Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

COFRESTR CYSYLLTIADAU AELODAU

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar y newidiadau deddfwriaethol sy'n ymwneud â Chofrestr Cysylltiadau Aelodau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro (a gylchredwyd yn flaenorol) yn hysbysu’r aelodau o newidiadau deddfwriaethol yn ymwneud â Chofrestr Cysylltiadau Aelodau a’r camau dilynol a gynigir er mwyn sicrhau fod y Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned yn cydymffurfio â’r gofynion newydd.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod angen i gynghorwyr sir ddatgan eu cysylltiadau ariannol ac eraill a bod yn rhaid i’r Swyddog Monitro gadw Cofrestr Cysylltiadau Aelodau ar gyfer archwiliad cyhoeddus. Bydd newidiadau deddfwriaethol yn dod i rym yn fuan yn cyflwyno gofyniad i gyhoeddi’r gofrestr yn electronig a hysbysebu sut y ceir mynediad ato.   Roedd y Gwasanaethau Democrataidd mewn sefyllfa i gyhoeddi’r gofrestr ar wefan y Cyngor, gyda dolen at dudalen broffil pob cynghorydd.   Cyn cyhoeddi gofynnir i’r Cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig i adolygu eu cofrestr gyfredol a’u diweddaru os oes angen.  Bydd nodyn atgoffa blynyddol yn cael ei anfon hefyd i wirio cywirdeb.

 

O ran Cynghorau Tref a Chymuned eglurwyd nad oedd gofyniad i’r aelodau hynny gofrestru. Ymddengys pan gedwir cofrestr byddai’r Clerc yn gyfrifol am sicrhau fod fersiwn electronig yn cael ei gyhoeddi.    Rhoddir cyngor ynglŷn â’r sefyllfa gyfreithiol pan ceir eglurhad cliriach.

 

Ystyriodd y pwyllgor yr ansicrwydd o ran gofynion ar gyfer y Cynghorau Tref/Cymuned a mynegwyd ychydig o bryder y byddai gorfod cofrestru eu cysylltiadau yn achosi i ymgeiswyr posibl beidio â sefyll yn yr etholiad lleol.   Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod pob Cyngor Tref/Cymuned yn penderfynu a ydynt am gynnal cofrestr yn unigol ond nad oedd gofyniad i wneud hynny.   Cadarnhaodd fod gofyniad fod gan bob cyngor eu gwefan eu hunain yn y dyfodol ac eglurodd mai'r mater oedd, o ran tryloywder, y byddai gofyniad i gyhoeddi cofrestr electronig os oedd cofrestr yn cael ei gadw. Byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn cael ei dehongli gan y Swyddogion Monitro a Grŵp Llywodraethu ac wedi hynny byddai nodyn briffio yn cael ei gyflwyno i Glercod Cynghorau Tref/Cymuned yn rhoi cyngor cyfreithiol. Cadarnhawyd i’r Aelodau na roddir unrhyw bwysau ar y cynghorau tref/cymuned i gydymffurfio gydag arferion penodol o ran dewis cofrestru cysylltiadau'r aelodau neu beidio.

 

Cafwyd trafodaeth gyffredinol ynglŷn â’r gofyniad ar gynghorau tref/cymuned i gyhoeddi gwybodaeth ar y we ac argaeledd cyllid grant i’r diben hwn. Adroddodd y Cynghorwyr lleol ynglŷn ag arferion cyfredol eu cynghorau unigol o ran hyn a chydnabu’r Aelodau bod manteision ac anfanteision cynnal a chyhoeddi cofrestr cysylltiadau aelodau.   O ran yr anawsterau posibl ar gyfer rhai Cynghorau Tref/Cymuned i gyhoeddi cofrestr electronig ystyriodd yr aelodau pa gefnogaeth y gallai’r Cyngor Sir ei gynnig o ran hynny.   Y cydsyniad cyffredinol oedd nad oedd yn briodol i’r Cyngor Sir gynnal cofrestr ganolog ar ran y cynghorau ond gellir ystyried ymhellach ynglŷn â darparu cymorth ar ôl cael penderfyniad penodol os oedd gofyniad i gyhoeddi fersiwn electronig.    Teimla’r pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol gofyn am farn y Cynghorau Tref a Chymuned ynglŷn â chynnal cofrestr a newidiadau deddfwriaethol.

 

Fel pwynt i’w nodi eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y pŵer i wneud penderfyniad wedi’i nodi’n anghywir fel Deddf 1972 ym mharagraff 10.1 yr adroddiad ac y dylai nodi Deddf Llywodraeth Leol 2000.

 

 PENDERFYNWYD -

 

(a)       Bod yr Aelodau'n nodi'r newidiadau deddfwriaethol sy'n ymwneud â Chofrestr Cysylltiadau’r Aelodau a chymeradwyo'r camau a gymerir i sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â'r newidiadau hynny.

 

(b)       Gofyn i’r Swyddog Monitro ysgrifennu at Glercod Cynghorau Tref a Chymuned yn nodi’r sefyllfa gyfreithiol a’r amwysedd o ran cyhoeddi fersiwn electronig o’r gofrestr ac yn gofyn am eu barn a safbwynt y cynghorwyr ynglŷn â chofrestr cysylltiadau aelodau, a

 

(c)       Adborth gan Gynghorau Tref a Chymuned yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Pwyllgor Safonau yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: