Eitem ar yr agenda
KINGDOM
Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) ar weithgareddau gorfodi swyddogion Kingdom at ddiben troseddau amgylcheddol, a chost a manteision y trefniadau presennol.
11.30 a.m.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr
Gwarchod y Cyhoedd, a oedd yn darparu diweddariad cynhwysfawr ar weithgareddau
Kingdom Security Ltd (KSL) i orfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol, sut yr
oedd y gwasanaeth wedi cael ei reoli a’i ddatblygu dros y 12 mis diwethaf, a’r
costau cysylltiedig, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.
Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad ac
eglurodd fod y Cyngor, ym mis Hydref 2012, wedi penodi KSL i gyflawni rôl bwysig
gorfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol ledled y Sir. Roedd KSL yn gyfrifol am
orfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol megis gadael sbwriel, baeddu gan
gŵn, gosod posteri’n anghyfreithlon, ysmygu mewn man amgaeëdig a graffiti.
Baeddu gan gŵn oedd y trosedd yr oedd pobl yn cwyno amdano’n fwyaf mynych,
a gadael sbwriel oedd y trosedd y rhoddwyd y mwyaf o HCBau amdano.
Roedd rôl a chylch gwaith swyddogion KSL wedi cael
eu crynhoi yn yr adroddiad. Roedd papurau briffio aelodau wedi cael eu hanfon
at yr holl Aelodau a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn chwarterol i ddarparu
diweddariadau ar weithgareddau swyddogion a nifer yr HCBau a oedd wedi cael eu
rhoi. Roedd Atodiad 1 yn ymgorffori’r papur briffio diweddaraf ar gyfer
Aelodau.
Roedd ymgyrchoedd arbennig wedi cael eu cynnal i
fynd i’r afael ag ardaloedd lle’r oedd baeddu gan gŵn yn broblem, a’r
rheiny’n cynnwys ymgyrchoedd yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau mewn
lleoliadau amrywiol. Roedd teledu cylch cyfyng wedi cael ei ddefnyddio i
ategu’r ymgyrchoedd ac roedd digwyddiad addysgol llwyddiannus a barodd am
wythnos wedi cael ei gynnal ar Stryd Fawr y Rhyl.
Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint darparodd cynrychiolwyr KSL ddeunydd
fideo ar gyfer yr Aelodau a oedd yn dangos HCB yn cael ei roi ar Coast Road
rhwng y Rhyl a Phrestatyn.
Roedd gwybodaeth ariannol a manylion cefndir yr
HCBau wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad. Roedd cyfanswm y patrolau a
gwblhawyd ledled y Sir a nifer y rhybuddion a’r rhybuddiadau a roddwyd wedi
cael eu hymgorffori yn Atodiad 2. Hysbyswyd yr Aelodau fod manylion cwynion a
gafwyd ers mis Hydref 2012, y weithdrefn ymchwilio a fabwysiadwyd, y broses
ymgynghori, risgiau a chamau a gymerwyd i fynd i’r afael â hwy wedi cael eu
darparu hefyd.
Cafodd yr Aelodau fanylion y cynllun “amser i’w finio i fod ar eich ennill”
a gyflwynwyd gan KSL i roi mwy o gymhelliad i’r cyhoedd waredu eu sbwriel a
gwastraff cŵn mewn modd cyfrifol. Amlygodd y Cynghorydd Smith bwysigrwydd
cynnal momentwm y gwaith a oedd yn cael ei wneud o ran gorfodi yn erbyn
troseddau amgylcheddol yn y Sir.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd R.M. Murray ynghylch
darparu canllawiau ac eglurder mewn perthynas â’r gofyniad i swyddogion KSL
wisgo iwnifformau swyddogol wrth gyflawni eu dyletswyddau swyddogol, eglurodd
cynrychiolwyr KSL fod y wisg hamdden yn fwy ffafriol wrth gyflawni rhai
gweithgareddau, megis y rhai sy’n ymwneud â throseddau baeddu gan gŵn.
Eglurodd cynrychiolwyr KSL na fyddent yn gallu rhoi ymateb pellach i unrhyw
gwynion a gafwyd tra’u bod yn disgwyl am ddadansoddiad llawn o unrhyw
dystiolaeth gysylltiedig. Hysbyswyd y Cynghorydd Murray y byddai’n cael ymateb
manwl, a allai fod yn gysylltiedig ag aelodau o’r cyhoedd, wedi i’r
ymchwiliadau gael eu cwblhau. Rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau y byddai swyddogion
KSL yn gwisgo iwnifformau swyddogol yn y dyfodol wrth gyflawni dyletswyddau yng
Nghanol Trefi.
Cafodd manylion y defnydd o gamerâu ar y corff gan swyddogion KSL, a’r
oriau pan fo swyddogion yn cyflawni eu dyletswyddau, eu darparu ar gyfer y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD – yn amodol ar gael eglurhad o ganllawiau’r Cyngor i’r Cwmni ynghylch
gwisgo iwnifform gan swyddogion gorfodi, bod y Pwyllgor yn cefnogi parhad y
dull a’r bartneriaeth gyda Kingdom Security Ltd ar gyfer gorfodi yn erbyn troseddau
amgylcheddol.
Dogfennau ategol:
- Kingdom Report, Eitem 7. PDF 88 KB
- Kingdom Report App 1, Eitem 7. PDF 148 KB
- Kingdom Report App 2, Eitem 7. PDF 256 KB
- Kingdom Report App 3, Eitem 7. PDF 259 KB