Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNNIG I GAU YSGOL CLOCAENOG AC YSGOL CYFFYLLIOG AC I SEFYDLU YSGOL ARDAL NEWYDD

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi'n amgaeedig) yn hysbysu'r Cabinet o'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol ac a ddylid cymeradwyo gweithredu'r cynnig.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried canfyddiadau'r adroddiad sy’n gwrthwynebu’r cynnig, y dylai’r Cabinet gymeradwyo gweithredu'r cynnig i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ar 31 Awst 2014 i alluogi ysgol ardal newydd i gael ei hagor ar 1 Medi 2014 gan ddefnyddio safleoedd presennol yng Nghlocaenog a Chyffylliog.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn manylu ynglŷn â’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn sgil cyhoeddi’r Hysbysiad Statudol i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ar 31 Awst 2014 a sefydlu ysgol ardal newydd ar y safleoedd presennol.

 

Ystyriodd y Cabinet y gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ynghyd â’r dadleuon dros y cynnig a’r ffactorau y manylir arnynt yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Yn ystod y broses gofynnodd yr aelodau gwestiynau ynghyd â gofyn am sicrwydd ynghylch nifer o faterion. Cydnabu’r Cynghorydd Bobby Feeley natur gymhleth yr adolygiad o ardal Rhuthun a mynegodd amheuon a oedd y cais yn cynnig yr ateb cywir yn yr achos arbennig hwn, gan dynnu sylw at nifer o feysydd pryder.

 

Rhoddwyd yr ymatebion canlynol i’r materion a godwyd –

 

·        roedd ysgol ardal wedi ei chynnig yn yr achos hwn gan fod y pellter yr oedd yn rhaid i ddisgyblion ei deithio i’r ysgol briodol agosaf yn rhy bell pe bai'r ddwy ysgol yn cau

·        tynnwyd sylw at fanteision ysgol newydd yn cynnwys y gallu i ddarparu cwricwlwm amrywiol gan ddysgu disgyblion â llai o amrediad oed

·        roedd nifer o ffactorau wedi eu hystyried wrth benderfynu ar y cynigion, nid yn unig maint yr ysgolion, a’r ystyriaeth bennaf oedd darparu’r ysgol briodol, yn y lleoliad priodol, gan ddarparu’r addysg briodol

·        cydnabuwyd pryderon ynghylch addasrwydd y rhwydwaith ffyrdd ond roedd y ffordd yn cael ei defnyddio ar gyfer cludiant cyhoeddus a byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod y ffyrdd yn glir a’u bod yn cael blaenoriaeth o ran graeanu

·        esboniwyd y broses gategoreiddio ar gyfer faint o addysg cyfrwng Cymraeg a fyddai’n cael ei ddarparu o fewn yr ysgolion ac ni fyddai’r naill ysgol na’r llall ar ei cholled o ganlyniad i’r cynigion.

 

O ran maint adolygiad ardal Rhuthun bu’n rhaid cynnal y broses fesul cam ac roedd y cynnig hwn wedi ei gyflwyno mewn cam cynharach oherwydd y gofyniad ar gyfer hysbysiad statudol. Rhoddwyd sicrwydd nad oedd yr un cynnig wedi cael blaenoriaeth dros y llall a bod dull cyson wedi ei ddefnyddio ar draws pob ysgol gyda’r canlyniadau’n gwahaniaethau yn dibynnu ar wahanol amgylchiadau pob ysgol. Byddai gofynion ariannu ar gyfer pob ysgol yn deillio o’r adolygiad yn cael eu hystyried yr un pryd gan y Cabinet yn ystod yr haf. Yna byddai darlun cliriach gennym o ran amserlenni.

 

Cymharodd y Cynghorydd Joe Welch rannau o’r adolygiad gydag un Ysgol Llanbedr.  Cwestiynodd y ffaith bod rhagamcan o niferoedd disgyblion wedi ei gynnwys a gofynnodd am eglurhad ynghylch yr arbedion i’w sicrhau, yr effaith ar y gymuned, a chwestiynodd leoliad yr ysgol yn wyneb y pryderon ynghylch y ffordd. Rhoddwyd yr ymatebion canlynol –

 

·        roedd rhagamcan o niferoedd disgyblion wedi ei ystyried fel rhan o adolygiad Ysgol Llanbedr ond ystyrid bod yr ysgol yn dal yn anghynaliadwy

·        byddai costau cludiant p’un bynnag gan fod mwy o geisiadau wedi eu derbyn ar gyfer Ysgol Clocaenog nag o leoedd oedd ar gael

·        esboniwyd y dull cyfrifo a ddefnyddiwyd i bennu’r arbedion a chadarnhawyd y byddai costau tymor byr tra bod yr ysgolion yn parhau ar ddau safle

·        roedd mwyafrif y disgyblion a fyddai’n cael eu heffeithio gan yr adolygiad yn byw yng Nghlocaenog a byddai gwaith pellach ar leoliad ysgol newydd yn mynd yn ei flaen pe bai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo.

 

Siaradodd y Cynghorydd Arwel Roberts o blaid y cynnig a thynnodd sylw at y ffaith bod cyfleusterau’r ysgolion yn annigonol ac at fanteision ysgol newydd i ddisgyblion. Wrth gefnogi’r argymhelliad pwysleisiodd y Cynghorydd Eryl Williams ei ymrwymiad i sicrhau bod ardal Rhuthun yn cael darpariaeth a chyfleusterau addysgol o safon uchel. Credai mai’r cynnig hwn oedd y dewis gorau i ddisgyblion yn yr ardal honno.

 

PENDERFYNWYD ar ôl ystyried casgliadau’r adroddiad am y gwrthwynebiadau, fod y Cabinet yn cymeradwyo’r cam o weithredu’r cynnig i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ar 31 Awst 2014 er mwyn gallu agor ysgol ardal newydd ar 1 Medi 2014 gan ddefnyddio’r safleoedd presennol yng Nghlocaenog a Chyffylliog.

 

Bu i’r Cynghorydd Bobby Feeley ymatal rhag pleidleisio ar y mater uchod.

 

Dogfennau ategol: