Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD PARTNERIAETHAU LAW YN LLAW AT IECHYD MEDDWL GOGLEDD CYMRU
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth: Ardal y De (copi ynghlwm) a oedd yn amlygu'r
cynnydd yn y camau angenrheidiol mewn ymateb i'r cynllun cyflenwi yn Law yn
Llaw at Iechyd Meddwl ac yn rhannu rhai o'r heriau a'r blaenoriaethau i
bartneriaid dros y flwyddyn i ddod.
9.35
a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth: Ardal y De wedi ei
ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Roedd yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at y cynnydd hyd yma ar y camau sydd
eu hangen mewn ymateb i gynllun cyflenwi “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” ac yn
amlinellu rhai o’r heriau a blaenoriaethau i’r partneriaid dros y flwyddyn i
ddod. Roedd yn egluro gwybodaeth ar
Fwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar a'i rôl o ran cefnogi
a goruchwylio cydymffurfiaeth â’r cynllun cyflenwi a chynnydd yn ei erbyn. Roedd yr adroddiad yn amlinellu
cyflwyno adroddiad blynyddol ar Law yn Llaw at Iechyd Meddwl gan
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i Lywodraeth Cymru ac yn
amlygu’r camau a argymhellwyd ar gyfer 2014/15.
Ym mis Hydref 2012
cyhoeddodd LlC Law yn Llaw at
Iechyd Meddwl, strategaeth poblogaeth gyfan ar gyfer iechyd meddwl a lles yng Nghymru. Roedd y
weledigaeth yn y ddogfen a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn rhoi agenda
uchelgeisiol ar iechyd meddwl ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf, gyda
phwyslais clir ar gyfrifoldeb a rennir rhwng y gwasanaeth iechyd a llywodraeth
leol. Yn dilyn ymgynghoriad â budd-ddeiliaid, roedd LlC
wedi datblygu 6 chanlyniad lefel uchel o fewn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Roedd y rhain
wedi'u nodi yn yr adroddiad, a’u datblygu ymhellach yn y ddogfen a oedd yn nodi
canlyniadau mwy manwl, ac roeddent yn cynnwys:-
Roedd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn cael ei gefnogi gan Gynllun Cyflenwi a oedd yn
nodi manylion y camau gweithredu y byddai LlC ac asiantaethau partner yn eu
cymryd i gyflawni'r cynllun. Roedd yn nodi'r cyfraniadau gofynnol gan LlC,
llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, y trydydd sector ac ystod o bobl eraill
gan gynnwys er enghraifft tai, addysg, hyfforddiant a dysgu gydol oes,
cyflogwyr, a'r system cyfiawnder troseddol. Roedd pennod olaf y
ddogfen yn nodi sut y byddai'r strategaeth yn gweithio ar lefel genedlaethol a
lefel lleol a sut y byddai'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd yn sicrhau
ei chyflwyno.
Ym mis Mehefin 2013 sefydlodd BIPBC Fwrdd
Partneriaeth Iechyd Meddwl Gogledd Cymru i oruchwylio'r gwaith o gyflwyno a
gweithredu Law yn Llaw at
Iechyd Meddwl a'i gynllun cyflenwi, ac ym mis Hydref 2013 cyflwynodd yr adroddiad
blynyddol i LlC. Roedd Atodiad 2 yn cynnwys y Cylch Gorchwyl
priodol. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys cynnydd hyd
yma a chyfeiriad at rai o'r heriau a'r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i
ddod, ynghyd â thystiolaeth o’r ymrwymiad parhaus i weithio ar y cyd gydag
iechyd a phartneriaid eraill i gyflawni'r camau gweithredu angenrheidiol.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd rhoddwyd
canmoliaeth i’r berthynas waith gryf ym maes iechyd meddwl rhwng BIPBC ac Adran
Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych ar lefel defnyddiwr gwasanaeth. Yn yr un modd
â’r egwyddorion a'r camau gweithredu yn y strategaeth a'r Cynllun Gweithredu a
gafodd eu cymeradwyo. Fodd bynnag, codwyd nifer o bryderon ynglŷn â
darpariaeth leol gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion, plant a'r henoed. Roedd y prif
bryderon yn ymwneud â:-
· yr amseroedd aros a
brofir gan blant a phobl ifanc o ran cael mynediad i wasanaethau Gwasanaethau
Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a oedd â'r potensial i effeithio ar
addysg yr unigolyn, cytunodd swyddogion BIPBC i baratoi adroddiad gwybodaeth
i'r aelodau ar sut y byddai’r arian a ddyfarnwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth
Cymru (LlC) i'r Gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i wella rhestrau aros CAMHS a
gwasanaethau eraill. Maent hefyd
wedi cytuno i ddarparu gwybodaeth am y cynnydd a gyflawnwyd hyd yn hyn, a
chynnydd a ragwelir yn y dyfodol, wrth gyflwyno staff CAMHS hyfforddedig ym
mhob Adran Damweiniau ac Achosion Brys yng Ngogledd Cymru.
· nifer y staff Iechyd Meddwl hyfforddedig sy'n siarad Cymraeg sy'n gweithio
ym mhob ardal awdurdod lleol, yn enwedig nifer y seiciatryddion sy'n siarad
Cymraeg. Cytunodd swyddogion BIPBC i ddarparu gwybodaeth am
hyn, gan gynnwys y maes gwaith arbenigol y maent yn gweithio ynddo.
· yr oedi a gafwyd wrth
ail-agor Ward Tawelfan yn Ysbyty Glan Clwyd yn dilyn ei gau yn hwyr yn 2013 ar
sail ansawdd a diogelwch gofal cleifion, ac wrth dderbyn adroddiad yr
ymchwilydd annibynnol i mewn i'r mater. Sicrhawyd yr Aelodau
nad oedd y ffaith fod y ward yn dal wedi’i chau yn fesur arbed adnoddau, roedd
yn fater diogelwch cleifion a byddai'r ward yn ail-agor maes o law.
Swyddogion BIPBC:
· rhoddasant sicrwydd bod
pob cam posibl, gan gynnwys trefniadau monitro cadarn a statws achrediad Coleg
Brenhinol y Seiciatryddion, yn cael eu cymryd mewn ymgais i osgoi sefyllfaoedd
tebyg i'r rhai a oedd wedi codi yn Tawelfan, rhag digwydd eto. Fodd bynnag, ni
allai neb roi sicrwydd llwyr na fyddai sefyllfaoedd tebyg yn digwydd yn y dyfodol.
·gofynnodd yr Aelodau am
sicrwydd bod yr holl fesurau posibl yn cael eu cymryd i liniaru'r risg o
gleifion yn dioddef unrhyw fath o aflonyddu neu fwlio mewn sefydliadau BIPBC.
· Roedd BIPBC yn gwario
llai y pen o'r boblogaeth ar wasanaethau iechyd meddwl nag unrhyw fwrdd iechyd
arall yng Nghymru.
· rhoddwyd sicrwydd i’r
Pwyllgor y byddai'r ganolfan iechyd newydd ar safle hen Ysbyty Brenhinol
Alexandra yn y Rhyl yn cynnwys ward gwasanaethau iechyd meddwl dynodedig ar
gyfer pobl hŷn, a byddai ganddo tua 18 o welyau ac yn cael ei staffio gan
gymysgedd o bobl â chymwysterau addas i ddarparu’r math cywir o ofal.
· byddai'r Uned Ablett yn
parhau fel Uned Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych gyda
gwasanaethau gofal seiciatrig dwys yn cael eu darparu ym Mangor a Wrecsam fel
ar hyn o bryd.
· rhoddwyd amlinelliad o
waith sydd ar y gweill gyda'r trydydd sector mewn ymgais i gyfuno gwasanaethau
ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog, byddai hyn yn galluogi staff i gyfeirio
cleifion at y sefydliad mwyaf priodol i gynorthwyo gyda'u hanghenion cymorth.
· rhoddwyd manylion am
sut y gallai Adrannau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor gynorthwyo a
chefnogi pobl ddiamddiffyn sy'n byw mewn tai awdurdod lleol, rhai gyda
phroblemau iechyd meddwl, rhag cael eu bwlio neu rhag i bobl gymryd mantais
ohonynt.
Gofynnodd y Pwyllgor fod y pryderon a amlinellwyd
uchod ynglŷn â Ward Tawelfan yn cael eu codi yng nghyfarfod nesaf Bwrdd
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Sir Ddinbych a oedd i gael ei gynnal ar ddiwedd mis
Ebrill, 2014.
PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr arsylwadau uchod, nodi’r ymrwymiad
parhaus i weithio mewn partneriaeth gyda BIPBC a phartneriaid eraill ar draws
Gogledd Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol ac yn fwy
penodol mewn perthynas â Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
Dogfennau ategol: