Eitem ar yr agenda
ADNEWYDDU CYFLEUSTERAU ARFORDIROL YN Y RHYL A PHRESTATYN
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu
Economaidd a Huw Jones, yr Aelod dros Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a
Datblygu Gwledig (copi'n amgaeedig) ynghylch datblygiad y prosiectau
Cyfleusterau Arfordirol ar gyfer y cam nesaf.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno ar y dull a argymhellir -
(a) mabwysiadu dull
'datblygwr a ffafrir’ i ddarparu gwell cyfleusterau twristiaeth a hamdden yn y
Rhyl, gan gynnwys Canolfan Ddyfrol newydd ac i wahodd datganiadau o ddiddordeb
gan ddatblygwyr i'w hystyried gan y Cyngor;
(b) cynnwys
cyfleoedd datblygu yn holl gyfleusterau/tir/asedau’r Cyngor ar hyd Promenâd y
Rhyl (Marine Lake i Splash Point) o fewn y gwahoddiad i fynegi diddordeb;
(c) ar yr un pryd,
defnyddio cytundeb fframwaith presennol y Cyngor gydag Alliance Leisure i lunio
astudiaeth ddichonoldeb busnes fanwl a gwerthusiad o opsiynau dylunio ac
adeiladu ar gyfer y Nova;
(d) ymrwymo mewn
egwyddor i neilltuo arbedion gweithredol a gynhyrchir o ganlyniad i'r cynigion
ailddatblygu i gefnogi cyfraniadau cyfalaf posibl gan y Cyngor tuag at
gyflawni'r ‘prosiect cyfan', a
(e) cyfarfod gyda
Llywodraeth Cymru i archwilio cefnogaeth i ddull partneriaeth ‘arbennig’ ar gyfer
adfywio arfordirol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad yn manylu ar ddatblygiad
y prosiectau Cyfleusterau Arfordirol i’r cam nesaf a’r dull a argymhellir i sicrhau
bod Canolfan Ddyfrol newydd yn cael ei datblygu yn y Rhyl a bod Nova yn cael ei
ailddatblygu ym Mhrestatyn. Mae’r argymhellion wedi eu cefnogi gan Fwrdd
Prosiect Cyfleusterau Arfordirol.
Ymhelaethodd y Cynghorydd Jones ar statws pob
argymhelliad a thynnodd sylw at Gynllun Darparu Cymdogaeth a Lleoedd Rhaglen y
Rhyl yn Symud Ymlaen a oedd yn cynnwys y cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn y
Rhyl. Dywedodd fod aelodau’n bryderus ynglŷn ag erthygl gamarweiniol y
Daily Post a oedd yn dweud bod Theatr y Pafiliwn dan fygythiad a rhoddwyd
sicrwydd ac eglurhad i’r perwyl hwnnw. Ychwanegodd yr Arweinydd fod y cynigion
yn rhoi darlun clir ar gyfer y dyfodol
a’i fod yn rhan o’r cynllun cyffredinol ar gyfer y Rhyl. Pwysleisiodd yr
angen i fod yn fwy strategol o ran buddsoddi a byddai’n gofyn i Lywodraeth
Cymru am gyfraniad tuag at y cyllid.
Cytunodd y Cabinet â’r argymhelliad i ddatblygu’r prosiectau i’r cam
nesaf gan gadarnhau eu hymrwymiad i’r ddarpariaeth o ran twristiaeth a hamdden.
Y gobaith oedd y gellid datblygu’r prosiectau’n raddol i sicrhau nad oedd
unrhyw fwlch o ran darpariaeth ond nododd na ellid rhoi sicrwydd o hyn. Mewn
ymateb i gwestiynau rhoddwyd sicrwydd -
·
y byddai gwaith atal llifogydd yn cael ei ystyried fel rhan o’r cam dylunio
ac nid oedd erydu arfordirol wedi ei restru fel problem
·
y lleoliad dewisol ar gyfer y ganolfan ddyfrol oedd ger y tŵr awyr ond
gallai hyn newid yn dibynnu ar farn y
partner datblygu a ffafrir
·
roedd poblogrwydd y parc sglefrio wedi ei
gydnabod a byddai safleoedd priodol eraill yn cael eu hystyried wrth ymgynghori
â’i ddefnyddwyr
·
roedd arolwg o gyflwr yr Heulfan, Nova a Chanolfan Fowlio Gogledd Cymru’n
cael ei wneud cyn cynnal arfarniad opsiynau i aelodau eu hystyried. [Gan fod
Canolfan Fowlio Gogledd Cymru’n gyfleuster cymunedol mewn cyflwr da roedd
aelodau’n awyddus iddi ail-agor cyn gynted â phosibl.]
Croesawodd y Cynghorydd Joan
Butterfield y bwriad i ddatblygu cyfleusterau yn y Rhyl ond tynnodd sylw at
nifer o faterion -
·
yr angen am brif gynllun i’r Rhyl yn hytrach na gwahanol brosiectau ar
wahân i’w gilydd
·
nid oedd unrhyw gyfeiriad wedi ei wneud at yr Heulfan a phwysigrwydd bod yr Heulfan yn agor y tymor
nesaf
·
pryderon ynglŷn â lleoliad arfaethedig y ganolfan ddyfrol a allai
arwain at golli lle parcio gwerthfawr
·
amheuon ynglŷn â chynaliadwyedd
darpariaeth hamdden debyg yn y Rhyl a Phrestatyn, ac
·
y dylai Hyrwyddwyr y Rhyl a Phrestatyn, yn ei
barn hi, fod yn aelodau o’r Bwrdd Prosiect Cyfleusterau Arfordirol (CFPB).
Er gwaethaf ymgynghori helaeth, roedd yr Arweinydd yn
siomedig i nodi bod materion yn cael eu codi mor ddiweddar. Dywedodd y
Cynghorydd David Simmons fod y CFPB wedi cefnogi’r argymhellion ond eu bod yn
teimlo nad oedd adeiladu canolfan ddyfrol ar ei phen ei hun yn apelio a bod angen
ei hystyried mewn cyd-destun ehangach.
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol
Uchelgais Economaidd a Chymunedol mai Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen oedd y
Prif gynllun ar gyfer y Rhyl ac ymhelaethodd ar y pedwar llif gwaith a
ddatblygwyd i sicrhau ei fod yn cael ei weithredu yn cynnwys cyfeiriad at y
prosiect cyfleusterau arfordirol. Rhoddodd sicrwydd mai nod y ddarpariaeth yn y
Rhyl a Phrestatyn oedd ategu’r ddarpariaeth bresennol ac nid cystadlu yn ei
herbyn. Byddai opsiynau ar gyfer dyfodol yr Heulfan yn cael eu hystyried ar ôl
cwblhau’r arolwg o gyflwr yr Heulfan a byddai’n destun adroddiad ar wahân.
Cytunodd y Cabinet ei fod yn bwysig symud ymlaen â’r cynigion a-
PHENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno â’r dull a argymhellwyd –
(a) mabwysiadu dull
‘datblygwr a ffafrir’ i ddarparu gwell cyfleusterau twristiaeth a hamdden yn y
Rhyl, yn cynnwys Canolfan Ddyfrol newydd a gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan
ddatblygwyr i’w hystyried gan y Cyngor;
(b) cynnwys cyfleoedd
datblygu yn holl gyfleusterau/tir/asedau’r Cyngor ar hyd Promenâd y Rhyl (Llyn
Morol i Splash Point) yn y gwahoddiad am ddatganiadau o ddiddordeb;
(c) ar yr un pryd, defnyddio
fframwaith cytundeb presennol y Cyngor gydag Alliance Leisure i lunio astudiaeth ddichonoldeb busnes manwl a gwerthusiad o opsiynau dylunio ac adeiladu
ar gyfer Nova;
(d) gwneud ymrwymiad mewn egwyddor i neilltuo
arbedion gweithredol a gynhyrchir o ganlyniad i’r cynigion ail-ddatblygu i
gefnogi cyfraniadau cyfalaf posibl gan y Cyngor tuag at gyflawni’r ‘prosiect
cyfan’
(e) cyfarfod Llywodraeth
Cymru i archwilio cefnogaeth ar gyfer dull partneriaeth ‘arbennig’ o ran
adfywio arfordirol.
Yn y pwynt yma (12.10 p.m.) gohiriwyd y cyfarfod i gael
toriad a lluniaeth.
Dogfennau ategol: