Eitem ar yr agenda
GORCHMYNION RHEOLI CŴN
Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) ar y posibilrwydd i’r Cyngor gyflwyno rheolaethau cyfreithiol ychwanegol dros gŵn a'u perchnogion ar draws y Sir.
10.55 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
(PCaGC), a oedd yn manylu ar y potensial i’r Cyngor gyflwyno rheolaethau
cyfreithiol ychwanegol dros gŵn a’u perchnogion ledled y Sir, wedi cael ei
ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.
Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad a hysbysodd yr Aelodau ynghylch
pwerau cyfreithiol ychwanegol sydd ar gael i gymryd camau gorfodi yn erbyn
perchnogion cŵn anghyfrifol, a gofynnodd am gymeradwyaeth i ganiatáu i
swyddogion ganlyn arni ag ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cyflwyno Gorchmynion
Rheoli Cŵn ledled y Sir.
Roedd Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 a Deddf Cymdogaethau Glân a’r
Amgylchedd 2005 wedi cael eu crynhoi yn yr adroddiad. Roedd cwynion yn dod i
law yn fynych ynghylch baeddu gan gŵn ac roedd pwerau cyfredol yn cyfyngu
ar y camau gweithredu y gellid eu cymryd yn erbyn perchnogion cŵn a oedd yn
caniatáu i’w cŵn faeddu mewn ardaloedd penodol. Roedd dadl glir o safbwynt
iechyd y cyhoedd a gwella amwynder dros gyflwyno mwy o reolaethau cyfreithiol,
ar ffurf Gorchmynion Rheoli Cŵn, i fynd i’r afael â phroblem rheoli
cŵn mewn ffordd wahanol a mwy cadarn. Roedd baeddu gan gŵn yn cael ei
reoli ar hyn o bryd gan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996, a oedd yn ei gwneud
yn anghyfreithlon methu â chodi baw wedi i’ch ci faeddu tir.
Fodd bynnag roedd esemptiadau ar gyfer rhai mathau o dir cyhoeddus gan
gynnwys tir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth neu goetiroedd, tir comin
gwledig, tir sy’n bennaf yn gorstir, gweundir neu rostir a thir priffordd â
therfyn cyflymder o 40mya neu fwy. Nid oedd modd cymryd camau gorfodi ar hyn o
bryd yn yr ardaloedd hyn.
Eglurodd y Cynghorydd Smith fod cynnig yn cael ei wneud i gyflwyno 3
Gorchymyn Rheoli Cŵn yn amodol ar ymgynghori â Chynghorau Dinas, Tref a
Chymuned, aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Roedd y
Gorchmynion hyn yn cynnwys:-
·
Gorchymyn Baeddu Tir gan Gŵn (CSDd) Drafft
2014. Byddai hwn yn ei gwneud yn
anghyfreithlon baeddu ar unrhyw dir o fewn ardal weinyddol y Cyngor oni bai fod
yr unigolyn wedi cael caniatâd gan y tirfeddiannwr.
·
Gorchymyn Cŵn ar Dennyn yn ôl Cyfarwyddyd (CSDd)
Drafft 2014. Byddai hwn yn ei gwneud yn
anghyfreithlon bod â chi yn eich gofal nad oedd ar dennyn ar unrhyw briffordd
neu unrhyw dir arall oedd ag arwydd eglur ym mhob mynedfa’n dynodi bod yn rhaid
i gŵn gael eu cadw ar dennyn. Roedd yr ardaloedd o ‘dir arall’ wedi cael
eu diffinio yn Atodiad 1.
·
Gorchymyn Gwahardd Cŵn (CSDd) Drafft 2014. Byddai
hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gŵn fynd i mewn i ardal ddynodedig
oedd ag arwyddion eglur ym mhob mynedfa’n dynodi bod cŵn wedi’u gwahardd
yn benodol. Byddai’r ymgynghoriad yn nodi pa ardaloedd yn union y gellir eu
cynnwys fel ardaloedd gwahardd, ac roedd hyn wedi’i gynnwys yn Atodiad 2.
Byddai torri Gorchmynion yn gyfystyr â thramgwydd troseddol a gellid naill
ai erlyn amdano yn y Llys Ynadon neu roi’r cyfle i berchennog y ci dalu HCB
rhwng £75 a £150. Y gosb ariannol ar hyn o bryd oedd £75 a byddai’r dull
gorfodi llym mewn perthynas â methiant i dalu’r HCB yn parhau, gyda phobl sy’n
dewis peidio â thalu eu HCB yn cael eu herlyn. Cynigiodd y Cynghorydd H.O.
Williams, gyda’r Cynghorydd C.H. Williams yn eilio, welliant bod yr HCB yn cael
ei godi o £75 i £100. Roedd y bleidlais yn gyfartal a defnyddiodd y Cadeirydd
ei bleidlais fwrw o blaid yr argymhelliad yn yr adroddiad, bod yr HCB yn aros
ar £75, ac fe fethodd y gwelliant.
Roedd manylion y broses ymgynghori a ddilynwyd wedi cael eu cynnwys yn yr
adroddiad. Roedd yr angen am reolaethau cyfreithiol ychwanegol ar ffurf
Gorchmynion Rheoli Cŵn wedi cael ei gytuno’n flaenorol fel rhan o
Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ar Atal Baeddu gan Gŵn. Pe rhoddid
cymeradwyaeth i symud ymlaen, byddai cyfnod ymgynghori 28 diwrnod yn cael ei
gynnal gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Cynghorwyr Sir, aelodau’r
cyhoedd a rhanddeiliaid dynodedig eraill. Byddai’r holl ymatebion yn cael eu
trafod gyda’r Aelod Arweiniol, a phwysleisiwyd pe bai’r Gorchmynion yn cael eu
gweithredu y byddai angen i’r dull gorfodi fod yn sensitif, yn gymesur ac yn
raddol. Byddai hyn yn cynnwys defnyddio rhybuddion llafar, arwyddion priodol a
chyhoeddusrwydd.
Gofynnodd y Cynghorydd H.O. Williams am ystyriaeth i’r posibilrwydd o
ymestyn ardaloedd gorfodi y tu hwnt i derfynau meysydd parcio gwledig, megis yr
un yn Moel Famau, i gynnwys llwybrau troed, ardaloedd o fewn yr AHNE a
lleoliadau poblogaidd eraill a ddefnyddir gan y cyhoedd. Eglurodd y Cynghorydd
Smith fod problemau wedi codi mewn perthynas â gosod biniau ac arwyddion
gwastraff cŵn o fewn yr AHNE.
Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r ceisiadau canlynol gan Aelodau-:
·
bod fersiwn Cymraeg yr arwyddion baeddu gan gŵn yn
cael ei gywiro gan fod y cyfieithiad yn anghywir.
·
bod copi o’r llythyr a anfonwyd at yr holl Gynghorau Tref
a Chymuned yn erfyn arnynt i brynu biniau baw cŵn a buddsoddi mewn cadw eu
cymunedau’n daclus yn cael ei anfon at bob cynghorydd sir er gwybodaeth.
·
bod cyfathrebiad yn cael ei anfon at yr holl Gynghorwyr
Sir yn eu hysbysu ble y gellid cael bagiau baw cŵn er mwyn iddynt allu
hysbysu eu trigolion.
·
bod dichonoldeb anfon hysbyslenni at yr holl drigolion
gyda’u biliau Treth Gyngor yn amlinellu’r cosbau am droseddau baeddu gan
gŵn yn cael ei archwilio.
Darparwyd manylion cyfyngiadau mewn perthynas â chŵn ar draethau o
fewn y Sir mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Aelodau. Cynigiodd y Cynghorydd
H.O. Williams, gyda’r Cynghorydd C.H. Williams yn eilio, welliant bod yr HCB yn
cael ei godi o £75 i £100. Roedd y bleidlais yn gyfartal a defnyddiodd y
Cadeirydd ei bleidlais fwrw o blaid yr argymhelliad yn yr adroddiad, bod yr HCB
yn aros ar £75, ac fe fethodd y gwelliant.
Yn dilyn trafodaeth bellach rhoddodd y Pwyllgor ei gefnogaeth i egwyddor
cyflwyno gorchmynion rheoli cŵn ledled y Sir, ac yna:-
PENDERFYNWYD – fod y Pwyllgor:-
(a) yn cefnogi ac
yn cytuno â’r opsiynau ar gyfer Gorchmynion Rheoli Cŵn a gyflwynir yn yr
adroddiad,
(b) yn argymell
bod swyddogion yn cael canlyn arni ag ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cyflwyno
Gorchmynion Rheoli Cŵn ledled y Sir, ac
(c) yn argymell
bod yr Hysbysiadau Cosb Benodedig sy’n gysylltiedig â’r Gorchmynion Rheoli
Cŵn arfaethedig yn cael eu pennu ar £75.
Dogfennau ategol: