Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol (copi wedi ei amgáu) sy’n
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr Archwiliad Mewnol o ran cyflenwi
gwasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad ac
effeithiolrwydd o ran gwelliannau.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol
wedi ei gylchredeg ymlaen llaw a oedd yn cynnig diweddariad ynglŷn â’r
cynnydd diweddaraf a wnaed gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran darparu
gwasanaeth, darparu sicrwydd, cwblhau adolygiadau ynghyd â’u perfformiad a’u
heffeithiolrwydd wrth ysgogi gwelliannau.
Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad ynglŷn â’r canlynol:-
· cyflawni ein Cynllun Sicrwydd ar gyfer
2013/14 (Atodiad 1)
· adroddiadau Archwilio Mewnol a gyhoeddwyd yn
ddiweddar (Atodiad 2)
· ymateb rheolwyr i faterion a godwyd gennym
(Atodiad 3)
· Perfformiad Archwiliad Mewnol (Atodiad 4)
Roedd manylion yn ymwneud â chyflawni Cynllun Sicrwydd y Gwasanaeth
Archwilio Mewnol ar gyfer 2013/14 wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ac roedd
Atodiad 1 yn darparu dadansoddiad o'r gwaith a wnaed yn ystod 2013/14, o'i
gymharu â’r Strategaeth Archwilio Mewnol. Roedd yn cynnwys sgoriau sicrwydd
ynghyd â nifer o faterion a godwyd ar gyfer yr adolygiadau a gwblhawyd,
diffiniadau a ddefnyddiwyd i ffurfio ein sicrwydd archwilio a'r graddfeydd a
ddefnyddiwyd wrth asesu'r lefelau risg ar gyfer y materion a godwyd.
Yn dilyn symud y gwasanaeth, er mwyn tendro am gontractau allanol, oherwydd
problemau TG, ac er mwyn gweithredu System Rheoli Dogfennau a Chofnodion
Electronig a gweithio ar ymchwiliadau arbennig, roedd y Gwasanaeth Archwilio
Mewnol wedi blaenoriaethu prosiectau a ystyrid yn 'Sicrwydd Hanfodol' er mwyn
sicrhau cyrraedd o leiaf gyfnod fersiwn ddrafft yr adroddiad erbyn 31 Mawrth 2014. Bydd rhai prosiectau’n cael eu gohirio tan ar
ôl 1 Ebrill 2014 a byddant yn rhan o waith sicrwydd y flwyddyn nesaf.
Cafodd
adroddiadau terfynol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a gyhoeddwyd ers mis Ionawr
2014 eu cynnwys yn Atodiad 2. Roedd
adroddiadau yn rhoi crynodeb gweithredol a chynlluniau gweithredu wedi'u
darparu, ynghyd â manylion ynglŷn â lliwiau’r graddau sicrwydd. Roedd ymateb rheolwyr i faterion a godwyd gan
y Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi eu crynhoi, ac roedd Atodiad 3 yn manylu ar
yr adolygiadau dilynol a gwblhawyd ers yr adroddiad blaenorol, gan gynnwys
manylion llawn am yr ymateb i’r gwaith dilynol a wnaed ynglŷn â Chaffael Gwasanaethau Adeiladu.
Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol bod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn
mesur ei berfformiad mewn dau faes allweddol:-
· Darparu
'Sicrwydd Hanfodol'
· 'Safonau
Cwsmeriaid'
Roedd Atodiad 4 yn manylu ar berfformiad y
Gwasanaeth Archwilio Mewnol hyd yma yn 2013/14.
Roedd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar y trywydd iawn i gyflawni 100% o
brosiectau 'Sicrwydd Hanfodol' erbyn 31 Mawrth, 2014, ac roedd disgwyl y
byddent yn cyflawni 100% mewn perthynas â phob un o’r 'Safonau Cwsmeriaid' gyda
dau eithriad:-
·
roedd un prosiect wedi cael rhybudd cychwyn prosiect o 8
diwrnod gwaith yn hytrach nag o 10 diwrnod gwaith fel sy’n ofynnol.
·
oherwydd pwysau gwaith, cyhoeddwyd adroddiad drafft ar
gyfer un prosiect wedi 14 diwrnod yn hytrach nag wedi 10 diwrnod fel y
cytunwyd. Cymeradwywyd yr oedi yn
hytrach na chyfaddawdu ansawdd yr adroddiad drafft.
Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol y byddai cynllun pellach, mwy manwl, a
fyddai’n seiliedig ar Strwythur Rhyddid a Hyblygrwydd, yn cael ei gyflwyno ger
bron cyfarfod y Pwyllgor ym mis Mai, 2014.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd P.C. Duffy, eglurodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol fod ymweliadau thematig ag ysgolion mewn perthynas â
diogelwch corfforol / iechyd a diogelwch, caffael, diogelu a rheoli Cronfa
Ysgol wedi eu gohirio oherwydd gormod o lwyth gwaith. Fodd bynnag, mae bwriad i’w cynnal fel mater
o frys.
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i’r adroddiadau terfynol canlynol yn ymwneud
â’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol, fel y nodir yn Atodiad 2, ac ymateb y rheolwyr
i faterion a godwyd gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn Atodiad 3:-
Caffael Gwasanaethau
Adeiladu:- Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol mai adroddiad dilynol oedd ganddo ar
gais y Pwyllgor, ac eglurodd na wnaed cynnydd mor fuan â'r disgwyl ac y
byddai’n rhaid mynd i’r afael â hynny.
Ategodd Mr P. Whitham y pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd G.M. Kensler
nad yw staff sydd wedi eu cyflogi ar sail dros dro neu ar sail weithredol bob
amser yn sicrhau bod cynlluniau gweithredu yn cael eu cwblhau a gellid ystyried
hynny fel risg. Cytunodd y Pennaeth
Archwilio Mewnol i edrych ar y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd G.M. Kensler
ynglŷn â’r ffaith nad yw Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal cofrestr contractau
corfforaethol y gellid ei ddefnyddio i fynd i'r afael neu ddatrys anghydfodau
gydag unrhyw un o'i gontractwyr.
Mynegwyd pryderon ynglŷn â nifer y dyddiadau cwblhau y methwyd â’u
cyrraedd, ac ynglŷn â'r oedi a fu wrth ddiweddaru a diwygio Rheolau
Caffael Contractau a Rheoliadau Ariannol. Gallai hynny fod wedi cyfrannu tuag
at y methiant a fu wrth roi newidiadau a chamau gweithredu ar waith. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd bod y Rheolau Caffael Contractau wedi cael eu hanfon
ymlaen i'r gwasanaethau priodol er mwyn derbyn sylwadau a’u bod bellach yn cael
eu prosesu gan yr Adran Gyfreithiol cyn cael eu hanfon ymlaen i gael eu
cymeradwyo gan y swyddogion a'r Pwyllgorau priodol.
Hysbyswyd yr Aelodau gan y Pennaeth Archwilio Mewnol y byddai adroddiad
dilynol pellach ynglŷn â Chaffael Gwasanaethau Adeiladu yn cael ei
gyflwyno ym mis Gorffennaf, 2014.
Ysgol Uwchradd Gatholig
y Bendigaid Edward Jones:-
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd B. Blakeley, cadarnhaodd
y Pennaeth Archwilio Mewnol bod gwelliannau sylweddol wedi digwydd o fewn yr
ysgol a chyfeiriwyd yn benodol at arwyddocâd gweithredu cynllun adfer ariannol
yr ysgol. Amlygodd y Pwyllgor pa mor
bwysig yw stiwardiaeth ariannol yr ysgol a pha mor bwysig yw rôl y Clerc i'r
Corff Llywodraethu.
Cytunodd yr aelodau y dylai'r Pwyllgor dderbyn adroddiad dilynol ar yr
ysgol ym mis Gorffennaf, 2014 ac y dylai’r adroddiad hwnnw gynnwys manylion y
Cynllun Gweithredu.
Taliadau ariannol i rai
sy’n Gadael Gofal:-
Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol i bryderon gael eu mynegi gan y
Pennaeth Gwasanaeth ynglŷn â nifer y taliadau arian parod sy’n cael eu
gwneud, a mynegodd y Cadeirydd bryder bod y gyllideb o fewn y gwasanaeth wedi
cael ei gwario cyn pryd.
Tynnodd Mr P. Whitham sylw at y ffaith fod cyfeiriad eisoes wedi ei wneud
bod y broses bresennol o dalu yn anghynaliadwy a bod angen adolygiad, a bod
angen gwneud penderfyniad ynglŷn â gweinyddu taliadau, a holodd os oedd yr
enghreifftiau a oedd wedi eu darparu yn ymwneud â'r broses Rhyddid a
Hyblygrwydd. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd,
cytunodd y Pennaeth Archwilio Mewnol i gyflwyno adroddiad cynnydd pellach ger
bron y Pwyllgor ynglŷn â gwneud Taliadau Ariannol i’r rhai sy’n Gadael
Gofal a hynny yn dilyn cwblhau'r rhaglen waith a drefnwyd.
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn derbyn
ac yn nodi cynnydd a pherfformiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn 2013/14.
(b)
yn nodi’r
adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ddiweddar a’r
gwaith dilynol y maent wedi ei wneud.
(c)
yn cytuno
y dylid cyflwyno adroddiad cynnydd pellach mewn perthynas â.-
- Caffael Gwasanaethau Adeiladu
- Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones
- Taliadau Ariannol i rai sy’n Gadael Gofal
(d)
yn gofyn
bod y Pennaeth Archwilio Mewnol yn archwilio materion a godwyd mewn perthynas â
chynnal cofrestr contractau corfforaethol.
Dogfennau ategol:
- IA Prog Report, Eitem 8. PDF 86 KB
- IA Prog App 1, Eitem 8. PDF 235 KB
- IA Prog App 2, Eitem 8. PDF 256 KB
- IA Prog App 3, Eitem 8. PDF 141 KB
- IA Prog App 4, Eitem 8. PDF 11 KB