Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YSTÂD AMAETHYDDOL

Amlinellu'r cynnydd a wnaed gyda rhesymoli ystâd amaethyddol y Sir, y buddsoddiad hyd yma yn yr ystâd, nifer yr unedau sydd ar osod a hyd prydlesi, nifer yr unedau a ildiwyd, nifer yr unedau a werthwyd a’r cyfalaf a gafwyd yn sgil gwerthu, a strwythur staffio'r adran Ystâd Amaethyddol.

 

11:00 – 11:45

Cofnodion:

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod dan ddarpariaethau Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, tra ystyrir yr eitemau canlynol ar y rhaglen, oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y diffinnir hi ym Mharagraff 12, 13 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

RHAN II

 

Rhoddodd Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau drosolwg o’r adroddiad cyfrinachol a ddosbarthwyd yn flaenorol. Pwysleisiodd ei fod yn bwysig gwahaniaethu rhwng y ddau fath o gytundeb tenantiaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd.

 

Mae tenantiaethau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 ar gyfer y tenantiaid lle mae cyfrifoldebau cynnal dan ofal yr Awdurdod. Maent yn cael eu hystyried fel tenantiaethau oes; pe bai’r tenant yn rhoi’r gorau i ffermio byddai’r Awdurdod yn atebol am ddarparu llety arall. Mae tenantiaethau a ffurfir o dan Ddeddf Tenantiaethau Fferm 1995 yn cynnig mwy o hyblygrwydd i gysylltu â thenantiaid ac ar y tenant yn hytrach na’r landlord y mae’r baich o drwsio a chynnal.

 

Mae Gwasanaethau Eiddo wrthi’n ceisio rhyddhau ffermydd sydd i’w gwaredu trwy symud tenantiaid o dan delerau Deddf Tenantiaethau Fferm 1986 i ffermydd eraill lle mae angen llai o waith cynnal / baich ariannol llai. Fodd bynnag dim ond tîm bach sy’n dibynnu ar incwm ffioedd a galwyd arnynt i ddelio â Blaenoriaethau Corfforaethol eraill - e.e. prynu gorfodol yng Ngorllewin y Rhyl  ac arolygon o gyflwr safleoedd corfforaeth hyd braich - sy’n gadael dim ond un syrfëwr 0.5 cyfwerth ag amser llawn i weithio ar y materion sydd wedi cronni’n ymwneud ag ystadau amaethyddol.

 

Lleisiodd y Cynghorydd Hughes bryderon nad yw tai ar ffermydd yn dod o dan ofyniad Safon Ansawdd Tai Cymru, a’u bod efallai’n dadfeilio, yn orlawn ac yn anaddas i deuluoedd. Awgrymodd y Cynghorydd Hughes y dylid defnyddio derbyniadau cyfalaf yn sgil gwaredu ystadau amaethyddol ar gyfer adnewyddu tai ffermydd.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod polisi blaenorol o neilltuo derbyniadau cyfalaf ond nad oedd yn sicrhau’r lefel o gronfeydd oedd ei hangen. Mae’r Awdurdod wedi gorfod canolbwyntio ar agweddau iechyd a diogelwch ar ystadau yn hytrach nag adnewyddu.

 

Cadarnhaodd David Mathews, y Rheolwr Prisio ac Ystadau fod angen cymaint o waith ar rai adeiladau fferm fel y byddai’n fwy cost effeithiol codi rhai newydd yn hytrach na’u trwsio. Yr ateb gorau ar gyfer ffermdai y mae angen gwneud gwaith arnynt, fyddai eu gwaredu. Ystyriai y gallai’r Awdurdod ddal ei afael ar ystâd amaethyddol gweddol fawr ond roedd angen gwneud newidiadau sylweddol.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Roberts y ffaith nad oedd Syrfëwr proffesiynol wedi ei gymhwyso mewn Arfer Gwledig o fewn y Cyngor a’r risg oedd ynghlwm â hyn. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Prisio ac Ystadau eu bod yn cael eu cyflogi fel ymgynghorwyr pan fo arian ar gael a phan fo angen - er enghraifft ar gyfer adolygu rhenti.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Roberts am eglurhad ynglŷn â defnyddio adnoddau Cyfreithiol. Cadarnhaodd y Rheolwr Prisio ac Ystadau eu bod fel arfer yn ymgynghori â’r gweithredwyr cyfreithiol mewnol, ond mae Deddf Tenantiaethau Fferm 1995 hefyd yn darparu ar gyfer priswyr / syrfewyr i lunio’r tenantiaethau. Mae’r Rheolwr Prisio ac Ystadau wedi bod yn ymgymryd â’r rôl hon gan fod ganddo flynyddoedd lawer o brofiad ac mae’n deall yr iaith a ddefnyddir.

 

Yn dilyn cafwyd trafodaeth ynglŷn â sefyllfa bresennol ffermydd y Sir yn cynnwys les tenantiaid, defnydd, rhenti ac opsiynau eraill. Gofynnodd Aelodau a oedd digon o bwyslais ar sicrhau derbyniadau cyfalaf trwy waredu eiddo amaethyddol? Os nad oedd gwaredu’n opsiwn pam fod incwm rhenti yn llawer llai na’r disgwyl yn y sector preifat?

 

Roedd Dave Lorey, y Rheolwr Eiddo yn cyfaddef bod angen i’r strategaeth ar gyfer ystadau amaethyddol gael ei hadolygu yn ogystal â chylch gorchwyl y Bwrdd Ystadau Amaethyddol.

 

 

Penderfynwyd: -

(a) galw cyfarfod ar frys o’r Gweithgor Ystâd Amaethyddol gyda golwg ar lunio gweledigaeth hirdymor glir ar gyfer Ystâd Amaethyddol y Cyngor a datblygu strategaeth gadarn i gyflawni’r weledigaeth. Dylai’r Gweithgor adolygu ei Gylch Gorchwyl, cyfarfod yn rheolaidd a chynnal arolwg o gyflwr yr holl ddaliadau er mwyn cyflawni’r weledigaeth; a

(b)  chyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 12 Mehefin 2014 yn amlinellu’r cynnydd hyd yma o ran datblygu’r pwyntiau uchod.