Eitem ar yr agenda
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 043844
- Meeting of Pwyllgor Trwyddedu, Dydd Mercher, 5 Mawrth 2014 9.30 am (Item 5.)
- Gweld y cefndir i eitem 5.
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn ceisio penderfyniad gan yr aelodau ynglŷn â chais am drwydded
i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 043844.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais ar
gyfer trwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd
Rhif 043844.
Cofnodion:
[Dygwyd yr eitem hon yn ei blaen o fewn trefn y
rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd]
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar –
(i)
cais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 043,844 am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat yn dilyn adfer ei Drwydded DVLA;
(ii)
roedd
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 27 Mehefin
2013 wedi dirymu trwydded yr Ymgeisydd i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat ar ôl iddo gael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis o dan y drefn
cyfansymio;
(iii)
roedd
yr Ymgeisydd hefyd cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Trwyddedu i adolygu ei
drwydded ym mis Rhagfyr 2012 ac Ionawr 2013;
(iv)
polisi
presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a
(v)
gofynnwyd
i’r Ymgeisydd fod yn bresennol mewn cyfarfod i gefnogi ei gais ac ymateb i
gwestiynau aelodau ar hynny.
Roedd yr Ymgeisydd yn
bresennol ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad
a gweithdrefnau’r pwyllgor. Crynhodd y Swyddog
Trwyddedu (JT) yr adroddiad ac eglurodd bod y mater wedi cael ei ddwyn gerbron
y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded o gofio ei hanes fel
gyrrwr trwyddedig.
Eglurodd yr Ymgeisydd yr
amgylchiadau a arweiniodd at ei waharddiad, gan gynnwys ei drosedd foduro olaf
ym mis Hydref 2012, ac roedd yn awyddus i dawelu meddwl y pwyllgor nad oedd yn
goryrru’n rheolaidd. Ychwanegodd ei fod wedi dysgu gwers galed ac wedi
dioddef caledi o ganlyniad i'r gwaharddiad. Roedd yr
Ymgeisydd wedi parhau i weithio i'r un cwmni mewn rôl wahanol yn ystod ei
gyfnod o waharddiad a dywedodd fod ei gyflogwr a chwsmeriaid yn awyddus iddo
ddychwelyd i weithio fel gyrrwr tacsi. Yn olaf, hysbysodd yr
Ymgeisydd yr aelodau ei fod wedi mwynhau bod yn yrrwr tacsi ac yn dymuno parhau
â'r proffesiwn.
Mewn ymateb i
gwestiynau'r aelodau eglurodd yr Ymgeisydd yr amgylchiadau o gwmpas ei gollfarn
goryrru a chyfeiriodd at y defnydd priodol o gyflymder yn yr Adroddiad Asesiad
Gyrwyr a gynhyrchwyd ym mis Ionawr 2013 yn dilyn cwblhau'r Cwrs Ymwybyddiaeth
Gyrru. Cadarnhaodd hefyd nad oedd ganddo unrhyw
gollfarnau moduro arfaethedig.
Yn ei ddatganiad
terfynol, cyflwynodd yr Ymgeisydd eirda gan ei gyflogwr yn cadarnhau at ei
gymeriad da a gafodd ei ddarllen allan gan y Cadeirydd. Ychwanegodd ei fod wedi bod yn gyrru am bedair blynedd ar hugain ac nad
oedd erioed wedi bod mewn damwain, gan bwysleisio ei fod yn yrrwr diogel.
Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a -
PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif
041213 yn cael ei roi.
Dyma oedd y rhesymau am
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –
Ystyriodd yr Aelodau yr
adroddiad yn ofalus a chyflwyniad yr Ymgeisydd o blaid ei gais, gan gynnwys ei
eirda. Wrth benderfynu ar addasrwydd yr Ymgeisydd, roedd
y pwyllgor yn derbyn eglurhad yr Ymgeisydd ynglŷn â’i gollfarnau gyrru ac
o'r farn ei fod wedi talu’r pris yn y cyswllt hwnnw. Roedd ei eirda
hefyd wedi cyfrannu llawer tuag at gefnogi ei gefnogi; roedd ei gyflogwyr wedi
dangos cred ynddo a’i werthfawrogi fel cyflogai ac wedi parhau i’w gyflogi mewn
rôl weinyddol drwy gydol ei waharddiad gyrru. Nodwyd hefyd y
byddai caniatáu'r cais yn cydymffurfio â pholisi'r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd collfarnau. O ganlyniad, mynegodd aelodau hyder yng ngallu'r
Ymgeisydd i gludo aelodau o'r cyhoedd yn ddiogel a phenderfynwyd caniatáu'r
cais. Fodd bynnag, cafodd yr Ymgeisydd ei rybuddio y
byddai unrhyw gamwedd yn y dyfodol yn cael ei drin yn ddifrifol.
Felly cafodd
penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu i'r Ymgeisydd.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./1 yn gyfyngedig