Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MODERNEIDDIO ADDYSG – ADRODDIAD CYNNYDD

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) a oedd yn rhoi manylion am y cynnydd o ran Moderneiddio Addysg.

                                                                                                          9.35 a.m.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (HCES), a oedd yn manylu canfyddiadau'r Adolygiad Gateway o Raglen Moderneiddio Addysg Sir Ddinbych ac yn rhoi diweddariad cyffredinol ar y cynnydd presennol o brosiectau unigol, wedi’i ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cyflwynodd yr HCES yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion y cynnydd yn erbyn Blaenoriaeth allweddol y Cyngor.  Fel rhan o ddarpariaeth y Cynllun Corfforaethol, roedd y ffrwd waith ar gyfer y flaenoriaeth o wella perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ysgolion wedi cael ei datblygu i fod yn rhaglen glir o waith.  RRoedd y prosiectau cyfredol, a oedd yn rhan o'r ffrwd waith, yn cynnwys y prosiectau cyfalaf mawr a’r cynigion trefniadaeth ysgolion.  Roedd trafodaethau gyda LlC wedi nodi'r manteision o gynnal Adolygiad Gateway ar y ffrwd waith i ddarparu rhywfaint o sicrwydd ynghylch y mesurau a oedd ar waith i reoli'r rhaglen.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, eglurodd y HCES y byddai fersiwn Gymraeg o'r ddogfen Adolygiad Gateway PGC yn cael ei dosbarthu i'r Aelodau, os byddai fersiwn Gymraeg ar gael.

 

Roedd Adolygiad Gateway ffurfiol wedi'i wneud o Raglen Moderneiddio Addysg Sir Ddinbych ym mis Medi.  Roedd tîm Adolygiad Gateway annibynnol wedi cyfweld â phersonél sy'n ymwneud â’r Rhaglen  Moderneiddio Addysg.  Roedd y system adolygu wedi darparu pum categori o farn yn amrywio o Wyrdd, Ambr/Gwyrdd, Ambr, Ambr/Coch a Choch.  Mae'r asesiad hyder darparu cyffredinol o’r adolygiad wedi bod yn Ambr/Gwyrdd – Roedd darparu'n llwyddiannus yn ymddangos yn debygol, fodd bynnag, byddai angen rhoi sylw cyson i sicrhau nad oedd risgiau’n troi’n faterion o bwys a oedd yn bygwth darpariaeth.

 

RRoedd yr adroddiad yn cyfeirio at y canfyddiadau a'r argymhellion o'r adolygiad, a gafodd eu hymgorffori yn Atodiad 1. 

 

Mynegwyd pryderon ynglŷn â'r ansicrwydd o gyllid yn y dyfodol â'r Rhaglen Ysgolion Sir Ddinbych yn cael ei heffeithio gan benderfyniadau ar swm, amseriad a natur cefnogaeth ariannol LlC. Roedd Sir Ddinbych wedi ystyried sut y gallai liniaru'r effaith o lai o gyllid gyda’i raglen buddsoddi mewn ysgolion.

 

Eglurwyd er bod amcanion polisi ar gyfer y Rhaglen wedi’u pennu, byddai datganiad gweledigaeth cyffredinol yn nodi sut byddai'r dyfodol yn edrych yn ddefnyddiol.  Roedd yr adolygiadau ardal wedi darparu sail gadarn i’r Rhaglen.  Fodd bynnag, nid oedd mynegiant clir eto o sut y byddai'r canfyddiadau o'r ardaloedd unigol, a’r weledigaeth a ddeilliodd o'r gwaith hwnnw, yn cael eu hadlewyrchu ar lefel Rhaglen.  Er bod manteision pendant a manteision cyffredinol wedi’u nodi ar lefel prosiect, roedd gwaith i ddod â’r rhain ynghyd ar lefel Rhaglen yn dal i gael ei ddatblygu.  Roedd yr angen i gasglu dangosyddion o gyfraniad y Rhaglen at ganlyniadau addysgol yn y Sir wedi’u nodi.

 

Roedd y pedwar prif argymhelliad a wnaed gan yr adolygiad wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.  At ei gilydd, roedd canfyddiadau'r adolygiad yn dangos bod y Rhaglen mewn sefyllfa gref i gyflawni canlyniadau a fwriadwyd, ac roedd cofrestr risg lefel Rhaglen wedi’i diweddaru wedi cael ei chyflwyno i’r Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg (MEPB).  Byddai Rheolwr y Rhaglen yn gyfrifol am arwain ar y darnau o waith a oedd yn weddill, a byddai cynnydd yn eu herbyn yn cael eu hadrodd i'r MEPB ym Mawrth.  Roedd manylion am Aelodaeth yr MEPB yn cael eu darparu gan yr HCES a chytunodd i fynd ar drywydd yr awgrym y gallai Aelodau Archwilio fod yn bresennol, ac o bosibl, fod yn aelodau o'r Bwrdd.

         

Mae'r cynnydd cyfredol yn erbyn y Rhaglen wedi cael ei asesu drwy brosesau her mewnol fel Adroddiadau Perfformiad Chwarterol a'r MEPB.  Rhoddodd y HCES grynodeb o Atodiad 2, Diweddariad Moderneiddio’r Rhaglen Addysg, a oedd yn amlinellu cwmpas a chynnydd y prosiectau sy'n cael eu cynnal ledled y Sir.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd E. W. Williams at y diffyg dealltwriaeth o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg a chyfeiriwyd yn arbennig at bresenoldeb gwael gan aelodau etholedig mewn cyfarfodydd, digwyddiadau a sesiynau yn ymwneud â materion addysg.  Eglurodd y HCES y byddai barn yr Aelodau Etholedig a Chyfetholedig yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.  Pwysleisiodd yr angen i barhau i gyfathrebu a thynnu sylw at nodau ac amcanion y Rhaglen Moderneiddio Addysg i fudd-ddeiliaid a dinasyddion, gyda'r bwriad o gael gwell dealltwriaeth o'r rhaglen a'i manteision i’r holl breswylwyr.  Mae'r Rhaglen yn cynnwys ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a byddai ei darparu'n llwyddiannus yn cyfrannu tuag at adfywio’r Sir.

 

Amlygwyd pwysigrwydd lefel y buddsoddiad cyfalaf gan Sir Ddinbych gan y Cynghorydd E.W. Williams, mewn perthynas â diogelu cyllid grant ar gyfer prosiectau’r dyfodol. Cyfeiriodd at Gynllun Cyfalaf yr Awdurdod a phwysigrwydd y Cynllun Corfforaethol.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd, eglurwyd y byddai'n bwysig parhau i weithio gydag ysgolion a budd-ddeiliaid i ad-drefnu adeiladau ysgol er mwyn galluogi grwpiau cymunedol i'w defnyddio y tu allan i amser ysgol, ac i hyrwyddo’r weledigaeth o gael ysgolion modern, sy'n sefydliadau addysgol, yn ogystal ag yn asedau cymunedol at ddefnydd preswylwyr, heb gael effaith andwyol ar fwynderau cymunedol lleol eraill.  Rhoddodd y Swyddogion sicrwydd bod pob ymdrech bosibl yn cael ei wneud i sicrhau bod adeiladau ysgolion yn ddiogel rhag fandaliaeth hefyd, gwnaed hyn trwy weithio mewn partneriaeth agos â sefydliadau eraill, fel yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

 

Mewn ymateb i faterion a godwyd gan y Cynghorydd R. J. Davies,  cytunwyd i ymchwilio i'r 'piler' honedig yng nghanol neuadd Addysg Gorfforol yn Ysgol Plas Brondyffryn, a hefyd y trefniadau ar waith i alluogi mynediad cyfartal i ddisgyblion yn yr ysgol at y cyfleusterau chwaraeon yn safle cyfagos Ysgol Uwchradd Dinbych.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, llongyfarchodd y Pwyllgor y staff sy'n ymwneud â'r Rhaglen Moderneiddio Addysg am eu gwaith diwyd, ac fe:-

 

BENDERFYNWYD - yn amodol ar y sylwadau uchod, i nodi canfyddiadau'r Adolygiad Gateway ar y cynnydd cyffredinol yn erbyn y flaenoriaeth allweddol hon gan y Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: