Eitem ar yr agenda
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD
Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau.
Cofnodion:
Rhoddodd
Aelodau’r Pwyllgor Safonau adroddiadau ar gyfarfodydd a fynychwyd ganddynt fel
a ganlyn –
Cyngor Dinas Llanelwy –
Adroddodd y Cynghorydd Bill Cowie ei fod wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Dinas
Llanelwy yn ystod mis Ebrill oedd wedi’i gynnal yn dda. Rhoddodd wybod bod y
Cyngor Dinas yn ddiweddar wedi penodi aelod newydd a bod sedd wag arall fyddai
angen ei llenwi. Ychwanegodd bod y Clerc newydd a benodwyd yn ddiweddar yn
sicrhau bod unrhyw gynghorydd sy’n datgan cysylltiad yn cwblhau’r ffurflen
ddatgan briodol yn y cyfarfod.
Fforwm Safonau
Gogledd Cymru - Adroddodd y Cadeirydd ynghylch ei bresenoldeb
gyda’r Parchedig Wayne Roberts yn Fforwm Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar
29 Ebrill 2014 yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, a drefnwyd gan Gyngor Sir y
Fflint. Roedd y cyfarfod wedi’i gynnal yn dda a dywedodd fod Swyddog Monitro
Sir y Fflint wedi creu argraff dda arno, roedd y swyddog yn brofiadol iawn ac
yn frwdfrydig. Ceisiodd y Cadeirydd farnau’r Aelodau ar nifer o faterion a godwyd
yn y cyfarfod a thrafodwyd y rhai a ganlyn –
Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol - Nododd yr Aelodau bod Pwyllgorau Safonau eraill yn
cynnal Cyfarfod Blynyddol ac ystyriwyd rhinweddau cyflwyno’r arfer hwn. Roedd y
Pwyllgor yn cefnogi’r syniad o gynnal Cyfarfod Blynyddol er mwyn adolygu eu
gwaith dros y deuddeng mis blaenorol ac i ystyried nodi eu blaenoriaethau ar
gyfer y deuddeng mis i ddod. Nodwyd bod Pwyllgorau Safonau eraill yn cynnal
cyfarfodydd gydag Arweinyddion Grwpiau a chytunodd yr Aelodau i drafod y mater
hwnnw ymhellach yn eu Cyfarfod Blynyddol ynghyd â mecanwaith ar gyfer
ymgynghori â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Cytunwyd hefyd i gyfuno’r
cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 18 Gorffennaf 2014 gyda Chyfarfod Blynyddol
er mwyn trafod y materion hynny. Codwyd y mater o ddatganoli gwasanaethau i
Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned ynghyd â’r goblygiadau wedyn i’r Pwyllgor
Safonau. Eglurodd y Swyddog Monitro (MO) y byddai’r mater yn destun archwilio
pellach a rhagor o herio drwy’r broses safonau.
Hyfforddiant -
Adroddodd y Cadeirydd ynghylch y gwahanol hyfforddiant a ddarparwyd ar draws
gwahanol siroedd. Gwnaed cynnig yn y Fforwm Safonau y dylid cynnal sesiwn
hyfforddiant un diwrnod ar draws chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru i’w gyflwyno
gan Peter Keith-Lucas yn canolbwyntio ar sut i gynnal gwrandawiad. Cytunodd
Cyngor Sir Ynys Môn i gynnal y digwyddiad gyda’r 23 a 27 o Fehefin 2014 fel y
dyddiadau a ffafriwyd. Teimlodd y Pwyllgor y byddai’r hyfforddiant yn fuddiol
iddynt a chytunwyd y dylid rhoi blaenoriaeth i Aelodau’r Pwyllgor Safonau ei
fynychu cyn ei gynnig i gynghorwyr eraill sydd â diddordeb. Nodwyd na fyddai’r
Cadeirydd a’r Cynghorydd Bill Cowie yn gallu mynychu ar y dyddiadau hynny.
Cytunodd y MO i gysylltu ag Aelodau’r Pwyllgor ar ôl cadarnhau’r manylion. Yn
nhermau hyfforddiant ymsefydlu, y farn gyffredin oedd y byddai’n well cyflwyno
hyfforddiant ar ôl mynychu nifer o gyfarfodydd. Nododd yr Aelodau eu bod yn
fodlon â’r ddarpariaeth bresennol o hyfforddiant.
Roedd
gan y Cadeirydd ddiddordeb clywed y disgwylid dyfarniad gan Achos yn yr Uchel
Lys yn ymwneud â Chynghorydd yn Sir y Fflint a chytunodd y MO i ddarparu copi o’r
dyfarniad unwaith yr oedd ar gael.
PENDERFYNWYD –
(a) derbyn a nodi’r adroddiadau llafar gan
aelodau oedd wedi mynychu cyfarfodydd;
(b) cefnogwyd yr arfer o gyflwyno Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol ynghyd â chyfuno'r cyfarfod nesaf oedd wedi’i drefnu ar
gyfer y Pwyllgor Safonau ar 18 Gorffennaf 2014 gyda Chyfarfod Cyffredinol
Blynyddol er mwyn trafod materion perthnasol fel y nodwyd uchod, ynghyd â
(c) chefnogi’r cynnig ar gyfer cynnal
Hyfforddiant Safonau ar y cyd gyda lleoedd Sir Ddinbych yn cael eu
blaenoriaethu ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Safonau cyn eu cynnig i gynghorwyr
eraill sydd â diddordeb.