Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CYFALAF

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) i ddarparu Cyngor llawn gyda'r diweddaraf ynglŷn â'r Cynllun Cyfalaf, gan gynnwys prosiectau mawr a'r Cynllun Corfforaethol.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, gyflwyno’r Cynllun Cyfalaf 2013/14 – 2016/17 ac argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol (a gafodd eu cylchredeg yn flaenorol).

 

Roedd diweddariadau misol ar y Cynllun yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ac roedd y Cynllun Cyfalaf amcangyfrifiedig yn £36.468 miliwn ar hyn o bryd. Roedd y Cynllun wedi cael ei ddiweddaru ychydig ers cyflwyno adroddiad arno i’r Cabinet ym mis Mawrth 2014.

 

Roedd y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi adolygu cynigion cyfalaf ac wedi gwneud argymhellion ar gyfer cynnwys prosiectau yn y Cynllun Cyfalaf o 2014/15 ymlaen.

 

Roedd prosiectau wedi cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion Corfforaethol y Cyngor.

 

Byddai angen cwblhau ffurflen Achos Busnes ar gyfer pob prosiect newydd a byddai unrhyw oblygiadau penodol yn cael eu trafod ar y cam hwnnw.

 

Nid oedd yr un prosiect cyfalaf heb risg; serch hynny byddai’r holl gynlluniau’n cael eu hadolygu gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac yn destun gweithgarwch monitro ac adrodd misol parhaus.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan aelodau, cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr isod:

 

·        Roedd y Cyngor wedi gofyn am gyllid i atgyweirio pont Rhuddlan. Gan fod y bont yn adeiledd rhestredig, byddai astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal a chyllid yn cael ei geisio gan Lywodraeth Cymru a CADW.

·        Byddai angen sicrhau bod prosiectau cyfalaf newydd wedi’u diogelu at y dyfodol ac yn gallu addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Roedd y Pennaeth Archwilio Mewnol wedi bod yn paratoi datganiad gan nad oedd Polisi Amgylcheddol gan Gyngor Sir Ddinbych. Roedd cynlluniau mwy a oedd yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru yn mynd i gynnwys elfennau amgylcheddol.

·        Roedd gwaith ar Strategaeth Gaffael yn mynd rhagddo. Roedd model rhwng tair sir yn cael ei archwilio gan Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Gwynedd. Roedd llawer o waith wedi cael ei wneud gyda’r tîm caffael dros y 12 mis blaenorol. Roedd gwaith i ddatblygu tîm ar y cyd gyda Sir y Fflint, i wneud Sir Ddinbych yn fwy gwydn, wedi bod yn digwydd. O fewn y 2 fis nesaf, byddai system gaffael newydd wedi’i sefydlu. Wedi hynny, byddai’r holl gontractau’n mynd trwy un broses.

·        Roedd Cam 3 o’r elfen amddiffynfeydd môr arfordirol yn y Rhyl bron yn barod i ddechrau. Bu cais i ddod o hyd i fwy o gyllid i alluogi’r amddiffynfeydd môr i fod yn fwy cain e.e. gyda goleuadau a mannau eistedd. Roedd yr Aelodau’n cefnogi’r cynnig i wneud amddiffynfeydd môr yn flaenoriaeth.

·        Nid oedd yr adroddiad yn manylu ar gynlluniau amrywiol a oedd yn costio llai na £30,000. Dywedodd yr aelodau yr hoffent i fanylion yr holl gynlluniau gael eu cylchredeg iddynt.

·        Roedd Cefndy Enterprises wedi cael buddsoddiad i ddisodli peiriannau a oedd wedi dyddio. Byddai’r cymhorthdal yr oedd Sir Ddinbych yn ei dalu i Cefndy Enterprises yn cael ei ddirwyn i ben yn raddol ar gais Cefndy. O 2015/2016, ni fyddai cymhorthdal yn cael ei dalu mwyach. 

 

Symudodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau ymlaen at y crynodeb o Argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol (Cynllun Cyfalaf 2014/15) a oedd wedi’u nodi yn Atodiadau 5, 6 a 7.

 

Roedd setliad cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014/15 £22,000 yn is nag ar gyfer 2013/14. Gyda’r diffyg buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, nid oedd dewis gan y Cyngor ond dibynnu ar ei adnoddau ei hun i fuddsoddi mewn prosiectau allweddol. 

 

Roedd y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi cytuno i wahodd cynigion gan adrannau yn unol â’r dyraniadau bloc a oedd wedi’u cytuno’n flaenorol. 

 

Cafwyd trafodaeth fanwl ac mewn ymateb i gwestiynau pellach a ofynnwyd gan aelodau, cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr isod

 

·        Roedd gan y Cyngor dair blynedd i gyflawni derbyniadau gyda’r Cynllun Corfforaethol. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau, lle’r oedd adnoddau’n cael eu targedu, fod y Cyngor ar y trywydd cywir i gyflawni’r hyn yr oedd gofyn ei gyflawni.

·        Roedd arian wedi cael ei ddyrannu ar gyfer atalfa ddiogelwch rhwng y ddwy ffordd gerbydau ar hyd yr A525 o Ruddlan i Lanelwy yn dilyn argymhelliad yn Adroddiad y Crwner ar ddamwain angheuol ar y ffordd 10 mlynedd ynghynt. Roedd cynnig wedi cael ei gyflwyno ond y teimlad cyffredinol oedd nad dyma fyddai’r ffordd briodol o fynd ati. Nid aeth y cynllun yn ei flaen a’r penderfyniad a wnaed oedd y byddai’r cyllid yn cael ei ailddyrannu ar gyfer cynnig diogelwch ar y ffyrdd.

·        Cynigiodd y Cynghorydd Alice Jones ddiwygiad a fyddai’n golygu bod £80,000 arall yn cael ei ychwanegu at y swm a ddyrennir i Ystadau Amaethyddol. Cyflwynwyd eglurhad i’r aelodau, pe bai swm uwch yn cael ei ddyrannu i gynllun, y byddai’n rhaid wedyn didynnu swm cyfwerth o gynlluniau eraill i fantoli’r ffigyrau. Argymhellodd y Cynghorydd Alice Jones fod £80,000 yn cael ei ddidynnu o’r gronfa hapddigwyddiadau cyfalaf. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts. Cafwyd pleidlais, gydag 14 aelod yn pleidleisio o blaid y cynnig a 29 yn erbyn y cynnig. Felly methodd y diwygiad.

 

Felly,

 

PENDERFYNWYD  fod yr Aelodau:

 

·        Yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf gydag elfen 2013/14 o’r Cynllun Cyfalaf a’r diweddariad ar brosiectau mawr

·        Yn cefnogi argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol a oedd wedi’u nodi yn Atodiad 5 a’u crynhoi yn Atodiad 6.

 

 

Dogfennau ategol: