Eitem ar yr agenda
CYD-BWYLLGOR ARFAETHEDIG AR GYFER ARDAL O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL (AHNE) BRYNIAU CLWYD A DYFFRYN DYFRDWY
Ystyried adroddiad gan y Swyddog AHNE (copi ynghlwm) i’r
Pwyllgor roi sylwadau ynghylch y trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE) wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y Cynghorydd H.Ll. Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Gorchymyn
Dynodi AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn darparu cydnabyddiaeth
genedlaethol newydd a diogelu tirwedd i ran sylweddol o Sir Ddinbych, Sir y
Fflint a Wrecsam. Roedd manylion daearyddol yr AHNE wedi eu cynnwys
yn Atodiad 1.
Dywedodd y Prif Swyddog Cefn Gwlad: Gwasanaethau Warden wrth y Pwyllgor fod
y Pwyllgor AHNE presennol a'r Cyd-bwyllgor Ymgynghorol, i gydnabod yr ardal
estynedig, wedi adolygu eu haelodaeth a chytuno ar aelodaeth gytbwys ar gyfer
ALl gyda phob un yn cael eu gwahodd i anfon 3 Aelod i gyfarfodydd o'r
Cyd-bwyllgor Ymgynghorol yn y dyfodol. Roedd y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol wedi argymell
perthynas gryfach â’r ALl a chytunwyd mai’r Model Cyd-bwyllgor fyddai’r dull
gorau o gyflawni’r amcan hwn. Roedd
Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol a Swyddog AHNE wedi cwrdd â'r Arweinwyr,
Prif Weithredwyr a Swyddogion Arweiniol a oedd yn gefnogol. Roedd y Pwyllgor wedi darparu arsylwadau
ynglŷn â llywodraethu, yn bennaf craffu’r trefniadau ar gyfer y
Cyd-bwyllgor newydd o fewn Cyngor Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r Cytundeb Cyfreithiol, (Atodiad 2), yn
diffinio aelodaeth y Cyd-bwyllgor, pwerau dirprwyol a rolau.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cefn Gwlad: Gwasanaethau Warden mai prif rôl y
Cyd-bwyllgor fyddai 'cyflawni swyddogaethau a ddirprwywyd rheolwyr AHNE’, ac
mai’r rôl allweddol fyddai ‘cadwraeth a gwella harddwch naturiol yr ardal.’
Roedd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ymgorffori màs tir daearyddol
canolog sylweddol gydag atyniadau poblogaidd, ac roedd yr AHNE yn cynnig cyfle
iechyd a lles sylweddol i'r cytrefi yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Sir Gaer a
Glannau Mersi. Cyfeiriwyd at y newid yn swyddogaeth economaidd y
priod ALl gyda dibyniaeth gynyddol ar dwristiaeth wledig. Roedd crynodeb o fanteision allweddol canlynol
y Cyd-bwyllgor wedi eu cynnwys yn yr adroddiad:-
·
Gwell Gwelededd i’r AHNE.
·
Gwell eglurder.
·
Gwell cydlynu o Gamau Gweithredu’r AHNE.
·
Gwell effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
·
Strategaeth benodol.
·
Arweinyddiaeth â Chanolbwynt.
·
Stiwardiaeth gyfrifol.
·
Eiconau.
Cafodd y Cyd-bwyllgor ei ystyried yn 'arfer da' ar gyfer llywodraethu’r AHNE
a byddai Swyddogion yr AHNE yn datblygu llawer o agweddau ar y Cyd-bwyllgor
Ymgynghorol Dros Dro presennol. Byddai'r Cyd-bwyllgor yn sefydlu Partneriaeth AHNE
yn ei gyfarfod cyntaf, ac roedd manylion aelodaeth wedi eu darparu. Er mwyn dangos
ymdriniaeth fwy cynhwysfawr i ymgynghoriad byddai’r AHNE yn cynnal Fforwm AHNE
yn flynyddol a byddai gan bob un thema amserol. Byddai aelodau ALl a
Chynghorau Cymuned y mae eu Ward, neu ran o'u Ward yn rhan o'r AHNE yn cael eu
gwahodd ynghyd ag unrhyw gyrff neu unigolion eraill sydd â diddordeb.
Wrth ystyried yr adroddiad cynghorwyd Aelodau am y rhesymeg y tu ôl i gael
nifer gyfartal o Aelodau'r Cabinet o bob un o'r tri Awdurdod Lleol ar y
Cyd-bwyllgor a’r Grŵp Partneriaeth, er gwaethaf y ffaith fod y rhan fwyaf
o'r AHNE yn ddaearyddol o fewn ffiniau sirol Sir Ddinbych.
Eglurwyd mai Sir Ddinbych fyddai'r Awdurdod Arweiniol. Byddai cyfraniad Sir
Ddinbych a chyfraniad Cynghorau eraill tuag at weinyddiaeth yr AHNE yn cael ei
dalu i mewn a’i gyfrif amdano ar linell cyllideb ar wahân at ddibenion
archwilio a thryloywder. Dywedwyd wrth y Pwyllgor ar ôl i'r holl ALl
gymeradwyo'r cynnig i sefydlu Cyd-bwyllgor, at y diben o gyflawni swyddogaethau
dirprwyedig Rheoli'r AHNE, byddai Grŵp Partneriaeth ar y Cyd sy’n cynnwys
grŵp ehangach o fudd-ddeiliaid yn cael ei sefydlu i ddatblygu cynllun
rheoli ar gyfer ardal yr AHNE.
Rhoddwyd sicrwydd pe byddai angen adnoddau ariannol ychwanegol ar unrhyw
adeg y byddai’n rhaid i swyddogion AHNE fynd at yr holl Gynghorau cyfansoddol
gyda chais am y cyllid ychwanegol. Pwysleisiodd yr Aelodau
bwysigrwydd caniatáu datblygiadau tai 'fforddiadwy' mewn cymunedau gwledig
gyda'r bwriad o gynnal yr economi leol a sicrhau bod amwynderau cymunedol yn
hyfyw.
Gofynnodd Aelodau am gael gweld y ddeddfwriaeth ar gyfer Cydbwyllgorau sy'n
nodi bod aelodaeth Cydbwyllgorau yn gyfyngedig i Aelodau’r Pwyllgor Gweithredol
/ Cabinet. Wrth gymeradwyo’r cynigion gofynnodd Aelodau hefyd
bod ymweliad yn cael ei drefnu ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor, yn ystod haf 2014,
i AHNE a safleoedd Gwasanaethau Cefn Gwlad ledled y Sir er mwyn iddynt allu
deall yn llawn gwerth y sefydliadau hyn i drigolion ac i'r economi leol.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD:-
(a) bod y Pwyllgor, yn amodol ar yr arsylwadau uchod, yn
cefnogi'r trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer AHNE Bryniau Clwyd a
Dyffryn Dyfrdwy.
(b) bod adroddiad cynnydd ar gyflawniadau’r Cyd-bwyllgor
o ran cyflawni ei amcanion yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ymhen 12 mis.
(c) bod y Pwyllgor yn cael manylion y ddeddfwriaeth a oedd yn
nodi aelodaeth y Cydbwyllgorau, a
(d) bod y Pwyllgor yn gofyn bod ymweliad yn cael ei drefnu i
weld rhannau o'r AHNE.
Dogfennau ategol:
- AONB Report, Eitem 6. PDF 103 KB
- AONB App 1, Eitem 6. PDF 2 MB
- AONB App 2, Eitem 6. PDF 458 KB
- AONB App 3, Eitem 6. PDF 94 KB