Eitem ar yr agenda
Y POLISI PARCIO AC YMARFER CWMPASU’R ADOLYGIAD TRAFFIG A PHARCIO
Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2014 (copi'n
amgaeëdig).
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol (PGPacA), a oedd yn rhoi trosolwg o’r polisi parcio drafft newydd
ac yn manylu ar yr ymarfer cwmpasu a gynhaliwyd i asesu opsiynau ar gyfer
cynnal Adolygiad Traffig a Pharcio (ATaPh) ar gyfer y prif drefi ar draws Sir
Ddinbych, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.
Cyflwynodd y Rheolwr Adain: Traffig a Thrafnidiaeth (RhATaTh) yr adroddiad
a oedd yn dilyn yr un a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2013, Atodiad A, pan
gytunwyd y byddai’r polisi parcio’n cael ei adolygu ac y byddai ymarfer
cwmpasu’n cael ei gynnal i asesu’r opsiynau ar gyfer ATaPh.
Roedd rhai eitemau yn y Polisi presennol, Atodiad B, yn dal yn berthnasol
gyda rhai wedi cael eu disodli oherwydd datblygiadau wedi hynny. Roedd y polisi
newydd, Atodiad C, yn mabwysiadu dull a oedd yn cydnabod y rôl y gallai
rheolaeth parcio effeithiol ei chyflawni o ran cefnogi’r economi leol. Gallai
cyfundrefn barcio a reolir yn dda gael effaith gadarnhaol o ran cynorthwyo
canolfan adwerthu. Roedd y deg blaenoriaeth yn y polisi newydd wedi cael eu
rhestru yn yr adroddiad.
Eglurwyd mai Cam Gweithredu 5.1d yn y “Strategaeth Uchelgais Economaidd a
Chymunedol” fu cynnal ATaPh ar gyfer y prif drefi ar draws Sir Ddinbych. Roedd
yr ymarfer wedi arwain at ddatblygu methodoleg awgrymedig ar gyfer yr ATaPh a
oedd wedi’i chynnwys yn Atodiad D. Roedd adborth oddi wrth y Bwrdd Uchelgais
Economaidd a Chymunedol wedi cael ei ymgorffori yn y fethodoleg.
Darparodd y CC-UEaCh a’r Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (PTaDC) fanylion
yr adolygiad a’i arwyddocâd o ran adnabod anghenion y trigolion, busnesau
lleol, a’i bwysigrwydd o ran hybu a chefnogi’r economi leol.
Roedd yr ATaPh wedi cael ei gynnig i arfarnu sut y gallai rheolaeth parcio
a thraffig gyfrannu at y Flaenoriaeth Gorfforaethol i ddatblygu’r economi leol,
ac roedd wedi cael ei gydnabod na allai darpariaeth parcio ar ei phen ei hun
ddylanwadu ar hyfywedd a ffyniant canolau trefi. Roedd pwysigrwydd arwyddion
da, darparu mynediad diogel ar gyfer cerddwyr, beicwyr, cludiant teithwyr a’r rhai
â nam ar eu symudedd wedi cael ei amlygu hefyd. Nodwyd y gallai tagfeydd
traffig neu “rwydd hynt i bawb” barcio o bosib greu amgylchedd anatyniadol,
anniogel a digroeso.
Cafodd manylion y data a ddarparwyd gan fesuryddion talu ac arddangos
presennol ei amlinellu, ac eglurwyd fod diffyg data mewn meysydd penodol ar hyn
o bryd wedi ei gwneud yn anos arfarnu ac asesu’r costau cysylltiedig. Roedd y
man cychwyn arfaethedig ar gyfer yr ATaPh wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad,
a’r cam terfynol fyddai adnabod datrysiadau posib i geisio gwella dylanwad
rheolaeth traffig a pharcio yng nghanol trefi. Roedd crynodeb o’r costau wedi
cael ei gynnwys yn yr adroddiad.
Hysbyswyd yr Aelodau y byddai angen i’r adolygiad o’r polisi parcio gael ei
gynnal o fewn cyllidebau presennol gwasanaethau, a bod angen asesu’r effaith ar
gostau a lefelau incwm yn ystod adolygiadau. Byddai angen i’r pwysau cyllidebol
cyfredol, yn bennaf mewn perthynas â meysydd parcio Prestatyn a’r Rhyl, gael eu
hystyried fel rhan o’r adolygiadau. Roedd dogfen Asesu’r Effaith ar
Gydraddoldeb wedi cael ei chynnwys yn Atodiad E.
Trafododd yr Aelodau gynnwys yr adroddiad yn fanwl ac fe nodwyd y camau
gweithredu a’r materion canlynol:-
· yr angen i gysylltu â Chynghorau Tref
ynghylch y diwrnodau mwyaf priodol i’w clustnodi fel ‘diwrnodau parcio am ddim’
i sicrhau nad yw’r Sir yn dioddef colledion incwm sylweddol.
· ei bod yn bwysig sicrhau bod yr holl
fesuryddion talu ac arddangos yn casglu data perthnasol a defnyddiol i
alluogi’r Cyngor i’w ddefnyddio’n effeithiol.
· angen i feysydd parcio fod ag arwyddion eglur
ar gyfer arosiadau byr a hir a bod yr holl arwyddion yn gyfredol a chyfoes.
· y dylai’r ddarpariaeth parcio ar gyfer
coetsis mewn trefi gael ei hymgorffori fel rhan o’r adolygiad.
· yr angen i archwilio darpariaeth parcio yn
ardaloedd gwledig y Sir, yn enwedig mewn ardaloedd twristaidd.
· Materion cynnal a chadw a nifer y ceudyllau
mewn meysydd parcio yr oedd gofyn rhoi sylw iddynt.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cafwyd cais gan yr Aelodau i gynnwys
adroddiad cynnydd ar yr Adolygiad Parcio ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ar
gyfer Hydref 2014.
PENDERFYNWYD – yn amodol ar ystyriaeth i’r pwyntiau uchod a’u cynnwys yn yr adroddiad,
bod y Pwyllgor:-
(a) yn cymeradwyo
cyflwyno’r polisi parcio newydd a oedd wedi’i ddrafftio yn Atodiad C wrth yr
adroddiad.
(b) yn cefnogi’r dull awgrymedig o gynnal adolygiad
traffig a pharcio ar gyfer y trefi a restrir yn yr adroddiad, ac
(c) yn gofyn am adroddiad ar ganfyddiadau’r adolygiad
traffig a pharcio i’r Pwyllgor yn hydref 2014.
Dogfennau ategol: