr adroddiad.
Bydd allbwn y cyfarfodydd Rhyddid a Hyblygrwydd a’r cyfarfodydd cyllideb
gwasanaethau’n cael eu coladu a'u cyflwyno yn y lle cyntaf i’r Uwch Dîm
Arweinyddiaeth ac yna i dri gweithdy cyllideb i Aelodau ym mis Gorffennaf, ac
roedd crynodeb o'r broses wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Byddai’r gweithdai cyllideb yn rhoi cyfle i
gael mewnbwn ehangach gan yr Aelodau ynglŷn â’r argymhellion. Cyfeiriwyd at Atodiad 1 lle dangosir y
dewisiadau a ddeilliodd o'r gweithdai i Aelodau. Byddai cynigion a gefnogir gan yr Aelodau’n
cael eu cyflwyno i'r Cyngor ym mis Medi i'w cymeradwyo. Cynigiwyd y dylai pob
un o’r gweithdai cyllideb fod yn ddigwyddiadau diwrnod cyfan ac roedd
amlinelliad drafft o'r meysydd gwasanaeth y byddid yn canolbwyntio arnynt ym
mhob un o'r gweithdai ym mis Gorffennaf wedi ei gynnwys. Byddai hyn yn cwblhau Cam 1 o broses y
gyllideb ac yn arwain at Gam 2. Byddai'r
un broses o gymeradwyo ac ymgynghori yn dilyn, a rhagor o gynigion yn cael eu
cyflwyno i'r Cyngor ym mis Rhagfyr.
Cam 3 fydd y cam anoddaf i’w gyflawni o ran y gyllideb gan ei bod yn debygol mai yn ystod y cam
hwnnw y bydd y cynigion mwyaf cynhennus yn cael eu cynnwys. Byddai canlyniad y ddau gam cyntaf o gymorth
wrth gynllunio’r dull gweithredu ar gyfer y trydydd ac efallai y bydd yn rhaid
ailedrych ar hyn eto yn yr hydref.
Cafwyd crynodeb manwl o'r dyddiadau allweddol dros dro gan y Cynghorydd
Thompson-Hill sydd hefyd wedi eu nodi mewn tabl a gafodd ei gynnwys yn yr
adroddiad, a chafwyd cadarnhad ganddo y gallai rhai o'r cynigion a gâi eu
cyflwyno fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
Awgrymodd Mr P. Whitham y dylid ystyried rheolaeth rhaglenni a phrosiectau
mewn perthynas â’r broses lliniaru risgiau, a allai fod o gymorth i’r
mecanweithiau adrodd mewn perthynas â chrynhoi materion allweddol. Amlinellodd y Prif Gyfrifydd y broses a fabwysiadwyd
er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r holl gynigion a’r manylion gogyfer
â’u trafod, a chafwyd ganddo fanylion y templed newydd a ddatblygwyd i
gynorthwyo'r broses Rhyddid a Hyblygrwydd.
Pwysleisiodd y Cynghorydd S.A. Davies pa mor bwysig yw cyfranogiad yr Aelodau a'r angen am fod yn
agored ac yn dryloyw yn ystod proses y gyllideb.
Darparwyd yr ymateb canlynol i gwestiynau a materion a godwyd gan y
Cynghorydd G.M. Kensler:-
-
Bydd gohebiaeth yn cael ei dosbarthu i'r Aelodau cyn y cyfarfodydd
cyllideb.
-
Roedd y gwaith Statws Sengl wedi ei gwblhau. Fodd bynnag, mae angen cwblhau elfennau sy'n
ymwneud ag ôl-daliadau.
-
Ychydig iawn o effaith a fu ar y Cyngor hyd yma yn dilyn
cyflwyno’r Dreth Ystafelloedd Gwely.
-
Byddai materion yn ymwneud â Chynlluniau Tref ac Ardal yn
cael eu hymgorffori ym mhroses y gyllideb, ynghyd â materion yn ymwneud â Thir
y Cyhoedd a Threftadaeth.
-
Darparwyd manylion ynglŷn ag arferion gwaith
cyllidol mewn perthynas â ffigyrau Net a Gros.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Mr P. Whitham ynglŷn â'r angen am
sicrwydd bod proses y gyllideb yn dderbyniol ac yn cydymffurfio, cytunwyd i
gynnwys adolygiad o’r broses, sydd i’w gynnal gan y Tîm Rheoli Corfforaethol,
yn yr amserlen o ddigwyddiadau allweddol, a hynny’n dilyn yr ail neu’r trydydd
cyfarfod Rhyddid a Hyblygrwydd, ynghyd â chynnwys darpariaeth ar gyfer adrodd
am ganlyniadau a chynnydd yr adolygiad wrth y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol.
Cytunodd y Prif Gyfrifydd y gellid cyflwyno manylion yr ymarferion peilot a
gynhaliwyd gan ddau wasanaeth ger bron sesiwn i Friffio’r Cyngor, ynghyd â
chopïau o'r templed sydd i'w ddefnyddio ar gyfer pob gwasanaeth ac sy'n gosod
cyllideb y gwasanaeth yn erbyn y swyddogaethau a'r gwasanaethau y mae'n eu
darparu. Darparwyd manylion gan Bennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a chan y Pennaeth Archwilio Mewnol yn
ymwneud â dynodi darpariaeth yr Awdurdod o Wasanaethau Statudol a'r angen i
ganolbwyntio ar ganlyniadau posibl.
Cyfeiriodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill at y rhaglen digwyddiadau
allweddol a chadarnhau na fyddai'n ymarferol ailadrodd sesiynau. Eglurodd mai cyfrifoldeb yr Aelodau fydd
mynychu cyfarfodydd lle bo hynny'n bosibl neu fynd ar drywydd unrhyw ganlyniadau. Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys manylion yr
Aelodau sydd wedi eu gwahodd i fynychu’r cyfarfodydd yn y rhaglen digwyddiadau
allweddol.
Yn dilyn trafodaeth bellach:--
PENDERFYNWYD - yn
amodol ar y materion a godwyd a'r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau, bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad.
(b)
yn cytuno i gynnwys
adolygiad o’r broses, sydd i’w gynnal gan y Tîm Rheoli Corfforaethol, yn yr
amserlen o ddigwyddiadau allweddol, ynghyd â chynnwys darpariaeth ar gyfer
adrodd am ganlyniadau a chynnydd yr adolygiad wrth y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol.
(c) yn gofyn bod
manylion yr ymarferion peilot, a chopïau o'r templed, yn cael eu cyflwyno ger
bron sesiwn i Friffio'r Cyngor, ac
(d) yn cytuno i
gynnwys manylion yr Aelodau sydd wedi eu gwahodd i fynychu’r cyfarfodydd yn y
rhaglen digwyddiadau allweddol.
Dogfennau ategol: