Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi ynghlwm) sydd yn hysbysu Aelodau o adroddiad y Panel, ac i alluogi Aelodau i fabwysiadu'r argymhellion yn yr adroddiad ac i benderfynu ar lefel y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014/2015.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad, Y Cynghorydd Barbara Smith, gyflwyno Adroddiad  Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2014/15 (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) i hysbysu’r Aelodau ynghylch adroddiad y Panel. Hefyd i Aelodau fabwysiadu’r argymhellion o fewn yr adroddiad a phenderfynu ar lefel y gydnabyddiaeth i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15.

 

Roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (y Mesur) yn amodi bod yn rhaid i’r Panel gyhoeddi adroddiad ar gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol. 

 

Roedd y Panel wedi ymweld â phob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ganfod safbwyntiau Aelodau a swyddogion, yn ystod haf 2013.

 

Nid oedd y Panel wedi newid lefel y gydnabyddiaeth ers 2011. Yn flaenorol roedd y Panel wedi bod yn alinio’r Cyflog Sylfaenol a oedd yn cael ei dalu ag enillion gros canolrifol cyflogeion llawn-amser yng Nghymru. Yn y tair blynedd ddiwethaf, roedd gostyngiad wedi bod yn y cyllid i awdurdodau lleol ac roedd cyflogau yn y sector cyhoeddus wedi cael eu rhewi. Roedd y Panel wedi penderfynu yn ystod y cyfnod hwnnw na fyddai’n cadw’r aliniad ag enillion canolrifol a oedd wedi arwain at ostyngiad yn lefel y Cyflog Sylfaenol mewn termau real.

 

O ystyried bod y cyfyngiadau ar gyflogau yn y sector cyhoeddus wedi cael eu llacio ychydig, roedd y Panel wedi penderfynu cynyddu’r Cyflog Sylfaenol lai nag 1% o £13,175 i £13,300 ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15.

 

Roedd y Panel wedi penderfynu y dylai pob awdurdod lleol bennu lefel y cyflog sy’n daladwy i Benaethiaid a Dirprwyon Cynghorau (Cadeirydd ac Is-gadeirydd) o blith tair lefel yr oedd y Panel wedi penderfynu eu bod yn daladwy. Nid oedd y lefelau hyn yn gysylltiedig â maint y boblogaeth a lle’r awdurdod lleol oedd pennu’r lefel yn ôl y llwyth gwaith a’r cyfrifoldebau disgwyliedig. 

 

Roedd y lefelau cyflog a oedd ar gael fel a ganlyn:

 

 

Cadeirydd

Is-gadeirydd

a)

£24,000

£18,000

b)

£21,500

£16,000

c)

£19,000

£14,000

 

Y lefelau cyfredol a oedd yn daladwy i’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd oedd £19,035 ac £14,805 yn y drefn honno.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Barbara Smith wrth yr Aelodau y dylid ymdrin â lefelau cyflog y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ar wahân. Cytunwyd ar hyn.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·        Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill Fand c) £19,000 ar gyfer y Cadeirydd. Eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Owen.

·        Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies Fand b) £21,500 ar gyfer y Cadeirydd. Eiliwyd gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain Jones.

 

Cafwyd pleidlais ar lefel Cyflog y Cadeirydd fel a ganlyn:

 

·        Pleidleisiodd 20 aelod o blaid £21,500

·        Pleidleisiodd 18 aelod o blaid £19,000

·        Gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler ei fod yn cael ei nodi ei bod hi wedi ymatal o’r bleidlais.

 

Felly derbyniwyd y cynnig y byddai Cyflog Cadeirydd y Cyngor ar gyfer 2014/15 yn £21,500.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill Fand c) £14,000 ar gyfer yr Is-gadeirydd. Eiliwyd gan y Cynghorydd Martyn Holland

 

Cafwyd pleidlais ar lefel cyflog yr Is-gadeirydd fel a ganlyn a phleidleisiodd 33 aelod o blaid Band c) £14,000 ac fe bleidleisiodd 4 yn erbyn.

 

Felly derbyniwyd y cynnig y byddai Cyflog Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2014/15 yn £14,000.

 

Ar y pwynt hwn, mynegodd y Cynghorydd Arwel Roberts wrthwynebiad. Argymhellodd y Cynghorydd Roberts na ddylid talu cyflogau ychwanegol i Gadeiryddion Pwyllgorau oherwydd yr hinsawdd economaidd sydd ohoni a’r ffaith y byddai’n arbediad ariannol i’r Cyngor.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a oedd wedi’i gyflwyno gerbron y Cyngor yn berthnasol i swyddi a oedd yn denu uwch gyflogau. Roedd y Cyngor wedi penderfynu yn 2012 mai dim ond 15 uwch gyflog fyddai’n cael eu talu, yn hytrach na’r 17 a argymhellwyd. 

 

Roedd yn ofynnol, yn gyfreithiol, talu cyflog sylfaenol i’r holl aelodau a hefyd talu i Arweinydd grŵp yr wrthblaid fwyaf. Byddai’r penderfyniad ynghylch talu uwch gyflogau neu beidio’n cael ei wneud yn ôl disgresiwn yr aelodau.

 

Cafwyd trafodaeth ac fe gytunwyd, gan fod blwyddyn ariannol 2014/15 eisoes wedi dechrau, y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i un o gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol i drafod uwch gyflogau ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16 a thu hwnt, ac i drafod a ddylid ymwrthod â’r uwch gyflogau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eryl Williams y dylai’r Gwasanaethau Democrataidd gynnal dadansoddiad ac adolygiad o lwythi gwaith aelodau. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies.

 

Cytunwyd y byddai’r Gwasanaethau Democrataidd yn cynnal dadansoddiad ac adolygiad o lwythi gwaith aelodau mewn perthynas â’r cyflog a delir.

 

PENDERFYNWYD fod yr Aelodau:

 

·        yn mabwysiadu argymhellion y Panel ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15 mewn perthynas â thalu Cyflogau Sylfaenol ac Uwch Gyflogau.

·        yn pennu lefel y gydnabyddiaeth a fydd yn cael ei thalu i’r Cadeirydd (£21,500) a’r Is-gadeirydd (£14,000) ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15.

·        yn mabwysiadu argymhellion y Panel mewn perthynas â thaliadau i aelodau cyfetholedig.

·        yn mabwysiadu’r cynllun taliadau i Aelodau a oedd wedi’i nodi yn Atodiad 3 wrth yr adroddiad.

·        yn cytuno y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i un o gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol ynghylch talu uwch gyflogau.

·        yn cytuno y bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn cynnal adolygiad o’r llwythi gwaith sy’n gysylltiedig â swyddi a rolau amrywiol a ddelir ac sy’n cael eu cyflawni gan aelodau ac yn adrodd yn ôl.

 

Dogfennau ategol: