Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYFAMOD CYMUNEDOL GYDA'R LLUOEDD ARFOG (TACH/ RHAG 2013)

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Ymgysylltu â'r Gymuned (copi ynghlwm), er mwyn rhoi diweddariad blynyddol ar sut mae'r mesurau a gyflwynwyd o dan y cyfamod wedi cefnogi cymuned y lluoedd arfog yn Sir Ddinbych, ac er mwyn i'r Pwyllgor ystyried a oes angen unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth er mwyn cryfhau'r cyfamod.

9.35 a.m. – 10.10 a.m.

 

 

Cofnodion:

Fe wnaeth yr Aelod Arweiniol dros Gymunedau gyflwyno’r Adroddiad ar y Cyfamod Cymunedol gyda’r Lluoedd Arfog (a oedd wedi cael ei gylchredeg yn flaenorol) i Aelodau ystyried diweddariad blynyddol ar y modd y mae’r mesurau a gyflwynwyd dan y cyfamod wedi rhoi cymorth i gymuned y lluoedd arfog yn Sir Ddinbych ac i’r Pwyllgor ystyried a yw’n ofynnol gwneud unrhyw newidiadau i’r ddarpariaeth gyda golwg ar gryfhau’r cyfamod.

 

Datganiad gwirfoddol o gydgymorth rhwng cymuned sifil a chymuned leol y lluoedd arfog yw Cyfamod Cymunedol. Roedd wedi’i fwriadu i ategu Cyfamod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog a oedd yn amlinellu’r rhwymedigaeth foesol rhwng y Wlad, y Llywodraeth a’r Lluoedd Arfog, ar lefel leol.

 

Fe wnaeth y Cyngor Llawn fabwysiadu’r Cyfamod yn ffurfiol ar 11 Medi 2012 a gofyn i’r Pwyllgor Archwilio ei argyhoeddi ei hun ynghylch y mesurau yr oedd Sir Ddinbych yn dymuno’u mabwysiadu.

 

Cytunodd y Cyngor i enwebu “Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog” (Yr Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Y Cynghorydd Huw Irving) a rhywun penodol i fod yn “Swyddog Arweiniol y Lluoedd Arfog” (Y Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol).

 

Roedd gweithdy wedi cael ei gynnal gyda chynrychiolwyr o elusennau allweddol y lluoedd arfog a sefydliadau yn y sector cyhoeddus i wella dealltwriaeth am y materion sy’n wynebu personél a chyn-aelodau’r lluoedd arfog. Rôl y gweithgor oedd cydlynu camau gweithredu, adnabod bylchau yn y ddarpariaeth a chyfnewid gwybodaeth ac arfer da. 

 

Un o’r camau gweithredu allweddol a adnabuwyd gan y Cyfamod oedd yr angen i sefydlu tudalen wybodaeth bwrpasol ar wefan Cyngor Sir Ddinbych gyda dolenni i sefydliadau a allai roi cyngor a chymorth mewn perthynas â materion sy’n amrywio o bryderon ynghylch lles i gyngor ynghylch gyrfaoedd.

 

Roedd y Fyddin wedi cysylltu â Chyngor Sir Ddinbych gyda phrosiect ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan i ddatblygu profiad ymwelwyr/addysgol yn y Castell a fyddai’n cynnwys rhwydwaith ffosydd cynhwysfawr o’r Rhyfel Byd Cyntaf fel rhan o Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Bu cais am gyllid o Gronfa Gymunedol y Weinyddiaeth Amddiffyn yn llwyddiannus ac fe gymeradwywyd grant o £225,000. Roedd disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn y gwanwyn a bydd y prosiect yn un am bum mlynedd. Ar ddiwedd y pum mlynedd, byddai Ymddiriedolaeth y Castell yn dod yn gyfrifol am y ffosydd. Byddai plant ysgol yn cael eu hannog i ymweld â’r ffosydd ac roedd rhaglen addysgol yn cael ei datblygu at y diben hwn ledled Gogledd Cymru a Sir Gaer.

 

Rôl y Cyngor fyddai monitro’r agwedd ariannol ar y prosiect a rhyddhau arian yn briodol.

 

Roedd tystiolaeth bod nifer o bersonél y lluoedd arfog sy’n gadael y lluoedd arfog yn dioddef problemau ariannol a seicolegol. Roedd Sir Ddinbych yn gweithio gyda grwpiau partner i gynorthwyo’r bobl hyn i gael eu hintegreiddio o fewn y gymuned.

 

Roedd y Cynghorydd Cefyn Williams yn teimlo, o safbwynt cydraddoldebau, na ddylai personél y lluoedd arfog gael blaenoriaeth dros bobl leol ar gyfer tai oni bai fod ganddynt gysylltiad lleol. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe hysbysodd y Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol fel a ganlyn:

  • Roedd personél y Lleng Brydeinig Frenhinol wedi ymweld â’r Awdurdod i hyfforddi staff Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gwasanaethau Cymdeithasol ar anghenion penodol personél y fyddin
  • Roedd darn o waith ar fin cael ei wneud i fapio materion allweddol sy’n effeithio ar bersonél y lluoedd arfog a’r sefydliadau hynny a allai eu helpu. Rhoddodd y Swyddog Prosiect Graddedig amlinelliad byr o’i rôl hi yn y gwaith mapio hwn.
  • Dywedodd y byddai’n gwneud ymholiadau i weld a oedd unrhyw gyllid ar gael i alluogi perthnasau dioddefwyr y Rhyfel Byd Cyntaf a pherthnasau personél a laddwyd mewn rhyfeloedd eraill i fynd i weld eu beddi yn Ewrop ac mewn rhannau eraill o’r byd
  • Dywedodd fod y Gweithgor yn y broses o lunio cynllun gweithredu cydgysylltiedig a fyddai’n cynorthwyo sefydliadau i helpu ei gilydd a helpu personél y lluoedd arfog

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau’n cefnogi’r camau gweithredu a gymerir.

 

 

Dogfennau ategol: