Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYFLEUSTERAU ARFORDIROL YN Y RHYL A PHRESTATYN – OPSIYNAU RHEOLI DROS DRO

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol dros Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi'n amgaeëdig) yn manylu ar opsiynau rheoli dros dro ar gyfer yr Heulfan, Nova a Chanolfan Bowls Gogledd Cymru.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo i ailagor y Ganolfan Bowlio o fis Ebrill/Mai 2014 a bod swyddogion yn edrych ar drefniant gweithredu yn y dyfodol mewn partneriaeth â'r clybiau bowlio presennol;

 

(b)       cytuno bod Canolfan Nova yn parhau i fod ar gau hyd nes y ceir cytundeb i gynigion ailddatblygu Alliance Leisure ym mis Mai 2014, gan nodi y bydd darpariaeth campfa a ffitrwydd arall dros dro ar gael yng Nghanolfan Hamdden Prestatyn, a gofyn i swyddogion edrych ar gyfleoedd nofio i’r cyhoedd yn y gymuned leol gyda darparwyr lleol eraill.

 

(c)        cytuno nad yw'r Heulfan yn ailagor fel cyfleuster dŵr sy'n cael ei weithredu neu ei reoli gan y Cyngor; ac awdurdodi swyddogion i edrych ar gyfleoedd pellach i gael darparwyr trydydd parti i redeg yr Heulfan fel cyfleuster hamdden gwlyb neu sych, a nodi bod darpariaeth campfa, ffitrwydd a nofio arall  ar gael dros dro yng Nghanolfan Hamdden y Rhyl;

 

(d)       nodi y gall canlyniadau ariannol yr argymhellion gael eu cynnwys o fewn y gyllideb sydd ar gael ar gyfer cyfleusterau arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn;

 

(e)       cadarnhau bod y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau cynnig hamdden dyfrol newydd ar gyfer y Rhyl drwy'r trefniadau y cytunwyd arnynt gan y Cabinet ym mis Chwefror, ac

 

(f)         cytuno bod adolygiad mewnol yn cael ei wneud ar y ffordd y mae'r Cyngor yn monitro gweithrediad gan Clwyd Leisure Limited o'r cyfleusterau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad yn manylu ar  yr opsiynau rheoli dros dro ar gyfer yr Heulfan, Canolfan Nova a Chanolfan Bowls Gogledd Cymru a oedd wedi’i ddychwelyd i'r Cyngor ar ôl i Clwyd Leisure Limited (CLL) roi'r gorau i fasnachu.

 

Eglurodd y Cynghorydd Jones y sefyllfa hyd yn hyn a'r rhesymeg y tu ôl i bob un o'r argymhellion yn dilyn gwerthusiad manwl o'r gwahanol opsiynau ar gyfer y cyfleusterau hyd nes datblygu’r achos busnes ar gyfer gwell cynnig hamdden arfordirol.  O ran yr argymhelliad ar gyfer y Ganolfan Haul fe gynigodd y diwygiad i gynnwys y cyfle ar gyfer gweithgareddau hamdden gwlyb o ystyried diddordeb posibl yn hynny o beth a oedd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar.

 

Ystyriodd y Cabinet rhinweddau pob argymhelliad er mwyn bodloni eu hunain o ran y ffordd orau i symud ymlaen.  Trafodwyd y materion canlynol:-

 

Canolfan Bowls Gogledd Cymru -  Amlygodd yr Aelodau bwysigrwydd y Ganolfan Bowls fel cyfleuster cymunedol, a chydnabuwyd  y cyfraniad gwerthfawr a wna clybiau bowls presennol a’r rôl allweddol mewn sicrhau dyfodol llwyddiannus.  Gofynnwyd i'r swyddogion symud ymlaen gyda'r argymhelliad i ailagor y Ganolfan Bowls cyn gynted ag y bo modd.

 

Canolfan Nova - Derbyniodd y Cabinet na fyddai'n hyfyw yn ariannol i Ganolfan Nova ailagor am gyfnod byr nes ei ailddatblygu.  Fodd bynnag, mynegwyd pryderon am yr effaith y bydd cau y ganolfan yn ei gael ar fusnesau eraill yn yr ardal a gofynnodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i leihau / dileu rhai o’r taliadau parcio arhosiad hir yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn helpu busnesau.  Cadarnhaodd y Cynghorydd David Smith y byddai'n gofyn i swyddogion ystyried y cais hwnnw fel rhan o'r adolygiad parcio ceir sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd.  Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Paul Penlington a Gareth Sandilands ynghylch y ddarpariaeth hamdden ym Mhrestatyn, cadarnhaodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y byddai yna ddarpariaeth campfa a ffitrwydd dros dro ar gael yng Nghanolfan Hamdden Prestatyn a byddai cyfleusterau nofio eraill i’r cyhoedd yn cael eu harchwilio gyda darparwyr lleol eraill.  Cadarnhaodd hefyd ddiddordeb datblygwr yn y Ganolfan Nova a’r amserlenni tebygol ar gyfer ailddatblygu.

 

Heulfan - Cytunodd y Cabinet i ddiwygiad yn yr argymhelliad i gynnwys gweithgareddau hamdden gwlyb yn y cyfleuster.  Wrth dderbyn nad oedd yn hyfyw i'r Cyngor ail-agor yr Heulfan roedd yr aelodau’n awyddus i’r cyfleuster gael ei weithredu gan drydydd parti.  Holodd y Cynghorydd Barbara Smith ynglŷn â’r nifer o weithwyr sydd wedi eu heffeithio ac fe'i hysbyswyd bod cofnodion yn dangos 13 swydd llawn amser a fyddai’n cyfateb i’r rhain ac mai yn ystod tymor yr haf y cyflogir carfan fawr ohonynt, a bod y rhan fwyaf ohonynt yn byw tu allan i'r ardal.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at ymweliad diweddar â’r safle ac fe fynegodd bryderon sylweddol ynghylch cyflwr y cyfleuster a sut yr oedd wedi cael ei reoli.

 

Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield na fyddai aelodau'r Rhyl byth wedi pleidleisio i gau’r Ganolfan Haul, ond ei bod yn gefnogol o gamau gweithredu swyddogion ar ôl gweld cyflwr y cyfleuster.  Codwyd pryderon ers nifer o flynyddoedd ynglŷn â’r rheoli ac fe alwodd yr Aelodau Llafur am ymchwiliad mewnol i’r ffeithiau ac i  sicrhau na fyddai hynny’n digwydd eto.  Mynegodd y Cynghorydd Brian Blakeley ei bryderon hefyd a’i gais am sicrwydd ynglŷn â buddsoddi yng nghynnig arfordirol y Rhyl yn y dyfodol.  Cafwyd sicrwydd gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Economaidd ac Uchelgais Cymunedol ar y weledigaeth ar gyfer y tymor hirach ar gyfer y Rhyl ac ar gyflwyno'r cynnig dyfrol.  Cadarnhaodd hefyd y byddai'r aelodau’n cael gwybod o unrhyw ddiddordeb gan ddatblygwr posibl yn y ddarpariaeth bresennol ac yn narpariaeth y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai adolygiad yn cael ei wneud i ddysgu o'r profiad ond fe bwysleisiodd ar yr angen i ganolbwyntio ar yr argymhellion presennol ac yn y dyfodol er mwyn symud ymlaen.  Cytunodd y Cabinet i gyfeirio at yr adolygiad o fewn eu hargymhellion.  Fe dynodd y Cynghorydd David Simmons sylw at ganfyddiad y cyhoedd mai’r Cyngor oedd ar fai am gau’r Ganolfan Haul ac ar ei gais, fe gytunodd y Prif Weithredwr i gyhoeddi datganiad ffeithiol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cymeradwyo i ailagor y Ganolfan Bowls o fis Ebrill/Mai 2014 a bod swyddogion yn edrych ar drefniant gweithredu yn y dyfodol mewn partneriaeth â'r clybiau bowls presennol;

 

(b)       yn cytuno bod Canolfan Nova yn parhau i fod ar gau hyd nes y ceir cytundeb i gynigion ailddatblygu Alliance Leisure ym mis Mai 2014, gan nodi y bydd darpariaeth campfa a ffitrwydd arall dros dro ar gael yng Nghanolfan Hamdden Prestatyn, a gofyn i swyddogion edrych ar gyfleoedd nofio i’r cyhoedd yn y gymuned leol gyda darparwyr lleol eraill.

 

(c)        yn cytuno nad yw'r Heulfan yn ailagor fel cyfleuster dŵr sy'n cael ei weithredu neu ei reoli gan y Cyngor; ac awdurdodi swyddogion i edrych ar gyfleoedd pellach i gael darparwyr trydydd parti i redeg yr Heulfan fel cyfleuster hamdden gwlyb neu sych, a nodi bod darpariaeth campfa, ffitrwydd a nofio arall  ar gael dros dro yng Nghanolfan Hamdden y Rhyl;

 

(d)       yn nodi y gall canlyniadau ariannol yr argymhellion gael eu cynnwys o fewn y gyllideb sydd ar gael ar gyfer cyfleusterau arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn;

 

(e)       yn cadarnhau bod y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau cynnig hamdden dyfrol newydd ar gyfer y Rhyl trwy'r trefniadau y cytunwyd arnynt gan y Cabinet ym mis Chwefror, ac

 

(f)         yn cytuno bod adolygiad mewnol yn cael ei wneud ar y ffordd y mae'r Cyngor yn monitro gweithrediad gan Clwyd Leisure Limited o'r cyfleusterau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn (12.20pm) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: